Mae Parc y Gorffennol yn cynnwys 120 acer o harddwch naturiol eithriadol gyda choetiroedd a gwlypdiroedd, llyn gwych 35 acer ac mae afon hyfryd yr Alun yn ystumio trwyddo, yn ogystal â llwybrau cerdded hyfryd a chaeau eang.
WELSH Emotional Health Wellbeing and Resilience, North Wales
Archwilio'r tu Allan / Coedwigoedd a Theithiau Cerdded
Parc y Gorffennol – lle mae hanes yn cyfarfod â natur ar gyfer dihangfa tawel a golygfaol.
Features
Mae Parc y Gorffennol yn cynnwys 120 acer o harddwch naturiol eithriadol gyda choetiroedd a gwlypdiroedd, llyn gwych 35 acer ac mae afon hyfryd yr Alun yn ystumio trwyddo, yn ogystal â llwybrau cerdded hyfryd a chaeau eang.
Gweler gwefan Parc Y Gorffennol am ragor o wybodaeth am gostau.
Llyn, teithiau cerdded, llogi padlfyrddau, nofio dŵr agored.
Gweler gwefan Parc Y Gorffennol.
Mae Parc Gwepra yn barc gwledig 160 acer (65 hectar) ger Cei Connah. Mae’r parc yn gartref i Gastell Ewlo ac mae yna faes chwarae i blant, campfa awyr agored, caeau chwarae pêl-droed a chanolfan ymwelwyr.
Mae canolfan wyliau Traeth Talacre Beach Resort yn lleoliad gwyliau perffaith i’r teulu wrth ymyl tywod euraidd Porth Gogledd Cymru. Gyda chyfleusterau pum seren, gweithgareddau dan do a rhaglenni ‘Go Active’ Hoseasons, mae’n ddelfrydol ar gyfer dyddiau llawn hwyl beth bynnag fo’r tywydd. Mae’r ganolfan wyliau ar agor am 10 mis o’r flwyddyn, gan gynnwys dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Mae wedi’i lleoli ger twyni hynafol Talacre, gwarchodfa natur a goleudy o’r 17eg ganrif - llecyn delfrydol am wyliau neu i fod yn berchen ar lety gwyliau.
Coed Nercwys, sydd ger Yr Wyddgrug, yw coedwig tawel sy'n cynnig llwybrau cerdded, beicio mynydd a marchogaeth.
Mae Moel Findeg yn cynnig dihangfa tawel gyda golygfeydd prydferth, yn berffaith ar gyfer heicio llonydd drwy Bryniau Clwyd.
Mae Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas yn barc gwledig 70 acer. Mae’r parc ym Maes Glas ger tref Treffynnon. Mae’n adnabyddus am ei goetir, cronfeydd dŵr, henebion (gan gynnwys gweddillion Abaty Dinas Basing), gorffennol diwydiannol cyfoethog a’i ffatrïoedd a chwaraeodd ran yn y Chwildro Diwydiannol.
Mae Trac Pwmpio BMX Treuddyn yn gyfleuster newydd hynod. Gyda chwe llwybr syth, pum tro gyda phalmentydd bloc, a bryn cychwyn palmantog, mae'r trac 280 metr yn cynnwys llwybr dychwelyd a chafodd ei dywarchu i gydweddu'n ddi-dor â'r ardal wledig o'i chwmpas.
Mae Ystâd Penarlâg, ym Mhentre Penarlâg, yn drysor hanesyddol llawn golygfeydd. Yno mae amddiffynfa o'r 13eg ganrif sy’n tarddu o'r Oes Haearn a chastell o'r 18fed ganrif. Wedi’i leoli mewn parcdir gwledig, mae gan yr ystâd hefyd lyn preifat, gardd â wal o'i chwmpas a choetiroedd helaeth.
Archwiliwch Lwybr Arfordir y Fflint am dro tawel gyda golygfeydd godidog o’r arfordir a’r natur.
Parc y Gorffennol – lle mae hanes yn cyfarfod â natur ar gyfer dihangfa tawel a golygfaol.
Darganfod Castell Caergwrle – perl wedi’i guddio lle mae hanes a golygfeydd godidog yn dod ynghyd.
Mae Bryn y Beili yn Yr Wyddgrug yn cynnig cymysgedd diddorol o hanes, gyda gwaith daear hynafol a golygfeydd syfrdanol o'r dref a'r wlad.
Mae natur yn darparu’r caeau chwarae gorau yn y byd ac mae pobl wedi profi bod cysylltu â natur yn gwneud iddyn nhw deimlo’n well. Fel gyda phob un o’r llefydd yn y canllaw yma, mae’n rhaid gofalu am ein Cefn gwlad, felly cofiwch gadw at y - Côd Cefn Gwlad.
Yma, gallwch ddarganfod syniadau newydd am ble allwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud wrth chwarae yn yr awyr agored, gan gynnwys rhai o'r traethau, parciau, meysydd chwarae, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur gorau yng Ngogledd Cymru.
Gweld yn ôl Lleoliad