Ar Fehefin 21ain, diwrnod hiraf y flwyddyn, mae rhywbeth arbennig iawn yn digwydd ym Mryn Celli Du. Ar y diwrnod hwn, mae pelydrau’r haul wrth iddo godi yn alinio’n berffaith gyda’r rhan hon o’r twmpath hynafol gan daflu goleuni tu mewn iddo.

- Cost
-
Am ddim
- Cyfleusterau
-
Rheseli beics, maes parcio. Rhaid i bobl ifanc o dan 16 oed gael presenoldeb oedolyn gyda nhw.
- Mynediad
-
Parciwch yn y maes parcio, croeswch y ffordd ac fe gewch fynediad i’r llwybr newydd a’r ramp. Dilynwch y llwybr ger yr afon rhwng y llwyni tuag at y safle. Mae’n ddeg munud o gerdded ar dir da, fflat.
- Cyfeiriad
- Llanddaniel Fab, LL61 6EQ, Ynys Môn, Cymru
Efallai y byddwch chi hefyd yn hoffi

"Park Run" i'r rhai ifanc - Plas Newydd
Mae Plas Newydd yn blasty ar lan yr Afon Menai, sydd yng nghanol coedwig odidog yn llawn bywyd gwyllt. Bob dydd Sul am 9:00am, gall plant rhwng 4 ac 14 oed gymryd rhan mewn "Park Run 2k" sy’n ffordd ddiddorol o fwynhau’r lleoliad arbennig.
Features


Coedwig Niwbwrch
Coedwig arfordirol hardd gyda llwybrau cerdded trwy’r goedwig a’r twyni tywod i Ynys Llanddwyn, sy’n cynnig golygfeydd syfrdanol a chyfle i edmygu bywyd gwyllt, gan gynnwys y wiwer goch. Bob dydd Sadwrn am 9:00am, mae "Parkrun 5K" yn cael ei gynnal, sy’n rhoi cyfle i unrhyw un gerdded, loncian, rhedeg, gwirfoddoli neu wylio.
Features








Llwybr Natur Amlwch
Mae’r llwybr natur cylchol hwn, sydd wedi’i leoli y tu ôl i’r ysgol leol, yn hanner milltir o hyd. O ben y bryn, gall ymwelwyr fwynhau golygfeydd o Amlwch a thu hwnt, gyda chyfle i brofi bywyd gwyllt lleol. Mae’n llwybr perffaith ar gyfer y rheiny sydd eisiau mynd am dro sydyn.
Features



Parc Gwledig y Morglawdd
Mae Parc Gwledig y Morglawdd wedi’i leoli ar safle hen chwarel oedd yn cyflenwi carreg ar gyfer Morglawdd Caergybi, yr hiraf yn Ewrop. Mae amrywiaeth o gynefinoedd ar gael yn y parc, gan gynnwys rhostir, ardaloedd arfordirol a llyn. Mae’n lleoliad perffaith ar gyfer cerdded, gwylio adar a mwynhau harddwch naturiol Ynys Môn. Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn rhedeg drwy’r warchodfa, gan ddarparu llwybrau cerdded gyda golygfeydd godidog!
Features







Llwybr Aberlleiniog
Mae Llwybr Cylchol Llangoed yn dechrau yn y pentref ac yn croesi lonydd gwledig distaw a llwybrau arfordirol. Ceir golygfeydd o’r Afon Menai, Eryri a Chastell Aberlleiniog. Mae’r llwybr yn addas i gerddwyr sydd eisiau her gymedrol a golygfeydd gwerth chweil.
Features



Gwarchodfa Natur Coed Cyrnol
Mae Coed Cyrnol yn warchodfa natur ym Mhorthaethwy, yn cynnwys llwybrau coetir, golygfeydd o’r arfordir a bywyd gwyllt amrywiol. Mae’n gartref i goed pinwydd a derw aeddfed, ac adar fel tylluanod a chnocell y coed. Ceir hefyd olygfeydd o’r Afon Menai ac Eryri.
Features




Nant y Pandy
Wedi'i hamgylchynu gan goed bytholwyrdd, maeardal Nant y Pandy yn llawn bywyd gwyllt ac yn ardal rhagorol i edrych allan am wiwerod coch!
Features



Llangefni - Bodffordd
Wedi’i hamgylchynu gan goed bytholwyrdd, mae’r gronfa ddŵr yn ffynhonnell bwysig o ddŵr yfed ar gyfer Ynys Môn a hefyd yn ardal ragorol ar gyfer pysgota a bywyd gwyllt.
Features





Llyn Maelog
Taith gylchol o amgylch Llyn Maelog ar lwybr troed sydd wedi’i ddiffinio’n dda.
Features




Bryn Celli Du - Llanddaniel
Ar Fehefin 21ain, diwrnod hiraf y flwyddyn, mae rhywbeth arbennig iawn yn digwydd ym Mryn Celli Du. Ar y diwrnod hwn, mae pelydrau’r haul wrth iddo godi yn alinio’n berffaith gyda’r rhan hon o’r dwmpath hynafol gan daflu goleuni tu mewn iddo.
Features



Traeth Coch i Goedwig Pentraeth
Cerddwch yn dawel trwy’r goedwig ac efallai y byddwch yn clywed sŵn crafangau yn sgrialu a chynffon goch yn diflannu tu ôl i goeden, gan ei fod yn un o brif gartrefi ein Wiwer Goch gynhenid.
Features




Gors Bodeilio
Gallwch fwynhau amrywiaeth o olygfeydd o’r gwelyau brwyn i lwybr pren sy’n hwylus i bawb ac sy’n ymestyn am tua 700 medr o amgylch y safle.
Features




Chwarae yng Nghefn Gwlad
Mae natur yn darparu’r caeau chwarae gorau yn y byd ac mae pobl wedi profi bod cysylltu â natur yn gwneud iddyn nhw deimlo’n well. Fel gyda phob un o’r llefydd yn y canllaw yma, mae’n rhaid gofalu am ein Cefn gwlad, felly cofiwch gadw at y - Côd Cefn Gwlad.
- Parchu, Gwarchod, Mwynhau
- Parchu pobl eraill Cadw cŵn o dan reolaeth effeithiol
- Gadael giatiau ac eiddo fel rydych yn dod o hyd iddyn nhw a dilyn llwybrau troed oni bai fod mynediad ehangach ar gael
- Gwarchod yr amgylchedd naturiol
- Peidio â gadael unrhyw olion o’ch ymweliad a mynd â’ch sbwriel gartref gyda chi
- Cofio am y gymuned leol a’r bobl eraill sy’n mwynhau’r awyr agored
- Mwynhau’r awyr agored ond cadw’n ddiogel hefyd
- Cynllunio ymlaen llaw a bod yn barod Cadw at gyngor ac arwyddion lleol
Archwiliwch leoliadau awyr agored
Yma, gallwch ddarganfod syniadau newydd am ble allwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud wrth chwarae yn yr awyr agored, gan gynnwys rhai o'r traethau, parciau, meysydd chwarae, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur gorau yng Ngogledd Cymru.
Gweld yn ôl Lleoliad