Mae'r coetir bychan yma'n ddelfrydol ar gyfer archwilio am gyfnod byr. Cerddwch ar hyd Nant y Groes sydd â llawer o goed a gofod ar gyfer chwarae allan.

Cost

Am ddim

Cyfleusterau

Coetir, Taith Gerdded, Nant

Mynediad

Llwybr anwastad iawn ac ychydig o stepiau, ddim yn hwylus ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn na phramiau.

Cyfeiriad
Lôn Highfield, Bae Colwyn, LL29 7UF, Conwy , Cymru, United Kingdom
Lôn Highfield, Bae Colwyn, LL29 7UF, Conwy , Cymru, United Kingdom

Efallai y byddwch chi hefyd yn hoffi

Gwarchodfa Natur Nant y Coed, Llanfairfechan

Mae hwn yn goetir hardd iawn gydag afon fas, grêt a llawer o goed a deunyddiau naturiol.

Features

Darganfyddwch fwy about Gwarchodfa Natur Nant y Coed, Llanfairfechan

Taith Gerdded o gae Chwarae Trefriw i Lanrwst

Mae offer cŵl yn y cae chwarae yma, fel bwrdd cadw cydbwysedd a gwifren wib. Mae’r daith yn mynd dros y bont grog ac mae’r afon yn lle perffaith ar gyfer sgimio cerrig.

Features

Darganfyddwch fwy about Taith Gerdded o gae Chwarae Trefriw i Lanrwst

Llwybr Pren Betws-y-Coed

Yn yr haf mae’r creigiau hyn yn grêt ar gyfer archwilio a sblasho yn yr afon. Mae’r llwybr pren cŵl yn mynd yn uchel i fyny i ganol y coed ac yn plethu i mewn ac allan o’r coetir.

Features

Darganfyddwch fwy about Llwybr Pren Betws-y-Coed

Gwarchodfa Natur Tyddyn Drycyn, Pendalar

Dyma goetir bychan gyda llawer o wahanol lwybrau troed ac adfeilion diddorol i’w harchwilio - perffaith ar gyfer chwarae cuddio! Mae’n werth dringo i fyny i’r top i weld yr olygfa odidog!

Features

Darganfyddwch fwy about Gwarchodfa Natur Tyddyn Drycyn, Pendalar

Gwarchodfa Natur Leol a Chae Chwarae Coed Bodlondeb

Mae cae chwarae yma ond yr atyniad mawr ydi’r coetir a’r coed gwych - ewch allan i archwilio

Features

Darganfyddwch fwy about Gwarchodfa Natur Leol a Chae Chwarae Coed Bodlondeb

Gwarchodfa Natur Bryn Euryn, Llandrillo yn Rhos

Mae’r warchodfa natur yma’n cynnig digonedd o le i redeg a llawer o lwybrau cyfrinachol i chwarae cuddio. Mae yma greigiau i’w harchwilio hefyd, a llawer o fywyd gwyllt.

Features

Darganfyddwch fwy about Gwarchodfa Natur Bryn Euryn, Llandrillo yn Rhos

Fairy Glen

Mae hon yn daith gerdded fer hyfryd yn y coed wrth ymyl yr afon gyda digon o nodweddion i'ch ysbrydoli chi. Stopiwch ar un o'r pontydd am gêm o rasio priciau a chofiwch gadw llygad am y tylwyth teg!

Features

Darganfyddwch fwy about Fairy Glen

Llyn Crafnant

Llawer i'w ddarganfod yma a llwybrau amrywiol i'w dilyn (arwyddion ar gyfer pob un o'r maes parcio), rhowch gynnig ar sgimio cerrig ar y llyn. Ewch ar hyd Llwybr Cerdded Afon Crafnant am daith fer, hygyrch gyda digon o gyfleoedd i chwarae yn y coed - dilynwch yr arwyddion gwyn. Daw'r enw Crafnant o “craf”, hen air Cymraeg am arlleg, a “nant”, afonig neu gwm - fedrwch chi arogli'r garlleg gwyllt sy'n tyfu o amgylch y llyn?

Features

Darganfyddwch fwy about Llyn Crafnant

Gwarchodfa Natur Nant y Groes

Mae'r coetir bychan yma'n ddelfrydol ar gyfer archwilio am gyfnod byr. Cerddwch ar hyd Nant y Groes sydd â llawer o goed a gofod ar gyfer chwarae allan.

Features

Darganfyddwch fwy about Gwarchodfa Natur Nant y Groes

Rhiwledyn (Little Orme)

Gofod eang rhagorol. Mae llawer o feini naturiol yma ar gyfer dringo, llethau ar gyfer llithro a gofod i wneud den. Efallai y byddwch chi'n ddigon lwcus i weld morlo ym Mae Angel! Byddwch yn ofalus ar hyd y clogwyni serth oherwydd nid yw pob un wedi'i farcio - gofalus wrth chwarae yno.

Features

Darganfyddwch fwy about Rhiwledyn (Little Orme)

Cerdded Afon Betws Y Coed

Taith gerdded hwyliog ac amrywiol am 45 munud o amgylch cwrs golff gan ddechrau drwy'r giât ag arwydd preifat arni. Mae llawer o draethau cerrig mân ar hyd yr afon yn fannau stopio, a cherrig mawr i ddringo arnyn nhw. Mae'r daith yn mynd heibio i'r eglwys sydd ar agor ar gyfer ymwelwyr a phont grog dros yr afon - wnewch chi feiddio neidio arni a'i theimlo'n ysgwyd?! Daw'r daith i ben yn yr amgueddfa rheilffordd.

Features

Darganfyddwch fwy about Cerdded Afon Betws Y Coed
Top tips

Chwarae yng Nghefn Gwlad

Mae natur yn darparu’r caeau chwarae gorau yn y byd ac mae pobl wedi profi bod cysylltu â natur yn gwneud iddyn nhw deimlo’n well. Fel gyda phob un o’r llefydd yn y canllaw yma, mae’n rhaid gofalu am ein Cefn gwlad, felly cofiwch gadw at y - Côd Cefn Gwlad.

  • Parchu, Gwarchod, Mwynhau
  • Parchu pobl eraill Cadw cŵn o dan reolaeth effeithiol
  • Gadael giatiau ac eiddo fel rydych yn dod o hyd iddyn nhw a dilyn llwybrau troed oni bai fod mynediad ehangach ar gael
  • Gwarchod yr amgylchedd naturiol
  • Peidio â gadael unrhyw olion o’ch ymweliad a mynd â’ch sbwriel gartref gyda chi
  • Cofio am y gymuned leol a’r bobl eraill sy’n mwynhau’r awyr agored
  • Mwynhau’r awyr agored ond cadw’n ddiogel hefyd
  • Cynllunio ymlaen llaw a bod yn barod Cadw at gyngor ac arwyddion lleol

Archwiliwch leoliadau awyr agored

Yma, gallwch ddarganfod syniadau newydd am ble allwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud wrth chwarae yn yr awyr agored, gan gynnwys rhai o'r traethau, parciau, meysydd chwarae, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur gorau yng Ngogledd Cymru.

Gweld yn ôl Lleoliad