Yn wreiddiol, rhoddwyd y safle gan y mynachod Sistersaidd o Abaty Cymer, Llanelltyd i drigolion Abermaw ar gyfer hamddena gaeaf. Ar ôl cyfnod fel safle tirlenwi, yn 2005 crëwyd y safle glas trefol yno a welwn heddiw. Plannwyd cannoedd o goed derw, afalau, criafol, banadl a helyg a blodau gwyllt sy’n denu pryfed, adar ac anifeiliaid. Lle delfrydol i deuluoedd gerdded ac ymlacio.

- Cost
-
Am ddim.
- Cyfleusterau
-
Byrddau picnic, mynediad rhannol i ddefnyddwyr cadeiriau olwynion.
- Mynediad
-
Mae Wern Mynach yng nghanol tref Abermaw, ger y cae pêl-droed oddi ar Ffordd Y Parc.
- Cyfeiriad
- Abermaw, LL42 1RN, Gwynedd, Cymru
Efallai y byddwch chi hefyd yn hoffi

Gwarchodfa Natur Wern Mynach, Abermaw
Yn wreiddiol, rhoddwyd y safle gan y mynachod Sistersaidd o Abaty Cymer, Llanelltyd i drigolion Abermaw ar gyfer hamddena gaeaf. Ar ôl cyfnod fel safle tirlenwi, yn 2005 crëwyd y safle glas trefol yno a welwn heddiw. Plannwyd cannoedd o goed derw, afalau, criafol, banadl a helyg a blodau gwyllt sy’n denu pryfed, adar ac anifeiliaid. Lle delfrydol i deuluoedd gerdded ac ymlacio.
Features


Coedlan Gymunedol Coed Doctor, Llanberis
Prin yw’r llefydd parcio ger mynedfa Ffordd Clegir ei hun, ond dim ond tafliad carreg i fyny’r allt o’r pentref mae’r fynedfa.
Features



Chwarae yng Nghefn Gwlad
Mae natur yn darparu’r caeau chwarae gorau yn y byd ac mae pobl wedi profi bod cysylltu â natur yn gwneud iddyn nhw deimlo’n well. Fel gyda phob un o’r llefydd yn y canllaw yma, mae’n rhaid gofalu am ein Cefn gwlad, felly cofiwch gadw at y - Côd Cefn Gwlad.
- Parchu, Gwarchod, Mwynhau
- Parchu pobl eraill Cadw cŵn o dan reolaeth effeithiol
- Gadael giatiau ac eiddo fel rydych yn dod o hyd iddyn nhw a dilyn llwybrau troed oni bai fod mynediad ehangach ar gael
- Gwarchod yr amgylchedd naturiol
- Peidio â gadael unrhyw olion o’ch ymweliad a mynd â’ch sbwriel gartref gyda chi
- Cofio am y gymuned leol a’r bobl eraill sy’n mwynhau’r awyr agored
- Mwynhau’r awyr agored ond cadw’n ddiogel hefyd
- Cynllunio ymlaen llaw a bod yn barod Cadw at gyngor ac arwyddion lleol
Archwiliwch leoliadau awyr agored
Yma, gallwch ddarganfod syniadau newydd am ble allwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud wrth chwarae yn yr awyr agored, gan gynnwys rhai o'r traethau, parciau, meysydd chwarae, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur gorau yng Ngogledd Cymru.
Gweld yn ôl Lleoliad