Glan y Môr Biwmares
Llawer i’w wneud yma, dewch â rhwyd ac ewch i hel crancod, chwarae yn y cae chwarae neu drochi eich traed yn y pwll padlo.
Features

WELSH Emotional Health Wellbeing and Resilience, North Wales
Out and About
Yma, gallwch weld syniadau ar ble allwch chi fynd i ymweld â'r traethau, parciau, meysydd chwarae, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur gorau ledled Gogledd Cymru.
Llawer i’w wneud yma, dewch â rhwyd ac ewch i hel crancod, chwarae yn y cae chwarae neu drochi eich traed yn y pwll padlo.
Dewch â phicnic, eich sgwter neu eich beic a bwced a rhaw a threuliwch y diwrnod yma.
Cofiwch eich ysbienddrych i wylio’r adar yn y warchodfa natur hefyd. Llosgwch eich egni drwy roi cynnig ar y llwybr ffitrwydd 10 gorsaf yn ogystal â 2 orsaf sy’n addas i gadeiriau olwyn. Mae’r Llwybr Ffitrwydd yn cyfuno ymarfer corff a gynlluniwyd yn wyddonol gyda cherdded neu loncian er mwyn darparu rhaglen ffitrwydd gytbwys i’r corff cyfan.
Cae chwarae yn edrych dros yr harbwr, gallwch wylio’r cychod yn mynd a dod wrth i chi chwarae.
Mae’n daith gerdded hanner milltir ar hyd glan yr afon dywodlyd a phan fyddwch yn cyrraedd, mae’r traeth yn fawr ac yn eang. O’i amgylch, mae pentiroedd glaswelltog dymunol sy’n cefnu ar y twyni tywod.
Cae chwarae wedi’i leoli gyferbyn â’r traeth. Mae i’r traeth ardal ymdrochi diogel ac wedi’i marcio gan fwiau.
Mae gan draeth Benllech dywod melyn hyfryd a d ˆwr clir sy’n ddiogel iawn ar gyfer ymdrochi a phadlo ac mae digon o byllau creigiau i’w hymchwilio. Pan fydd y llanw yn isel, mae milltiroedd o draeth i’w weld gan roi digon o le i blant ifanc chwarae neu fynd am dro.
Mae Rhosneigr yn le rhagorol ar gyfer cerdded ar y traeth gyda’i allfrigiadau creigiog a’i dwyni tywod. Mae Llyn Maelog, lle mae mynediad rhwydd i bawb ar hyd llwybr estyllod, hefyd yn ddelfrydol ar gyfer y rhai hynny sy’n dymuno gweld y bywyd gwyllt lleol. Ar ôl i chi gerdded ar hyd y milltiroedd o draethau tywodlyd, mae digon o lefydd ar gael lle gallwch fwynhau pryd o fwyd yn y bwytai lleol neu beth am ddiod a hufen iâ, perffaith!
Mae hwn yn draeth teuluol rhagorol sy’n cynnwys twmpathau tywod a nifer o byllau creigiau.
Ymwelwch â gorsaf bad achub a bythynnod y pysgotwyr, y man lle achubwyd criw Hindlea, Porth Helaeth a chôf golofn y Royal Charter. Wedi cyrraedd adref bron iawn ar ôl taith hir o Melbourne, Awstralia, gyda 452 o deithwyr a chriw a £320,000 o aur Awstralia. Cafodd y Royal Charter ei dal mewn storm ddifrifol a suddodd y llong stêm ar 25 Hydref, 1859 ger pentref Moelfre, ar ei thaith i Lerpwl.
Cewch lawer o hwyl yma yn sglefrio ac mae yna offer ymarfer corff yma hefyd gan gynnwys pêl fasged.
Mae’r Parc, Caergybi, yn cynnig mwy na phêl-droed yn unig - mae amrywiaeth o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yma gan gynnwys tennis, BMX, pêl-fasged, sglefrio, bowls, pêl-droed cerdded a mwy. Ceir hefyd gae 3G a chaffi, Cwt Crempog. Mae’r Parc hefyd yn gartref i nifer o glybiau megis Clwb Bowlio Caergybi a Chynghrair Pêl-droed Ynys Môn.
Mae Parc Gwledig y Morglawdd wedi’i leoli ar safle hen chwarel oedd yn cyflenwi carreg ar gyfer Morglawdd Caergybi, yr hiraf yn Ewrop. Mae amrywiaeth o gynefinoedd ar gael yn y parc, gan gynnwys rhostir, ardaloedd arfordirol a llyn. Mae’n lleoliad perffaith ar gyfer cerdded, gwylio adar a mwynhau harddwch naturiol Ynys Môn. Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn rhedeg drwy’r warchodfa, gan ddarparu llwybrau cerdded gyda golygfeydd godidog!
Gellir dod o hyd i wybodaeth am brisiau, hygyrchedd a chyfleusterau canolfannau hamdden Ynys Môn yma Ffioedd a thaliadau hamdden https://monactifonline.anglesey.gov.uk/bookings/
Gellir dod o hyd i wybodaeth am brisiau, hygyrchedd a chyfleusterau canolfannau hamdden Ynys Môn yma Ffioedd a thaliadau hamdden https://monactifonline.anglesey.gov.uk/bookings/
Gellir dod o hyd i wybodaeth am brisiau, hygyrchedd a chyfleusterau canolfannau hamdden Ynys Môn yma Ffioedd a thaliadau hamdden https://monactifonline.anglesey.gov.uk/bookings/
Gellir dod o hyd i wybodaeth am brisiau, hygyrchedd a chyfleusterau canolfannau hamdden Ynys Môn yma Ffioedd a thaliadau hamdden https://monactifonline.anglesey.gov.uk/bookings/
Mae'r ganolfan hamdden yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau drwy'r wythnos i gyd-fynd â phob oedran a lefelau ffitrwydd.
Yma cewch gyflwyniad i hanes Ynys Môn. Cewch wybod am y diwydiannau a roddodd yr ynys ar y map.
Cewch fwynhau yr awyr iach a'r daith gerdded hamddenol drwy’r ardd sy’n addas i bob oedran.
Fel un o’r safleoedd harddaf a mwyaf cyffrous ar Ynys Môn - codwyd y goleudy ar Ynys Lawd ar arfordir gogledd-orllewinol Môn fel pwynt cyfeirio i gychod y glannau, ac i helpu llongau sy’n croesi Môr Iwerddon rhwng porthladdoedd Caergybi a Dun Laoghaire.
Melin Llynnon, a adeiladwyd yn 1775, yw’r unig felin wynt weithredol yng Nghymru. Mae’n cynhyrchu blawd gwenith cyflawn gan ddefnyddio grawn organig.
Cydnabyddir Castell Biwmares fel castell mwyaf datblygedig Edward I. Roedd ei ddyluniad cyfrwys yn cynnwys waliau consentrig gyda thyrau, porthdai a dyfrffos.
Trowch y cloc yn ôl i 1910. Mae Swtan yn drysor o gelfi, deunyddiau, potiau, padelli a lluniau o’r cyfnod.
Mae Plas Newydd yn blasty ar lan yr Afon Menai, sydd yng nghanol coedwig odidog yn llawn bywyd gwyllt. Bob dydd Sul am 9:00am, gall plant rhwng 4 ac 14 oed gymryd rhan mewn "Park Run 2k" sy’n ffordd ddiddorol o fwynhau’r lleoliad arbennig.
Coedwig arfordirol hardd gyda llwybrau cerdded trwy’r goedwig a’r twyni tywod i Ynys Llanddwyn, sy’n cynnig golygfeydd syfrdanol a chyfle i edmygu bywyd gwyllt, gan gynnwys y wiwer goch. Bob dydd Sadwrn am 9:00am, mae "Parkrun 5K" yn cael ei gynnal, sy’n rhoi cyfle i unrhyw un gerdded, loncian, rhedeg, gwirfoddoli neu wylio.
Mae’r llwybr natur cylchol hwn, sydd wedi’i leoli y tu ôl i’r ysgol leol, yn hanner milltir o hyd. O ben y bryn, gall ymwelwyr fwynhau golygfeydd o Amlwch a thu hwnt, gyda chyfle i brofi bywyd gwyllt lleol. Mae’n llwybr perffaith ar gyfer y rheiny sydd eisiau mynd am dro sydyn.
Mae Parc Gwledig y Morglawdd wedi’i leoli ar safle hen chwarel oedd yn cyflenwi carreg ar gyfer Morglawdd Caergybi, yr hiraf yn Ewrop. Mae amrywiaeth o gynefinoedd ar gael yn y parc, gan gynnwys rhostir, ardaloedd arfordirol a llyn. Mae’n lleoliad perffaith ar gyfer cerdded, gwylio adar a mwynhau harddwch naturiol Ynys Môn. Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn rhedeg drwy’r warchodfa, gan ddarparu llwybrau cerdded gyda golygfeydd godidog!
Mae Llwybr Cylchol Llangoed yn dechrau yn y pentref ac yn croesi lonydd gwledig distaw a llwybrau arfordirol. Ceir golygfeydd o’r Afon Menai, Eryri a Chastell Aberlleiniog. Mae’r llwybr yn addas i gerddwyr sydd eisiau her gymedrol a golygfeydd gwerth chweil.
Mae Coed Cyrnol yn warchodfa natur ym Mhorthaethwy, yn cynnwys llwybrau coetir, golygfeydd o’r arfordir a bywyd gwyllt amrywiol. Mae’n gartref i goed pinwydd a derw aeddfed, ac adar fel tylluanod a chnocell y coed. Ceir hefyd olygfeydd o’r Afon Menai ac Eryri.
Wedi'i hamgylchynu gan goed bytholwyrdd, maeardal Nant y Pandy yn llawn bywyd gwyllt ac yn ardal rhagorol i edrych allan am wiwerod coch!
Wedi’i hamgylchynu gan goed bytholwyrdd, mae’r gronfa ddŵr yn ffynhonnell bwysig o ddŵr yfed ar gyfer Ynys Môn a hefyd yn ardal ragorol ar gyfer pysgota a bywyd gwyllt.
Taith gylchol o amgylch Llyn Maelog ar lwybr troed sydd wedi’i ddiffinio’n dda.
Ar Fehefin 21ain, diwrnod hiraf y flwyddyn, mae rhywbeth arbennig iawn yn digwydd ym Mryn Celli Du. Ar y diwrnod hwn, mae pelydrau’r haul wrth iddo godi yn alinio’n berffaith gyda’r rhan hon o’r dwmpath hynafol gan daflu goleuni tu mewn iddo.
Cerddwch yn dawel trwy’r goedwig ac efallai y byddwch yn clywed sŵn crafangau yn sgrialu a chynffon goch yn diflannu tu ôl i goeden, gan ei fod yn un o brif gartrefi ein Wiwer Goch gynhenid.
Gallwch fwynhau amrywiaeth o olygfeydd o’r gwelyau brwyn i lwybr pren sy’n hwylus i bawb ac sy’n ymestyn am tua 700 medr o amgylch y safle.
Golygfeydd ysblennydd o’r cytrefi adar môr sy’n bridio o Dŵr Elin gydag ysbienddrychau a thelesgopau wedi’u darparu i wylio natur ar ei orau.
Digon o le a llefydd i chwarae cuddio, castell i chwarae Brenin a Brenhines a thwnnel helyg hir a throellog fydd yn tanio eich dychymyg.
Mae fframiau chwarae grêt yn y parc yma, siglen fasged a thrawstiau balans i berfformio gweithgareddau balansio fel mae mabolgampwyr yn ei wneud!
Coetiroedd bach yn agos i’r lle chwarae, delfrydol i adeiladu ffau, pwll dŵr a llwybr troed i fynd ar eich beic.
Mae digon o amrywiaeth yma, o fframiau dringo i swingio fel mwnci, i siglen fasged y gallwch ymlacio arni a gwylio’r byd yn mynd heibio.
Mae amrywiaeth, o offer gwahanol i’w mwynhau ar gyfer pob oed! O ddringo gwe pry cop, rampiau beic i si-so unigryw. Mae’r olygfa o’r parc yn werth ei gweld hefyd!
Bydd cerddoriaeth yn eich clustiau wrth i chi chwarae gyda’r offerynnau synhwyraidd lliwgar.
Mae gwifren sip anhygoel yma. Mae rhywbeth i rai o bob oed yn y parc yma am oriau o hwyl a sbri!
Mae'r parc yn cynnig dewis o siglenni i blant ifanc a siglen fasged, ffrâm ddringo, sleid a lle cysgodi i ymlacio a chael eich gwynt atoch.
Mae’r parc yn boblogaidd iawn gyda phlant o bob oed, ardal chwarae aml-weithgaredd a digon o goed i chwarae a chuddio ynddynt.
Parc y gallwch dreulio oriau ynddo. Mae’r parc yma'n cynnwys nifer o brofiadau chwarae, o drawstiau cydbwyso i siglen fasged a chastell chwarae sy’n addas i unrhyw Frenin neu Frenhines.
Mae llawer o bethau i'w gwneud ar y lan y môr eang yma, gan gynnwys archwilio'r traeth o dywod a cherrig mân neu chwarae yn y twyni bychain. Mae offer chwarae sefydlog a hefyd ardal o laswellt ar gyfer gemau pêl.
Mae gan y promenâd yma lawer o nodweddion cŵl gan gynnwys parc sglefrio mawr, ardal chwarae gydag offer sefydlog a thraeth. Mae'n draeth o dywod a cherrig mân felly cofiwch roi cynnig ar eich sgiliau sgimio cerrig.
Llawer i’w wneud yma. Dewch â rhwyd ac ewch i hel crancod, ymarfer yn y gampfa neu drochi eich traed yn y pwll padlo.
Dewch â phicnic, racedi tennis, eich sgwter neu eich beic a bwced a rhaw a threuliwch y diwrnod yma. Cofiwch eich sbienddrych i wylio’r adar yn y warchodfa natur hefyd.
Traeth tywod gwych sydd bob amser yma, hyd yn oed pan mae’r llanw i mewn! Lle chwarae newydd sbon a hefyd golygfeydd gwych o dop yr adeilad.
Mae’r gampfa awyr agored yn cynnig llawer o hwyl ac mae’r wal ddringo a’r rhwydi’n heriol. Mae’r traeth yn gymysgedd o dywod a cherrig mân. Mae un rhan o’r traeth yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig gyda blodau gwyllt hardd iawn yn ystod yr haf.
Mae hwn yn goetir hardd iawn gydag afon fas, grêt a llawer o goed a deunyddiau naturiol.
Mae offer cŵl yn y cae chwarae yma, fel bwrdd cadw cydbwysedd a gwifren wib. Mae’r daith yn mynd dros y bont grog ac mae’r afon yn lle perffaith ar gyfer sgimio cerrig.
Yn yr haf mae’r creigiau hyn yn grêt ar gyfer archwilio a sblasho yn yr afon. Mae’r llwybr pren cŵl yn mynd yn uchel i fyny i ganol y coed ac yn plethu i mewn ac allan o’r coetir.
Dyma goetir bychan gyda llawer o wahanol lwybrau troed ac adfeilion diddorol i’w harchwilio - perffaith ar gyfer chwarae cuddio! Mae’n werth dringo i fyny i’r top i weld yr olygfa odidog!
Mae cae chwarae yma ond yr atyniad mawr ydi’r coetir a’r coed gwych - ewch allan i archwilio
Mae’r warchodfa natur yma’n cynnig digonedd o le i redeg a llawer o lwybrau cyfrinachol i chwarae cuddio. Mae yma greigiau i’w harchwilio hefyd, a llawer o fywyd gwyllt.
Mae hon yn daith gerdded fer hyfryd yn y coed wrth ymyl yr afon gyda digon o nodweddion i'ch ysbrydoli chi. Stopiwch ar un o'r pontydd am gêm o rasio priciau a chofiwch gadw llygad am y tylwyth teg!
Llawer i'w ddarganfod yma a llwybrau amrywiol i'w dilyn (arwyddion ar gyfer pob un o'r maes parcio), rhowch gynnig ar sgimio cerrig ar y llyn. Ewch ar hyd Llwybr Cerdded Afon Crafnant am daith fer, hygyrch gyda digon o gyfleoedd i chwarae yn y coed - dilynwch yr arwyddion gwyn. Daw'r enw Crafnant o “craf”, hen air Cymraeg am arlleg, a “nant”, afonig neu gwm - fedrwch chi arogli'r garlleg gwyllt sy'n tyfu o amgylch y llyn?
Mae'r coetir bychan yma'n ddelfrydol ar gyfer archwilio am gyfnod byr. Cerddwch ar hyd Nant y Groes sydd â llawer o goed a gofod ar gyfer chwarae allan.
Gofod eang rhagorol. Mae llawer o feini naturiol yma ar gyfer dringo, llethau ar gyfer llithro a gofod i wneud den. Efallai y byddwch chi'n ddigon lwcus i weld morlo ym Mae Angel! Byddwch yn ofalus ar hyd y clogwyni serth oherwydd nid yw pob un wedi'i farcio - gofalus wrth chwarae yno.
Taith gerdded hwyliog ac amrywiol am 45 munud o amgylch cwrs golff gan ddechrau drwy'r giât ag arwydd preifat arni. Mae llawer o draethau cerrig mân ar hyd yr afon yn fannau stopio, a cherrig mawr i ddringo arnyn nhw. Mae'r daith yn mynd heibio i'r eglwys sydd ar agor ar gyfer ymwelwyr a phont grog dros yr afon - wnewch chi feiddio neidio arni a'i theimlo'n ysgwyd?! Daw'r daith i ben yn yr amgueddfa rheilffordd.
Mae llawer o wahanol bethau i chi eu gwneud ar y Gogarth. Mae "Happy Valley" yn le da
iawn i chwarae cuddio. Yn y parc ar y copa mae’r llithren fwyaf yn y sir! Mae llwybr Alys
yng Ngwlad Hud ar gael yma hefyd, gydag ap rhyngweithiol. I gael rhagor o wybodaeth
am yr holl gyfleusterau, ewch i’r Ganolfan Groeso ar Stryd Mostyn, Llandudno.
Yn ystod yr haf mae glan yr afon yn lle chwarae da ac mae meini’r orsedd yn cŵl iawn. Mae’r cae chwarae yn un grêt ac mae LLOND GWLAD o le i redeg o gwmpas!
Mae fframiau chwarae grêt yn y parc yma ond y prif atyniad ydi’r coed rhyfeddol sy’n berffaith ar gyfer eu dringo ac ar gyfer adeiladu cuddfannau.
Hefyd mae’r llyn yn ardderchog ar gyfer trochi pwll.
Y peth gorau am y lle yma ydi’r afon, gyda’r traeth o gerrig mân. Lle grêt i sgimio cerrig.
Mae llawer o offer ar gyfer plant iau yma ac mae’r llwybr rhwystrau’n grêt ar gyfer y rhai hyˆn. Mae’r llwybr tarmac i lawr y bryn yn cŵl ar gyfer beiciau ac mae’r nant fechan yn hwyl hefyd.
Mae’r bwrdd tennis bwrdd yn cŵl iawn - mae batiau a pheli ar gael ond efallai y byddwch am ddod â’ch rhai chi eich hun, rhag ofn! Mae’r afon yng nghornel bellaf y cae ar y chwith, drwy giât fechan ar lwybr troed.
Llithren gyflym iawn, a choetir gyda llawer o ganghennau, sy’n berffaith ar gyfer adeiladu cuddfan.
Bydd y parc yma’n cymryd diwrnod llawn i’w archwilio. Mae yma barc sglefrio mawr a chae chwarae cŵl. Hwyliwch y cwch rydych chi wedi’i wneud eich hun ar y llyn cychod.
Mae’r ardal natur yng nghanol y parc yn grêt i’r rhai bach, gyda llawer o blanhigion, tywod a Dŵr i archwilio.
Mae’r Traeth Canol yn ardal boblogaidd ar y traeth ar gyfer ymwelwyr gyda dau barc chwarae ag offer chwarae sefydlog, maes parcio gerllaw, toiledau, caffi ac arcedau. Mae Canolfan Hamdden Nova hefyd yn yr ardal hon.
Mae cyfyngiadau ar yr amseroedd a’r lleoedd y gellwch fynd â chŵn pan fyddwch yn ymweld â thraethau Sir Ddinbych.
Lleolir Parc Cae Ddôl yn union oddi ar Stryd Fawr Rhuthun, gyferbyn â’r Hen Garchar. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fe addaswyd y pwll a chafodd rhannau eraill eu gwella ar gyfer adar sy’n nythu. Mae gan y parc hefyd lwybr heini ar hyd yr ymylon, cyfarpar chwarae i blant a pharc sglefrio.
Mae modd dilyn dau lwybr o’r maes parcio. Mae’r llwybr byrrach yn cynnwys y pwll ac yn cadw at lwybrau pendant, clir. Mae’r ‘dro’ hirach yn cynnwys y llwybr yn ei gyfanrwydd ac mewn mannau yn croesi’r parcdir gwelltog.
Mae’r llwybr beicio mynydd wedi ei leoli uwch ben y llwybr beicio ffordd yn nes at yr afon. Gellwch ddefnyddio’r llwybr hwn am ddim ac mae’n agored i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn. Mae’n llawer o hwyl i feicwyr awyddus a rhai profiadol. Dewch unrhyw bryd i brofi eich sgiliau. Mae’r llwybr beicio mynydd bob amser yn agored os oes gennych eich beic eich hun a chyfarpar diogelwch. Yn ogystal â’r llwybr beicio mynydd y gellir ei ddefnyddio am ddim, mae yna lwybr BMX pwrpasol a llwybr rasio ffordd. Mae Marsh Tracks hefyd yn cynnig sesiynau hyfforddi ac offer i’w llogi. Gweler gwefan Marsh Tracks am fwy o wybodaeth: https://marshtracks.co.uk.
Clwb BMX Dragon Riders
Dydd Llun a Dydd Mercher: 18:00 – 20:30
Dydd Sadwrn: 10:30 – 12:00 (Hyfforddi aelodau’n unig)
Mae Parc Gwledig Loggerheads yn fan arbennig iawn, yn gyfoeth o fywyd gwyllt a threftadaeth. Mae’n borth perffaith i ymwelwyr sydd eisiau archwilio Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Gellir dilyn taith gron o lonyddwch o amgylch rhai o lwybrau isaf Parc Gwledig poblogaidd Moel Famau. Dan gydreolaeth partneriaeth y Comisiwn Coedwigaeth ac Ardal o Harddwch Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, mae’r ardal hon yn atynfa boblogaidd i rai miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae Pencoed yn goetir cymunedol a reolir mewn partneriaeth rhwng Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a grwpiau gwirfoddol lleol. Bu prosiect yn cynnwys gwirfoddolwyr o’r cymunedau cyfagos yn helpu clirio sbwriel a gwella’r safle ar gyfer bywyd gwyllt ac ymwelwyr.
Mae dau lwybr posib trwy’r coetir: taith linellol ar hyd y llwybr isaf, sy yn ei hun yn cynnig golygfeydd ardderchog o fannau lleol amlwg megis Castell Dinbych. Os ydych yn teimlo’n fwy heini, mae’r llwybr uchaf yn arwain at olygfan lle, gellid dadlau, y ceir y golygfeydd gorau o Gastell Dinbych a Dyffryn Clwyd!
Parcio: Mae cilfan fawr ar yr A543 (Lôn Llewelyn) ar ochr orllewinol Pencoed a maes parcio bychan ym Mryn Stanley.
Mae Gwarchodfa Natur Rhuddlan yn addas i bawb ei ddefnyddio. Mae’r safle wedi’i weddnewid yn lleoliad delfrydol ar gyfer bywyd gwyllt gael ffynnu ac yn ardal hamdden i bobl leol ac ymwelwyr. Mae’r daith fer yn eich tywys o amgylch pyllau, lle mae adar yn nythu’n flynyddol, a dolydd a gafodd eu gwella’n ddiweddar mewn partneriaeth â’r gymuned ac ysgolion lleol.
Mwynhewch daith gerdded braf drwy’r coetir ar lwybr pwrpasol gyda meinciau ar hyd y ffordd. Dewch â phicnic a gellwch ddefnyddio un o’r meinciau picnic yn y coetir. Mae’n le poblogaidd i rai sy’n mynd â’u cŵn am dro a theuluoedd sydd â phlant bach. Mae’r llwybrau’n hygyrch i rai sy’n defnyddio cadair olwyn, pramiau a beiciau. Dewch â phêl gyda chi i’w chicio o gwmpas ar y caeau chwarae mawrion cyfagos. Mae yno hefyd lwybr heini, sy’n 1km o hyd, ar gyfer y rheiny sydd eisiau eu profi eu hunain.
Lle chwarae gwych yn cynnwys offer cae chwarae ac offer ymarfer amrywiol. Parcio am ddim gerllaw. Dewch â phêl i gael gêm ar y llecyn gemau amlddefnydd Ar agor: 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos
Mae’r Traeth Canol yn ardal boblogaidd ar y traeth ar gyfer ymwelwyr gyda dau barc chwarae ag offer chwarae sefydlog, maes parcio gerllaw, toiledau, caffi ac arcedau. Mae Canolfan Hamdden Nova hefyd yn yr ardal hon.
Mae Gerddi Coronation yn ofod gwyrdd hyfryd ym Mhrestatyn gydag ardal chwarae ag offer sefydlog. Yn dilyn gwaith ailwampio diweddar, mae’r parc yn cynnig gemau rhyngweithiol a chynhwysol, cylchfan hygyrch, gwifren sip a thrac beics ar y llawr ar gyfer beicwyr bychain.
Mae parc Llanferres wedi’i leoli mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol gyda mynediad at brif ffordd sy’n arwain at Foel Famau. Mae’r parc yn cynnig gofod naturiol gwych gydag offer pren gan gynnwys llwybr heini a gwifren sip, yn ogystal â llefydd i eistedd, meinciau picnic a gemau rhyngweithiol ar y llawr.
Mae Parc Stryd Isaf yn cynnig gofod gwyrdd hyfryd gydag ardal chwarae a pharc sglefrio. Mae llwybr cerdded sy’n rhedeg ar hyd Afon Elwy a byrddau picnic yn y parc. Mae Clwb Bowlio Llanelwy hefyd yn agos i’r parc.
Ym Mharc Canol, gallwch fwynhau’r parc hyfryd sydd ag offer chwarae sefydlog, gan gynnwys cylchfan hygyrch. Mae parc sglefrio a chae pêl-droed dros y ffordd i’r parc hefyd, yn ogystal â Chanolfan Fowlio a Chyrtiau Tennis Dinbych gerllaw, a gellir archebu i ddefnyddio’r rhain ar eu gwefannau.
Mae Parc Glan yr Afon yn cynnig golygfeydd ysblennydd o’r Afon Dyfrdwy yn llifo trwy Langollen. Mae’r parc poblogaidd yn cynnwys ardal chwarae i blant, parc sglefrio, golff gwyllt ac ardal chwarae aml-ddefnydd i gadw’r teulu’n ddiddan. I ymlacio mae ardaloedd picnic ac eistedd ac mae caffi o fewn y parc.
Mae’r caffi a’r toiledau ar agor Ebrill - Medi. Mae’r toiledau yn costio 40c i’w defnyddio.
Archwiliwch Lwybr Arfordir y Fflint am dro tawel gyda golygfeydd godidog o’r arfordir a’r natur.
Parc y Gorffennol – lle mae hanes yn cyfarfod â natur ar gyfer dihangfa tawel a golygfaol.
Mae Bryn y Beili yn Yr Wyddgrug yn cynnig cymysgedd diddorol o hanes, gyda gwaith daear hynafol a golygfeydd syfrdanol o'r dref a'r wlad.
Parc y Gorffennol – lle mae hanes yn cyfarfod â natur ar gyfer dihangfa tawel a golygfaol.
Darganfod Castell Caergwrle – perl wedi’i guddio lle mae hanes a golygfeydd godidog yn dod ynghyd.
Mae Bryn y Beili yn Yr Wyddgrug yn cynnig cymysgedd diddorol o hanes, gyda gwaith daear hynafol a golygfeydd syfrdanol o'r dref a'r wlad.
Mae Pentre Peryglon yn ganolfan weithgareddau diogelwch sydd wedi ennill gwobrau ar arfordir Gogledd Cymru, ar agor yn ystod amser y tymor ysgol ar gyfer ysgolion a grwpiau, ac yn ystod gwyliau ysgol lleol ar gyfer diwrnod teuluol gwych.
Mae Ffynnon Sant Winefride yn Treffynnon yn gyrchfan pererindod hanesyddol, a elwir am ei thraddodiad iacháu o'r 14eg ganrif, gyda ffynhonnell sanctaidd, capel Gradd 1, a murmuriad sy'n arddangos ei hanes diddorol.
Mae Parc Gwepra yn barc gwledig 160 acer (65 hectar) ger Cei Connah. Mae’r parc yn gartref i Gastell Ewlo ac mae yna faes chwarae i blant, campfa awyr agored, caeau chwarae pêl-droed a chanolfan ymwelwyr.
Mae canolfan wyliau Traeth Talacre Beach Resort yn lleoliad gwyliau perffaith i’r teulu wrth ymyl tywod euraidd Porth Gogledd Cymru. Gyda chyfleusterau pum seren, gweithgareddau dan do a rhaglenni ‘Go Active’ Hoseasons, mae’n ddelfrydol ar gyfer dyddiau llawn hwyl beth bynnag fo’r tywydd. Mae’r ganolfan wyliau ar agor am 10 mis o’r flwyddyn, gan gynnwys dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Mae wedi’i lleoli ger twyni hynafol Talacre, gwarchodfa natur a goleudy o’r 17eg ganrif - llecyn delfrydol am wyliau neu i fod yn berchen ar lety gwyliau.
Coed Nercwys, sydd ger Yr Wyddgrug, yw coedwig tawel sy'n cynnig llwybrau cerdded, beicio mynydd a marchogaeth.
Mae Moel Findeg yn cynnig dihangfa tawel gyda golygfeydd prydferth, yn berffaith ar gyfer heicio llonydd drwy Bryniau Clwyd.
Mae Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn barc gwledig 70 acer. Mae’r parc ym Maes Glas ger tref Treffynnon. Mae’n adnabyddus am ei goetir, cronfeydd dŵr, henebion (gan gynnwys gweddillion Abaty Dinas Basing), gorffennol diwydiannol cyfoethog a’i ffatrïoedd a chwaraeodd ran yn y Chwildro Diwydiannol.
Mae Trac Pwmpio BMX Treuddyn yn gyfleuster newydd hynod. Gyda chwe llwybr syth, pum tro gyda phalmentydd bloc, a bryn cychwyn palmantog, mae'r trac 280 metr yn cynnwys llwybr dychwelyd a chafodd ei dywarchu i gydweddu'n ddi-dor â'r ardal wledig o'i chwmpas.
Mae Ystâd Penarlâg, ym Mhentre Penarlâg, yn drysor hanesyddol llawn golygfeydd. Yno mae amddiffynfa o'r 13eg ganrif sy’n tarddu o'r Oes Haearn a chastell o'r 18fed ganrif. Wedi’i leoli mewn parcdir gwledig, mae gan yr ystâd hefyd lyn preifat, gardd â wal o'i chwmpas a choetiroedd helaeth.
Archwiliwch Lwybr Arfordir y Fflint am dro tawel gyda golygfeydd godidog o’r arfordir a’r natur.
Parc y Gorffennol – lle mae hanes yn cyfarfod â natur ar gyfer dihangfa tawel a golygfaol.
Darganfod Castell Caergwrle – perl wedi’i guddio lle mae hanes a golygfeydd godidog yn dod ynghyd.
Mae Bryn y Beili yn Yr Wyddgrug yn cynnig cymysgedd diddorol o hanes, gyda gwaith daear hynafol a golygfeydd syfrdanol o'r dref a'r wlad.
Mae Parc Sefydliad Coffa Caerwys, a sefydlwyd ym 1922, yn deyrnged i filwyr lleol a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Wedi’i roi gan Syr John Herbert Lewis, mae gan y parc neuadd goffa, un o lawntiau bowlio gorau Gogledd Cymru, cyrtiau tennis, a maes chwarae i blant. Mae’n dal i fod yn ganolbwynt cymunedol lle mae digwyddiadau fel y gwasanaeth Sul y Cofio blynyddol yn cael eu cynnal.
Mae Parc Cornist yn Y Fflint, yn fan gwyrdd heddychlon sydd â lawntiau agored a choetiroedd, sy’n ddelfrydol ar gyfer cerdded, diwrnodau allan i’r teulu ac ymweliadau sy’n croesawu cŵn.
Mae Parc Maes Bodlonfa yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint yn fan cymunedol llawn bwrlwm sy’n cynnig ystod o gyfleusterau hamdden. Mae yno barc sglefrio dan lifoleuadau a luniwyd gyda chymorth pobl ifanc leol ar gyfer sgwteri, beics BMX a sglefrio. Mae amwynderau ychwanegol yn cynnwys ardal chwarae i blant, cyrtiau tennis, lawnt fowlio, a mannau gwyrdd agored sy’n addas ar gyfer gweithgareddau awyr agored amrywiol. Mewn lleoliad cyfleus ger canol tref yr Wyddgrug, mae Parc Maes Bodlonfa yn ganolbwynt ar gyfer digwyddiadau hamdden a chymunedol.
Mae Parc Comin Bwcle yn fan gwyrdd gwerthfawr ym Mwcle, Sir y Fflint, sy’n cynnig amryw o amwynderau hamdden i’r gymuned. Mae gan y parc faes chwarae i blant, pwll hwyaid, ardaloedd glaswelltog agored sy’n addas i gerdded, cael picnic a gwneud chwaraeon anffurfiol. Mae’n lleoliad canolog ar gyfer digwyddiadau lleol hefyd, gan gynnwys Jiwbilî Bwcle, sef digwyddiad blynyddol sy’n hen draddodiad yn y gymuned. Mae lleoliad naturiol a chyfleusterau’r parc yn ei wneud yn lle poblogaidd i deuluoedd, cerddwyr cŵn a phobl sy’n hoff o’r awyr agored.
Parc Cymunedol ar y ffin sydd â digonedd o le i chwarae!
Parc gwych yng nghanol Coed-llai gyda digonedd i blant a theuluoedd i fwynhau!
Parc hyfryd yng Nghanol Yr Hôb gyda digonedd o le i chwarae!
Mae Parc y Fron yn fan gwyrdd tawel 3.4 acer yng nghanol Treffynnon, Sir y Fflint, Cymru. Mae’n amgylchedd heddychlon i gerddwyr, rhedwyr a theuluoedd sy’n hoff o hamddena yn yr awyr agored.
Parc gwych yng nghanol Coed-llai gyda digonedd i blant a theuluoedd i fwynhau!
Parc hyfryd yng Nghanol Yr Hôb gyda digonedd o le i chwarae!
Ar ochr ogleddol aber Afon Dyfi, mae’r traeth yn Aberdyfi yn llecyn hardd a digon i’w wneud yno a llawer o adnoddau ar gael. Mae’n ganolfan hwylio a chwaraeon dŵr prysur. Yn ogystâl, mae ardal y lan ddeheuol, ar hyd aber yr afon Dyfi, yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi.
Ar aber Afon Mawddach, mae traeth Abermaw (Y Bermo) ac mae’n draeth traddodiadol mewn llawer ystyr. Mae’n lle delfrydol i deuluoedd hefo milltiroedd o dywod glan a golygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri.
*Mae ambell ran o’r traeth wedi ei ddynodi yn ardal Dim Ymdrochi. Cymerwch sylw o’r arwyddion.
Ym mhen pellaf Pen Llŷn, mae traeth Aberdaron yn filltir o hyd ac mae o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE).
Mae digon i’w fwynhau, o lwybrau arfordirol i chwaraeon dŵr. Ardal sydd llawn hanes difyr. Cewch fwy o hanes tirlun arbennig Llŷn a morluniau wrth ymweld â Canolfan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Porth y Swnt.
Wedi ei leoli i’r de orllewin o Harbwr Pwllheli, mae ystod eang o wasanaethau ar gael o fewn tafliad carreg o’r traeth. Mae’n hawdd cyrraedd canol y dref drwy gerdded dros y Cob. Mae’r traeth yn agos hefyd i barc chwarae Bron y De (gweler manylion yn adain Mannau Chwarae), ac i fan cerdded Lôn Cob Bach, gwarchodfa natur y dref sydd â phaneli gwybodaeth yn nodi’r bywyd gwyllt y gellir ei weld yno.
Traeth poblogaidd gan deuluoedd a golygfeydd trawiadol ar draws i Ben Llŷn ac i Ynys Môn. Beth am wella eich ffitrwydd a cherdded i ben Boncan Dinas, y bryn uwchben y traeth, lle mae hen gaer o’r Oes Haearn? Gan fod Llwybr yr Arfordir yn mynd drwy’r pentref mae digon o gyfleoedd i gerdded rhannau o’r llwybr.
Yn rhychwantu dros 5 milltir o arfordir cyntefig o Dywyn yn y gogledd, i'r harbwr yn Aberdyfi yn y de, mae gan Dywyn draethau tywodlyd euraidd hir sy'n berffaith ar gyfer picnics, teithiau cerdded hir a chwarae yn y môr!
Mae traeth Tywyn yn draeth syrffio da ac mae'r amodau gorau i syrffio yn digwydd naill ochr i'r llanw uchel.
Mae Llwybr Arfordir Cymru a agorwyd yn ddiweddar yn mynd trwy Tywyn, ac mae rhai teithiau cerdded gwych o amgylch Tywyn lle gellir mwynhau golygfeydd o Fae Ceredigion.
Mae'r traeth gyda chlawdd serth o gerrig sydd, o ganol y llanw, yn datgelu llawer iawn o draeth tywodlyd euraidd, dwy filltir o hyd, gyda phyllau creigiau ar y naill ben neu'r llall. Yn y pen gogleddol mae'r traeth yn ymuno ag Aber Mawddach, tra ym mhen deheuol y traeth mae'n cael ei wasgu rhwng clogwyni serth a'r môr.
Mae traeth Morfa Bychan, a elwir yn lleol fel traeth y Graig Ddu neu ‘Black Rock Sands’, yn draeth tywodlyd, gydag ardaloedd creigiog - er nad yw'r creigiau mewn gwirionedd yn ddu. Mae'r traeth tywodlyd sy’n ymestyn am tua 2 filltir ac sydd wedi’i gefnu gan dwyni tywod sydd wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae digon o byllau creigiau i'w harchwilio yma yn ogystal â rhai ceudyllau diddorol.
Mae mynediad i gerbydau i'r traeth ac mae'r rhan fwyaf o ymwelwyr yn parcio ar y traeth, gan ei wneud yn gyrchfan picnic poblogaidd ac yn darparu mynediad hawdd i'r rhai sydd â phroblemau symudedd. Mae yna ardaloedd ymdrochi a lansio cychod dynodedig.
Mae traeth tywodlyd a graenog Criccieth yn eistedd o dan bentir gydag adfeilion mawreddog castell o'r 13eg ganrif. Mae'r pentir hwn yn darparu llawer o gysgod rhag y gwyntoedd gorllewinol ac ynghyd â thraeth ar lethr ysgafn yn darparu traeth teuluol ardderchog.
Tuag at ben y castell mae'r traeth yn tueddu i fod yn fwy graenog tra wrth i chi fynd tua'r dwyrain mae'r traeth yn mynd yn fwy tywodlyd wrth iddo ymestyn i ffwrdd i fae Tremadog.
Mae’r traeth eu hun yn gymysgfa o dywod a cherrig man, a chaiff ei gysgodi yn bennaf, ond derbynnir wyntoedd o ogledd-orllewin.
Mae Traeth Trefor wedi'i leoli ar arfordir gogleddol Pen Llŷn hardd. O flaen pentref pysgota bach Trefor mae gan y traeth gefndir ysblennydd o fynyddoedd Eryri.
Ar y tu allan i wal yr harbwr gall yr amodau syrffio fod yn dda, ond nid yw'n fan i ddechreuwyr. Os ydych eisiau cerdded i lawr i'r traeth yna mae llwybr sy'n mynd o'r pentref i Draeth Trefor ac yn pasio heibio'r maes chwarae lleol.
Mae traeth Morfa Nefyn o dan ofalaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn draeth o dywod man gyda bae cysgodol a harbwr naturiol ar Arfordir Treftadaeth Llŷn.
Mae yn boblogaidd gyda physgotwyr, tra mae cilgant y tywod sy’n wynebu'r gogledd-orllewin o un ochr ac i'r gogledd-ddwyrain o'r llall yn gallu creu amodau gwahanol i frigdonwyr, hwylfyrddwyr a syrffwyr barcud.
Mae pentref pysgota bach, prydferth Porthdinllaen sy’n gorwedd ar ben y traeth yn enwog am ei dafarn, y Tŷ Coch.
Yn drysor cudd ym Mhen Llŷn, mae'r traeth hwn sy'n wynebu'r de yn ymestyn am tua thair milltir ac mae'n ymfalchïo mewn tywod cain, cerrig a thwyni tywod hardd. Gall ymwelwyr fwynhau nofio yn y môr tawel neu fynd am dro hamddenol ar hyd y lan. Mae'r traeth yn cynnig awyrgylch heddychlon ac mae'n ddelfrydol ar gyfer teuluoedd â phlant
Mae traeth Llanbedrog o dan ofalaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Gallwch ddisgwyl rhannau helaeth o dywod euraidd sy'n ildio i foroedd bas sy'n ddelfrydol ar gyfer nofio yn y misoedd cynhesach.
Mae'r traeth yn ddealladwy yn boblogaidd gyda theuluoedd ac, yn ogystal â dyfroedd ymdrochi cysgodol, gall ymwelwyr iau gael "Pecyn Antur Hwyl i'r Teulu" gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrth fynd i mewn i'r maes parcio. Yma fe welwch amrywiaeth o weithgareddau ar thema traeth gan gynnwys llwybrau dail a gemau bywyd gwyllt.
Mae un o'r teithiau cerdded gorau o Draeth Llanbedrog yn cynnwys y daith gerdded i fyny i Fynydd Tir y Cwmwd i'r cerflun enwog ‘Tin Man’ sy'n cynnig golygfeydd godidog yn ôl dros Fae Ceredigion.
Mae Traeth Porthor (a elwir hefyd yn Porth Oer, neu Whistling Sands) o dan ofalaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn draeth eithriadol o brydferth ym Mhen Llŷn. Bydd ymwelwyr sy'n barod i wneud y daith ar hyd y llwybr o faes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cael eu gwobrwyo gyda chilgant hyfryd o dywod golau a golygfeydd hyfryd.
Os ydych chi'n meddwl tybed pam ei fod hefyd yn cael ei adnabod fel traeth Whistling Sands, dewch yma yn ystod cyfnod sych a byddwch chi'n sylwi ar y tywod yn gwneud sŵn gwichian amlwg wrth i chi gerdded drosto. Mae'r ffenomen hon yn cael ei achosi gan siâp anarferol y grawn tywod yma ac mae'n debyg mai dim ond dau draeth yn Ewrop lle gellir arsylwi'r effaith hon.
Mae'r traeth yn boblogaidd gyda theuluoedd yn ogystal â brigdonwyr a chorff-fyrddwyr, er y dylid cymryd gofal yn y dŵr gan fod nifer o greigiau tanddwr a does dim gwasanaeth achubwyr bywyd.
Mae'r traeth tywodlyd hwn yn ymestyn am dros filltir o hyd ar lanw isel. I'r naill ben a'r llall mae pyllau creigiau tra i'r cefn mae clogwyni llethr, wedi'u gorchuddio â glaswellt gyda rhai ffurfiannau creigiau diddorol.
Tua hanner ffordd ar hyd y traeth mae rhaeadr fechan lle mae nant Afon Fawr wedi torri ceunant i'r clogwyni y tu ôl.
Traeth tywodlyd braf ar arfordir gogleddol Llyn yw traeth Towyn. Mae llwybr drol yn dilyn i lawr o'r ffordd gyferbyn â Fferm Towyn i lawr i'r traeth, heibio siop a chaffi poblogaidd Cwt Tatws a maes carafanau bach. Fel sy'n nodedig o lawer o draethau a phorthladdoedd Llŷn, gelltydd o bridd a chlai go serth sydd yma hefyd, er bod llwybr drol gyfleus yn eich tywys i lawr i'r traeth ei hun.
Does dim cyfleusterau i lawr ar y traeth ei hun ac mae'n anaddas ar gyfer pobl sy'n ddibynnol ar gadair olwyn ond mae meinciau pren wedi eu gosod uwch ben y traeth ar ben yr allt lle mae posib eistedd a gwylio'r olygfa.
Yn ystod yr haf mae'r traeth yn medru bod yn brysur gydag ymwelwyr, ond os fyddwch yn ffodus a chael y traeth i chi'ch hun, mae'n le hudolus.
Mae Traeth Benar, sydd wedi'i leoli wrth ymyl gwarchodfa natur Morfa Dyffryn, yn draeth syfrdanol a glân sy'n adnabyddus am ei lannau tywodlyd helaeth a'i dwyni dywod mawreddog.
Mae'r traeth wedi'i leoli rhwng Harlech ac Abermaw ac mae'n edrych dros Fae Ceredigion. I'r gogledd o'r llwybr pren mae Morfa Dyffryn yn un o systemau twyni tywod pwysicaf Cymru.
Mae Traeth Benar yn cael ei ystyried yn un o'r traethau harddaf yn yr ardal ac mae'n sefyll yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn.
Efallai mai traeth Benar yw'r mwyaf poblogaidd gyda brigdonwyr. Mae'r tonnau mawr yn denu brigdonwyr a chorff-fyrddiwyr, sy'n ceisio cymryd un o donnau gorau Gogledd Cymru.
Mae Traeth Llandanwg yn eistedd rhwng trefi Abermaw a Harlech ar ochr ddeheuol Bae Tremadog. Mae hefyd yn rhan o Barc Cenedlaethol ehangach Eryri ac wedi'i leoli yn agos at aber hardd Afon Dwyryd.
Oherwydd ei safle strategol, mae Traeth Llandanwg wedi'i gysgodi sy'n gallu bod ychydig yn ffres ar adegau sy'n golygu y gallwch fwynhau'r ardal hon hyd yn oed allan o’r brîf dymor. Mae'r traeth hefyd yn boblogaidd gan bobl leol gan gynnwys pysgotwyr sy'n dod yma am y cyflenwadau o facrell, pysgod gwastad, a physgod cŵn. Gyda hynny mewn golwg, bydd pysgotwyr brwd yn dod o hyd i ddigon i'w wneud yma, neu gallwch archwilio pyllau creigiau cain neu fynd am dro ar y tywod meddal.
Yn edrych dros draeth enfawr, heddychlon Harlech, mae symbol o wrthdaro'r gorffennol - Castell Harlech, Safle Treftadaeth y Byd. Mae mynediad da i'r traeth o lwybr 440 llath / 400m o'r maes parcio ger y groesfan rheilffordd. Ac nid tywod gwastad yn unig ydyw – mae'r twyni tywod hardd yma yn nodwedd werthfawr, y rheswm y tu ôl i ddynodiad yr ardal fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Mae'r traeth yn lle delfrydol i blant chwarae ac yn lle gwell fyth i oedolion eistedd yn ôl ac ymlacio.
Dewch am dro i erddi hanesyddol a chanolfan grefftau Parc Glynllifon i fwynhau diwrnod allan i’r teulu cyfan. Lle ardderchog i grwydro o gwmpas i fwynhau amrywiaeth o brofiadau awyr agored. Am y rheswm hwnnw, cofiwch ei bod yn bwysig gwisgo esgidiau addas.
Mae digonedd i’w wneud ym Mharc Padarn! Dewch am dro i fwynhau diwrnod allan i’r teulu i gyd. Mwynhewch y golygfeydd mwyaf trawiadol yng Ngogledd Cymru...ar draws Llyn Padarn o Gastell Dolbadarn ac at Eryri yn ei holl ogoniant. Cyfle i ddysgu am hanes yr ardal ac i grwydro llwybrau gwyllt o amgylch y llyn. Rhowch gynnig ar y cwrs rhaffau ac ysgolion! Gofynnwn i ymwelwyr ystyried eu diogelwch bob amser tra byddant yn ymyl y llyn ei hun. Bydd adran ‘Cyngor Call: Chwarae’n Ddiogel Wrth Ddŵr’ yn medru cynnig arweiniad. Am wybodaeth fwy penodol a diweddar am yr Amgueddfa Lechi a Rheilffordd Padarn, cymerwch olwg ar eu safle gwe https://parcpadarn.cymru/cy/
Yn wreiddiol, rhoddwyd y safle gan y mynachod Sistersaidd o Abaty Cymer, Llanelltyd i drigolion Abermaw ar gyfer hamddena gaeaf. Ar ôl cyfnod fel safle tirlenwi, yn 2005 crëwyd y safle glas trefol yno a welwn heddiw. Plannwyd cannoedd o goed derw, afalau, criafol, banadl a helyg a blodau gwyllt sy’n denu pryfed, adar ac anifeiliaid. Lle delfrydol i deuluoedd gerdded ac ymlacio.
Prin yw’r llefydd parcio ger mynedfa Ffordd Clegir ei hun, ond dim ond tafliad carreg i fyny’r allt o’r pentref mae’r fynedfa.
Mae mynediad uniongyrchol i'r maes chwarae o'r maes parcio. Mae toiledau cyhoeddus a chanolfan wybodaeth ym mhen arall maes parcio. Mae gan y parc chwarae hefyd loches dan do a meinciau. Mae’r traeth a’r parc chwarae drws nesaf i’w gilydd sy’n ei gwneud hi’n hawdd cyfuno mwynhad y ddau atyniad.
Mae’r parc chwarae hwn ar lan y môr ac i’w gyrraedd dylid dilyn arwyddion y traeth a dod i lawr Ffordd y Pier o ganol tref Tywyn.
Mae ceir yn cyrraedd y safle o Ffordd yr Aber ond mae’r safle ei hun mewn man amgaeedig diogel. Mae yna doiledau a maes parcio gerllaw. Mae’r parc mewn llecyn dymunol ar lannau’r Fenai, a gyferbyn â chastell enwog Caernarfon. Lle delfrydol i fynd â’r plant ar ôl bod yn crwydro o amgylch y dref.
Mae gan y parc chwarae hefyd feinciau, mainc bicnic a golygfeydd godidog o gefn gwlad. Mae modd parcio ar ochr y ffordd.
Wrth groesi’r bont i ddod i mewn i dref Dolgellau o’r gogledd, fe welwch y parc chwarae ar y chwith, fymryn tu hwnt i ochr draw’r bont.
Ar yr A4086 fe welwch y parc sglefrio o'r ffordd. Troi yma gan ddilyn y lôn a gweld y parc. Rhaid parcio ar ochr y lôn. Mae byrddau picnic ac offer ymarfer corff yn ogystâL ag offer parc chwarae.
Wrth ochr Llyn Padarn. Mae ceir yn cyrraedd y parc ar hyd ffordd osgoi Llanberis. Mae mwy nag un maes parcio talu ac arddangos gerllaw, yn ogystal â thoiledau cyhoeddus. Mae’r parc chwarae hwn ar lannau Llyn Padarn, ac yn lle gwych i gymryd egwyl wrth edrych ar olygfeydd trawiadol o’r Wyddfa. Mae amrywiaeth o siopau difyr a bwytai ym mhentref Llanberis sydd ddim ond tafliad carreg o’r meysydd parcio drws nesa i’r parc chwarae.
Mae’r parc ger y Castell hanesyddol a’r traeth. Cae chwarae diogel amgaeedig gyda digon o offer , meinciau a bwrdd picnic. Cae mawr hefyd ar gyfer chwarae rhydd. Dim maes parcio ond o fewn pellter cerdded i barcio neu barcio ar ochr y lôn.
Mae gan y parc chwarae feinciau a golygfeydd godidog cefn gwlad. Mae parcio cyfyngedig ar ochr y ffordd.
Mae’r parc chwarae a’r traeth yn agos at ei gilydd sy’n ei gwneud hi’n hawdd cyfuno mwynhad y ddau atyniad.
Parc bach yw hwn ond yn hynod o agos i Draeth y De ac mae maes parcio’r traeth ei hun gerllaw.
Dewch am dro i erddi hanesyddol a chanolfan grefftauParc Glynllifon i fwynhau diwrnod allan i’r teulu cyfan. Lle ardderchog i grwydro o gwmpas i fwynhau amrywiaeth o brofiadau awyr agored. Am y rheswm hwnnw, cofiwch ei bod yn bwysig gwisgo esgidiau addas. Cyfle i daro i mewn i Gaffi Gath Ddu am baned neu bryd o fwyd a chael golwg o gwmpas siop ac oriel Adra. Mae hefyd gweithdai yn yr iard. Mae aelodaeth flynyddol ar gael. Am fwy o wybodaeth am Barc Glynllifon, ymwelwch â thudalen Facebook y parc ar: www.facebook.com/parcglynllifon
Ar ochr yr harbwr o Stryd Fawr, Porthmadog, trowch i mewn i’r stryd gyferbyn â siop Portmeirion ac ewch heibio’r maes parcio talu ac arddangos ar y dde.
Ger y môr ym mhentref glan môr poblogaidd, Dinas Dinlle, mae’n hawdd iawn cael hyd iddo ar ffo dd y traeth yn y pentref. Mae maes parcio a thoiledau cyhoeddus gerllaw. Mae’r parc chwarae a’r traeth yn agos iawn at ei gilydd ac yn hawdd felly cyfuno’r profia o fwynhau’r ddau atyniad.
Cae da ar gyfer cael chwarae pêl-droed neu rygbi yn hamddenol gan bod pust rygbi yno. Mae byrddau picnic ar gael ac offe chwarae cadarn.
Yma gallwch gael golygfeydd ysblennydd dros ddyffryn Dyfrdwy o'r draphont ddŵr - sydd hithau’n gamp beirianneg â 19 bwa gan Thomas Telford ac yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, gyda theithiau cerdded ar hyd y llwybr halio a llwybrau'n cysylltu â Pharc Gwledig Tŷ Mawr. Mae canolfan ymwelwyr a siop sy’n gwerthu diodydd poeth a bwyd ar gyfer yr hwyaid (mae'r oriau agor yn amrywio). Lle gwych i ymweld ag ef i fwydo'r hwyaid neu hyd yn oed fynd am daith mewn cwch. Mae teithiau cychod camlas ar gael (codir tâl).
Mae Erddig yn faenor o'r 18fed ganrif sy'n cynnig teithiau o amgylch y tŷ teuluol a'i erddi 12,000 erw addurnol. Mynediad am ddim i'r tiroedd allanol a’r llwybrau cerdded. Mae amrywiaeth o lwybrau cerdded, gan gynnwys ar lan yr afon. Mae ffau'r blaidd yn faes chwarae naturiol sy'n swatio yn y goedwig ac mae'n lle gwych i chwarae a chael picnic.
Castell, gerddi ac ystâd ganoloesol y mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn gofalu amdanynt
Mae Stori Brymbo yn sefydliad nid-er-elw sy'n bwriadu dod ag ardal dreftadaeth Brymbo yn fyw fel atyniad i ymwelwyr, canolfan ddysgu a lleoliad anhepgor yng ngogledd Cymru. Mae'n cael ei redeg gan bobl leol yn cydweithio i ddefnyddio hanes lleol i greu eu dyfodol. O'r hen waith dur i goedwig ffosilau, mae llawer i'w weld. Maent yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau - ewch i’w gwefan i weld y manylion.
Mae'r hen chwarel hon wedi cael ei thrawsnewid yn warchodfa natur gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Mae'n llawn hanes, planhigion a bywyd gwyllt. Mae ganddi afon i chwarae ynddi a nifer o lwybrau gwahanol i'w harchwilio, gan eich arwain ar daith trwy hanes a natur. Mae mannau agored eang i'w harchwilio ac mae'n lle gwych i chwilio am ffosilau. Gallwch weld yr hen odynau calch a'r hen welyau rheilffordd wrth edmygu harddwch y dirwedd helaeth ar yr un pryd. Mae llwybrau cerdded yn cysylltu chwarel Mwynglawdd â mwyngloddiau plwm Mwynglawdd.
Ac yntau’n barc gwledig mwyaf Wrecsam, mae’n cynnig amrywiaeth o deithiau cerdded trwy goetir a glaswelltir ac ar lan yr afon. Ar ochr Gwersyllt mae parc sglefrio, man chwarae gyda chyfarpar chwarae sefydlog ac amrywiaeth o lwybrau i gerdded a beicio. Mae lle i chwarae gemau pêl a digon o goed ar gyfer adeiladu cuddfannau. Ar ochr Llai mae canolfan ymwelwyr a chaffi (mae’r oriau agor yn amrywio). Mae llwybr ffitrwydd/ardal ymarfer corff, ardal chwarae naturiol gyda thywod, llwybrau cerdded a beicio amrywiol ac afon i chwarae ynddi. Mae digon o leoedd i chwarae ac adeiladu cuddfannau.
Yn swatio yn Nyffryn Dyfrdwy, mae anifeiliaid, coetiroedd, llwybrau a theithiau cerdded ar lan yr afon i'w darganfod. Mae caffi a chanolfan ymwelwyr a gallwch dalu i fwydo'r anifeiliaid neu gerdded ar hyd yr afon i draphont ddŵr Pontcysyllte.
Mae'r mwyngloddiau plwm yn rhoi cipolwg ar orffennol diwydiannol Cwm Clywedog. Gallwch archwilio'r parc gwledig, gweld olion y gweithfeydd plwm a'r tŷ injan trawst wedi'i adfer, y peiriant troellog a’r tai boeleri. Mae canolfan ymwelwyr a pharc gwledig sy’n cwmpasu 53 erw o laswelltir, coetir a safleoedd archeolegol. Mae llwybrau troed yn cysylltu'r mwyngloddiau plwm â Gwarchodfa Natur Chwarel Mwynglawdd a Melin y Nant. Mae canolfan ymwelwyr a thoiledau (mae’r oriau agor yn amrywio).
Mae Melin y Nant yn cynnwys maes parcio, man chwarae i blant a meinciau picnic ar lan yr afon. Mae teithiau cerdded coetir sy'n arwain i lawr at goed Plas Power a rhaeadr y Bers ac eraill sy'n arwain at waith plwm Mwynglawdd.
Parc gwledig gyda llwybrau cerdded a byrddau gwybodaeth am hanes diwydiannol yr ardal. Yn wych ar gyfer teithiau cerdded i'r teulu, hel pryfed, teithiau beicio a mynd â chŵn am dro.
Coedwig 70 erw gyda llwybrau cerdded a byrddau gwybodaeth am yr ardal. Yn wych ar gyfer teithiau cerdded i'r teulu, teithiau beicio, adeiladu cuddfannau a mynd â chŵn am dro. Mae llwybr ffitrwydd yng nghanol y coetir, pyllau i weld gweision y neidr a digon o goed ar gyfer adeiladu cuddfannau.
Gallwch gerdded ar hyd afon Clywedog, gyda llwybrau troed yn arwain i fyny at y Cwpan a'r Soser ac ystâd Erddig. Chwarae yn y caeau a'r coetiroedd. Yn wych ar gyfer cerdded a phadlo yn yr afon.
Ardal gadwraeth gydag afon, dolydd, llwybrau troed a choetir. Mae'r lle hwn yn hafan i fywyd gwyllt. Yn ddelfrydol ar gyfer picnics, hel pryfed, padlo yn yr afon ac adeiladu cuddfannau.
Treftadaeth ddiwydiannol yr ardal leol, gyda thaith gerdded ar lan yr afon sy'n cysylltu ag ystâd Erddig a Melin y Nant. Mae parc chwarae ac afon i chwarae ynddi.
Pwll pysgota preifat, cae pêl-droed, teithiau cerdded ym myd natur a chofeb hanesyddol. Yn ddelfrydol ar gyfer teithiau cerdded i’r teulu, pysgota ac archwilio. Mae amrywiaeth o lwybrau troed sy'n cysylltu â gwahanol rannau o Frymbo, gan roi cipolwg i chi ar hanes diwydiannol yr ardal.
Parc addas i deuluoedd gyda llwybrau cerdded, gerddi, meysydd chwarae, caeau athletau a chyrtiau tennis, bandstand a cherflun o’r Frenhines Victoria
Parc cyhoeddus gyda phwll pysgota. Lle hyfryd i fwydo'r hwyaid, mynd i bysgota, mwynhau'r ardal cyfarpar chwarae sefydlog. Mae amrywiaeth o lwybrau cerdded sy'n ddelfrydol ar gyfer pramiau a lle agored ar gyfer gemau pêl a phicnic.
Parc cyhoeddus gyda pharc sglefrio, cyfarpar chwarae sefydlog a man agored ar gyfer gemau pêl.
Parc cyhoeddus gyda pharc sglefrio, cyfarpar chwarae sefydlog a man agored ar gyfer gemau pêl.
Parc cyhoeddus gyda pharc sglefrio, trac BMX, cyrtiau tennis, cyfarpar chwarae sefydlog a man agored ar gyfer gemau pêl.
Yn rhedeg yn ystod pob gwyliau ysgol (ac eithrio'r Nadolig a hanner tymor mis Chwefror)
Yma, gallwch ddarganfod syniadau newydd am ble allwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud wrth chwarae yn yr awyr agored, gan gynnwys rhai o'r traethau, parciau, meysydd chwarae, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur gorau yng Ngogledd Cymru.
Gweld yn ôl Lleoliad