Mae’r llwybr natur cylchol hwn, sydd wedi’i leoli y tu ôl i’r ysgol leol, yn hanner milltir o hyd. O ben y bryn, gall ymwelwyr fwynhau golygfeydd o Amlwch a thu hwnt, gyda chyfle i brofi bywyd gwyllt lleol. Mae’n llwybr perffaith ar gyfer y rheiny sydd eisiau mynd am dro sydyn.

Cost

Am ddim

Cyfleusterau

Cyfleusterau cyhoeddus a pharcio cyfagos.

Mynediad

Nid yw'r tir yn addas i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn.

Cyfeiriad
24, Craig Ddu, Amlwch, LL68 9EH, Ynys Môn, Cymru
24, Craig Ddu, Amlwch, LL68 9EH, Ynys Môn, Cymru

Efallai y byddwch chi hefyd yn hoffi

"Park Run" i'r rhai ifanc - Plas Newydd

Mae Plas Newydd yn blasty ar lan yr Afon Menai, sydd yng nghanol coedwig odidog yn llawn bywyd gwyllt. Bob dydd Sul am 9:00am, gall plant rhwng 4 ac 14 oed gymryd rhan mewn "Park Run 2k" sy’n ffordd ddiddorol o fwynhau’r lleoliad arbennig.

Features

Darganfyddwch fwy about "Park Run" i'r rhai ifanc - Plas Newydd

Coedwig Niwbwrch

Coedwig arfordirol hardd gyda llwybrau cerdded trwy’r goedwig a’r twyni tywod i Ynys Llanddwyn, sy’n cynnig golygfeydd syfrdanol a chyfle i edmygu bywyd gwyllt, gan gynnwys y wiwer goch. Bob dydd Sadwrn am 9:00am, mae "Parkrun 5K" yn cael ei gynnal, sy’n rhoi cyfle i unrhyw un gerdded, loncian, rhedeg, gwirfoddoli neu wylio.

Features

Darganfyddwch fwy about Coedwig Niwbwrch

Llwybr Natur Amlwch

Mae’r llwybr natur cylchol hwn, sydd wedi’i leoli y tu ôl i’r ysgol leol, yn hanner milltir o hyd. O ben y bryn, gall ymwelwyr fwynhau golygfeydd o Amlwch a thu hwnt, gyda chyfle i brofi bywyd gwyllt lleol. Mae’n llwybr perffaith ar gyfer y rheiny sydd eisiau mynd am dro sydyn.

Features

Darganfyddwch fwy about Llwybr Natur Amlwch

Parc Gwledig y Morglawdd

Mae Parc Gwledig y Morglawdd wedi’i leoli ar safle hen chwarel oedd yn cyflenwi carreg ar gyfer Morglawdd Caergybi, yr hiraf yn Ewrop. Mae amrywiaeth o gynefinoedd ar gael yn y parc, gan gynnwys rhostir, ardaloedd arfordirol a llyn. Mae’n lleoliad perffaith ar gyfer cerdded, gwylio adar a mwynhau harddwch naturiol Ynys Môn. Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn rhedeg drwy’r warchodfa, gan ddarparu llwybrau cerdded gyda golygfeydd godidog!

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Gwledig y Morglawdd

Llwybr Aberlleiniog

Mae Llwybr Cylchol Llangoed yn dechrau yn y pentref ac yn croesi lonydd gwledig distaw a llwybrau arfordirol. Ceir golygfeydd o’r Afon Menai, Eryri a Chastell Aberlleiniog. Mae’r llwybr yn addas i gerddwyr sydd eisiau her gymedrol a golygfeydd gwerth chweil.

Features

Darganfyddwch fwy about Llwybr Aberlleiniog

Gwarchodfa Natur Coed Cyrnol

Mae Coed Cyrnol yn warchodfa natur ym Mhorthaethwy, yn cynnwys llwybrau coetir, golygfeydd o’r arfordir a bywyd gwyllt amrywiol. Mae’n gartref i goed pinwydd a derw aeddfed, ac adar fel tylluanod a chnocell y coed. Ceir hefyd olygfeydd o’r Afon Menai ac Eryri.

Features

Darganfyddwch fwy about Gwarchodfa Natur Coed Cyrnol

Nant y Pandy

Wedi'i hamgylchynu gan goed bytholwyrdd, maeardal Nant y Pandy  yn llawn bywyd gwyllt ac yn ardal rhagorol i edrych allan am wiwerod coch!

Features

Darganfyddwch fwy about Nant y Pandy

Llangefni - Bodffordd

Wedi’i hamgylchynu gan goed bytholwyrdd, mae’r gronfa ddŵr yn ffynhonnell bwysig o ddŵr yfed ar gyfer Ynys Môn a hefyd yn ardal ragorol ar gyfer pysgota a bywyd gwyllt.

Features

Darganfyddwch fwy about Llangefni - Bodffordd

Llyn Maelog

Taith gylchol o amgylch Llyn Maelog ar lwybr troed sydd wedi’i ddiffinio’n dda.

Features

Darganfyddwch fwy about Llyn Maelog

Bryn Celli Du - Llanddaniel

Ar Fehefin 21ain, diwrnod hiraf y flwyddyn, mae rhywbeth arbennig iawn yn digwydd ym Mryn Celli Du. Ar y diwrnod hwn, mae pelydrau’r haul wrth iddo godi yn alinio’n berffaith gyda’r rhan hon o’r dwmpath hynafol gan daflu goleuni tu mewn iddo.

Features

Darganfyddwch fwy about Bryn Celli Du - Llanddaniel

Traeth Coch i Goedwig Pentraeth

Cerddwch yn dawel trwy’r goedwig ac efallai y byddwch yn clywed sŵn crafangau yn sgrialu a chynffon goch yn diflannu tu ôl i goeden, gan ei fod yn un o brif gartrefi ein Wiwer Goch gynhenid.

Features

Darganfyddwch fwy about Traeth Coch i Goedwig Pentraeth

Gors Bodeilio

Gallwch fwynhau amrywiaeth o olygfeydd o’r gwelyau brwyn i lwybr pren sy’n hwylus i bawb ac sy’n ymestyn am tua 700 medr o amgylch y safle.

Features

Darganfyddwch fwy about Gors Bodeilio
Top tips

Chwarae yng Nghefn Gwlad

Mae natur yn darparu’r caeau chwarae gorau yn y byd ac mae pobl wedi profi bod cysylltu â natur yn gwneud iddyn nhw deimlo’n well. Fel gyda phob un o’r llefydd yn y canllaw yma, mae’n rhaid gofalu am ein Cefn gwlad, felly cofiwch gadw at y - Côd Cefn Gwlad.

  • Parchu, Gwarchod, Mwynhau
  • Parchu pobl eraill Cadw cŵn o dan reolaeth effeithiol
  • Gadael giatiau ac eiddo fel rydych yn dod o hyd iddyn nhw a dilyn llwybrau troed oni bai fod mynediad ehangach ar gael
  • Gwarchod yr amgylchedd naturiol
  • Peidio â gadael unrhyw olion o’ch ymweliad a mynd â’ch sbwriel gartref gyda chi
  • Cofio am y gymuned leol a’r bobl eraill sy’n mwynhau’r awyr agored
  • Mwynhau’r awyr agored ond cadw’n ddiogel hefyd
  • Cynllunio ymlaen llaw a bod yn barod Cadw at gyngor ac arwyddion lleol

Archwiliwch leoliadau awyr agored

Yma, gallwch ddarganfod syniadau newydd am ble allwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud wrth chwarae yn yr awyr agored, gan gynnwys rhai o'r traethau, parciau, meysydd chwarae, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur gorau yng Ngogledd Cymru.

Gweld yn ôl Lleoliad