Mae llawer o wahanol bethau i chi eu gwneud ar y Gogarth. Mae "Happy Valley" yn le da
iawn i chwarae cuddio. Yn y parc ar y copa mae’r llithren fwyaf yn y sir! Mae llwybr Alys
yng Ngwlad Hud ar gael yma hefyd, gydag ap rhyngweithiol. I gael rhagor o wybodaeth
am yr holl gyfleusterau, ewch i’r Ganolfan Groeso ar Stryd Mostyn, Llandudno.
- Cost
-
Mynediad ond costau amrywiol am weithgareddau
- Cyfleusterau
-
Dau Gae Chwarae, Parc Happy Valley, Llethr Sgïo, Ceir Cebl, Tramffordd, Punch & Judy (tymhorol), Traeth (tywod), Arcêd, Llwybrau Troed, Cadair Adrodd Straeon, Gorsedd Brenin a Brenhines a Ffigyrau Alys yng Ngwlad Hud
- Mynediad
-
Mae rhai llwybrau’n serth iawn ond ceir llwybrau hygyrch a gallwch yrru i’r top hefyd, at y ganolfan ymwelwyr (rhaid talu am hyn).
- Cyfeiriad
-
Church Walks, Llandudno, LL30, Conwy , Cymru, United Kingdom
Efallai y byddwch chi hefyd yn hoffi
Y Gogarth, Llandudno
Mae llawer o wahanol bethau i chi eu gwneud ar y Gogarth. Mae "Happy Valley" yn le da
iawn i chwarae cuddio. Yn y parc ar y copa mae’r llithren fwyaf yn y sir! Mae llwybr Alys
yng Ngwlad Hud ar gael yma hefyd, gydag ap rhyngweithiol. I gael rhagor o wybodaeth
am yr holl gyfleusterau, ewch i’r Ganolfan Groeso ar Stryd Mostyn, Llandudno.
Darganfyddwch fwy
about Y Gogarth, Llandudno
Pentre Mawr, Abergele
Mae fframiau chwarae grêt yn y parc yma ond y prif atyniad ydi’r coed rhyfeddol sy’n berffaith ar gyfer eu dringo ac ar gyfer adeiladu cuddfannau.
Hefyd mae’r llyn yn ardderchog ar gyfer trochi pwll.
Darganfyddwch fwy
about Pentre Mawr, Abergele
Parc Gele, Abergele
Mae llawer o offer ar gyfer plant iau yma ac mae’r llwybr rhwystrau’n grêt ar gyfer y rhai hyˆn. Mae’r llwybr tarmac i lawr y bryn yn cŵl ar gyfer beiciau ac mae’r nant fechan yn hwyl hefyd.
Darganfyddwch fwy
about Parc Gele, Abergele
Afon a Pharc Llansannan
Mae’r bwrdd tennis bwrdd yn cŵl iawn - mae batiau a pheli ar gael ond efallai y byddwch am ddod â’ch rhai chi eich hun, rhag ofn! Mae’r afon yng nghornel bellaf y cae ar y chwith, drwy giât fechan ar lwybr troed.
Darganfyddwch fwy
about Afon a Pharc Llansannan
Parc Eirias
Bydd y parc yma’n cymryd diwrnod llawn i’w archwilio. Mae yma barc sglefrio mawr a chae chwarae cŵl. Hwyliwch y cwch rydych chi wedi’i wneud eich hun ar y llyn cychod.
Mae’r ardal natur yng nghanol y parc yn grêt i’r rhai bach, gyda llawer o blanhigion, tywod a Dŵr i archwilio.
Darganfyddwch fwy
about Parc Eirias
Archwiliwch leoliadau awyr agored
Yma, gallwch ddarganfod syniadau newydd am ble allwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud wrth chwarae yn yr awyr agored, gan gynnwys rhai o'r traethau, parciau, meysydd chwarae, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur gorau yng Ngogledd Cymru.
Gweld yn ôl Lleoliad