Trowch y cloc yn ôl i 1910. Mae Swtan yn drysor o gelfi, deunyddiau, potiau, padelli a lluniau o’r cyfnod. Wrth ymweld â’r bwthyn a’r ardal o’i gwmpas, mae’n hawdd dychmygu sut roedd teulu bach yn brwydro i fyw heb dd ˆwr, toiledau ac ystafelloedd cysgu – y cyfan a oedd ganddynt oedd ychydig o anifeiliaid, cae bychan a gardd berlysiau. Roeddynt yn gwneud popeth gyda llaw - o drwsio, golchi, coginio a magu’r anifeiliaid. Y tu allan, fe welwch rywfaint o’r hen offer fferm a physgota – yr hyn a oedd yn angenrheidiol yn unig ar gyfer bywyd syml trwy beth oedd natur yn ei ddarparu yn unig.

- Cost
-
Codir ffi i ymweld â Swtan. Ewch i www.swtan.co.uk am fwy o fanylion.
- Cyfleusterau
-
Mae modd parcio AM DDIM ac mae yma doiledau cyhoeddus. Mae lluniaeth ar gael yn ystod y tymor gwyliau o’r Caffi a’r bwyty cyfagos.
- Mynediad
-
Wedi’i leoli yn ardal hyfryd Porth Swtan, gellir cael mynediad rhwydd i Swtan ar hyd y lôn neu ar droed ar hyd y llwybr arfordirol.
- Cyfeiriad
- Holyhead, Rhyd-wyn, LL65 4EY, Ynys Môn, Cymru
Efallai y byddwch chi hefyd yn hoffi

Parc Sglefrio Llangefni
Cewch lawer o hwyl yma yn sglefrio ac mae yna offer ymarfer corff yma hefyd gan gynnwys pêl fasged.
Features



Y Parc
Mae’r Parc, Caergybi, yn cynnig mwy na phêl-droed yn unig - mae amrywiaeth o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yma gan gynnwys tennis, BMX, pêl-fasged, sglefrio, bowls, pêl-droed cerdded a mwy. Ceir hefyd gae 3G a chaffi, Cwt Crempog. Mae’r Parc hefyd yn gartref i nifer o glybiau megis Clwb Bowlio Caergybi a Chynghrair Pêl-droed Ynys Môn.
Features




Parc Gwledig y Morglawdd
Mae Parc Gwledig y Morglawdd wedi’i leoli ar safle hen chwarel oedd yn cyflenwi carreg ar gyfer Morglawdd Caergybi, yr hiraf yn Ewrop. Mae amrywiaeth o gynefinoedd ar gael yn y parc, gan gynnwys rhostir, ardaloedd arfordirol a llyn. Mae’n lleoliad perffaith ar gyfer cerdded, gwylio adar a mwynhau harddwch naturiol Ynys Môn. Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn rhedeg drwy’r warchodfa, gan ddarparu llwybrau cerdded gyda golygfeydd godidog!
Features







Canolfan Hamdden Amlwch
Gellir dod o hyd i wybodaeth am brisiau, hygyrchedd a chyfleusterau canolfannau hamdden Ynys Môn yma Ffioedd a thaliadau hamdden https://monactifonline.anglesey.gov.uk/bookings/
Features




Canolfan Hamdden Plas Arthur
Gellir dod o hyd i wybodaeth am brisiau, hygyrchedd a chyfleusterau canolfannau hamdden Ynys Môn yma Ffioedd a thaliadau hamdden https://monactifonline.anglesey.gov.uk/bookings/
Features





Canolfan Hamdden David Hughes
Gellir dod o hyd i wybodaeth am brisiau, hygyrchedd a chyfleusterau canolfannau hamdden Ynys Môn yma Ffioedd a thaliadau hamdden https://monactifonline.anglesey.gov.uk/bookings/
Features




Canolfan Hamdden Caergybi
Gellir dod o hyd i wybodaeth am brisiau, hygyrchedd a chyfleusterau canolfannau hamdden Ynys Môn yma Ffioedd a thaliadau hamdden https://monactifonline.anglesey.gov.uk/bookings/
Features




Canolfan Hamdden Biwmares
Mae'r ganolfan hamdden yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau drwy'r wythnos i gyd-fynd â phob oedran a lefelau ffitrwydd.
Features




Oriel Ynys Môn
Yma cewch gyflwyniad i hanes Ynys Môn. Cewch wybod am y diwydiannau a roddodd yr ynys ar y map.
Features

Plas Newydd
Cewch fwynhau yr awyr iach a'r daith gerdded hamddenol drwy’r ardd sy’n addas i bob oedran.
Features




Ynys Lawd
Fel un o’r safleoedd harddaf a mwyaf cyffrous ar Ynys Môn - codwyd y goleudy ar Ynys Lawd ar arfordir gogledd-orllewinol Môn fel pwynt cyfeirio i gychod y glannau, ac i helpu llongau sy’n croesi Môr Iwerddon rhwng porthladdoedd Caergybi a Dun Laoghaire.
Features


Melin Llynnon
Melin Llynnon, a adeiladwyd yn 1775, yw’r unig felin wynt weithredol yng Nghymru. Mae’n cynhyrchu blawd gwenith cyflawn gan ddefnyddio grawn organig.
Features

Archwiliwch leoliadau awyr agored
Yma, gallwch ddarganfod syniadau newydd am ble allwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud wrth chwarae yn yr awyr agored, gan gynnwys rhai o'r traethau, parciau, meysydd chwarae, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur gorau yng Ngogledd Cymru.
Gweld yn ôl Lleoliad