Mae Llanberis yn bentref sy'n cael ei gysylltu â Llyn Padarn, yr Wyddfa a golygfeydd trawiadol ar draws Eryri.

Mae Coed Doctor yn goedlan unigryw a thawel sy’n cynnwys coedlan dderw, pyllau ac ardaloedd gwlyb ac ardal o dir agored. Mae’n llawn hanes a bywyd gwyllt ac yn lle braf i gerdded ac ymlacio. Gallwch weld olion mwyngloddio cynnar a modern yn ogystal ag adar amrywiol, mamaliaid prin fel ystlumod a moch daear, a llyffantod a brithyll yn Llyn Tomos. 

Cost

Am ddim. 

Cyfleusterau

Llwybr gwledig, mynediad i gadeiriau olwynion (yn rhannol), byrddau picnic.

Mynediad

Mae’r brif fynedfa i Goed Doctor ar y chwith wrth gerdded i lawr stryd fawr Llanberis i gyfeiriad Coed y Glyn. Nid yw’n addas i gadeiriau olwyn.

Cyfeiriad
Glyn Rhonwy, Caernarfon, Llanberis, LL55 4EL, Gwynedd, Cymru
Glyn Rhonwy, Caernarfon, Llanberis, LL55 4EL, Gwynedd, Cymru

Efallai y byddwch chi hefyd yn hoffi

Gwarchodfa Natur Wern Mynach, Abermaw

Yn wreiddiol, rhoddwyd y safle gan y mynachod Sistersaidd o Abaty Cymer, Llanelltyd i drigolion Abermaw ar gyfer hamddena gaeaf. Ar ôl cyfnod fel safle tirlenwi, yn 2005 crëwyd y safle glas trefol yno a welwn heddiw. Plannwyd cannoedd o goed derw, afalau, criafol, banadl a helyg a blodau gwyllt sy’n denu pryfed, adar ac anifeiliaid. Lle delfrydol i deuluoedd gerdded ac ymlacio.

Features

Darganfyddwch fwy about Gwarchodfa Natur Wern Mynach, Abermaw

Coedlan Gymunedol Coed Doctor, Llanberis

Prin yw’r llefydd parcio ger mynedfa Ffordd Clegir ei hun, ond dim ond tafliad carreg i fyny’r allt o’r pentref mae’r fynedfa.

Features

Darganfyddwch fwy about Coedlan Gymunedol Coed Doctor, Llanberis
Top tips

Chwarae yng Nghefn Gwlad

Mae natur yn darparu’r caeau chwarae gorau yn y byd ac mae pobl wedi profi bod cysylltu â natur yn gwneud iddyn nhw deimlo’n well. Fel gyda phob un o’r llefydd yn y canllaw yma, mae’n rhaid gofalu am ein Cefn gwlad, felly cofiwch gadw at y - Côd Cefn Gwlad.

  • Parchu, Gwarchod, Mwynhau
  • Parchu pobl eraill Cadw cŵn o dan reolaeth effeithiol
  • Gadael giatiau ac eiddo fel rydych yn dod o hyd iddyn nhw a dilyn llwybrau troed oni bai fod mynediad ehangach ar gael
  • Gwarchod yr amgylchedd naturiol
  • Peidio â gadael unrhyw olion o’ch ymweliad a mynd â’ch sbwriel gartref gyda chi
  • Cofio am y gymuned leol a’r bobl eraill sy’n mwynhau’r awyr agored
  • Mwynhau’r awyr agored ond cadw’n ddiogel hefyd
  • Cynllunio ymlaen llaw a bod yn barod Cadw at gyngor ac arwyddion lleol

Archwiliwch leoliadau awyr agored

Yma, gallwch ddarganfod syniadau newydd am ble allwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud wrth chwarae yn yr awyr agored, gan gynnwys rhai o'r traethau, parciau, meysydd chwarae, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur gorau yng Ngogledd Cymru.

Gweld yn ôl Lleoliad