Dewch am dro i erddi hanesyddol a chanolfan grefftau Parc Glynllifon i fwynhau diwrnod allan i’r teulu cyfan. Lle ardderchog i grwydro o gwmpas i fwynhau amrywiaeth o brofiadau awyr agored. Am y rheswm hwnnw, cofiwch ei bod yn bwysig gwisgo esgidiau addas. Cyfle i daro i mewn i Gaffi Gath Ddu am baned neu bryd o fwyd a chael golwg o gwmpas siop ac oriel Adra. Mae hefyd gweithdai yn y iard. Mae aelodaeth flynyddol ar gael. Am fwy o wybodaeth am Barc Glynllifon, ymwelwch â thudalen Facebook y parc ar: www.facebook.com/parcglynllifon

Cost

Oedolion £4;
Plant £2;
I’r teulu am y dydd £10 Costau yn gywir ar amser cyhoeddi

Cyfleusterau

Llwybr ystwythder ac siglenni. 

Mynediad

Cyfleusterau ar gyfer yr anabl.

Cyfeiriad
Clynnog Road, Caernarfon, Penygroes, LL54, Gwynedd, Cymru
Clynnog Road, Caernarfon, Penygroes, LL54, Gwynedd, Cymru

Efallai y byddwch chi hefyd yn hoffi

Parc Aberdyfi

Mae mynediad uniongyrchol i'r maes chwarae o'r maes parcio. Mae toiledau cyhoeddus a chanolfan wybodaeth ym mhen arall maes parcio. Mae gan y parc chwarae hefyd loches dan do a meinciau. Mae’r traeth a’r parc chwarae drws nesaf i’w gilydd sy’n ei gwneud hi’n hawdd cyfuno mwynhad y ddau atyniad.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Aberdyfi

Parc Adloniant Tywyn

Mae’r parc chwarae hwn ar lan y môr ac i’w gyrraedd dylid dilyn arwyddion y traeth a dod i lawr Ffordd y Pier o ganol tref Tywyn. 

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Adloniant Tywyn

Parc Coed Helen, Caernarfon

Mae ceir yn cyrraedd y safle o Ffordd yr Aber ond mae’r safle ei hun mewn man amgaeedig diogel. Mae yna doiledau a maes parcio gerllaw. Mae’r parc mewn llecyn dymunol ar lannau’r Fenai, a gyferbyn â chastell enwog Caernarfon. Lle delfrydol i fynd â’r plant ar ôl bod yn crwydro o amgylch y dref.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Coed Helen, Caernarfon

Parc Llanrug

Mae gan y parc chwarae hefyd feinciau, mainc bicnic a golygfeydd godidog o gefn gwlad. Mae modd parcio ar ochr y ffordd.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Llanrug

Parc Hamdden, Dolgellau

Wrth groesi’r bont i ddod i mewn i dref Dolgellau o’r gogledd, fe welwch y parc chwarae ar y chwith, fymryn tu hwnt i ochr draw’r bont. 

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Hamdden, Dolgellau

Parc Cwm-y-glo

Ar yr A4086 fe welwch y parc sglefrio o'r ffordd. Troi yma gan ddilyn y lôn a gweld y parc. Rhaid parcio ar ochr y lôn. Mae byrddau picnic ac offer ymarfer corff yn ogystâL ag offer parc chwarae.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Cwm-y-glo

Parc Ger Y Llyn, Llanberis

Wrth ochr Llyn Padarn. Mae ceir yn cyrraedd y parc ar hyd ffordd osgoi Llanberis. Mae mwy nag un maes parcio talu ac arddangos gerllaw, yn ogystal â thoiledau cyhoeddus. Mae’r parc chwarae hwn ar lannau Llyn Padarn, ac yn lle gwych i gymryd egwyl wrth edrych ar olygfeydd trawiadol o’r Wyddfa. Mae amrywiaeth o siopau difyr a bwytai ym mhentref Llanberis sydd ddim ond tafliad carreg o’r meysydd parcio drws nesa i’r parc chwarae.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Ger Y Llyn, Llanberis

Parc Harlech (Parc Chwarae Brenin George V)

Mae’r parc ger y Castell hanesyddol a’r traeth. Cae chwarae diogel amgaeedig gyda digon o offer , meinciau a bwrdd picnic. Cae mawr hefyd ar gyfer chwarae rhydd. Dim maes parcio ond o fewn pellter cerdded i barcio neu barcio ar ochr y lôn.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Harlech (Parc Chwarae Brenin George V)

Parc Caeathro

Mae gan y parc chwarae feinciau a golygfeydd godidog cefn gwlad. Mae parcio cyfyngedig ar ochr y ffordd.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Caeathro

Parc Aberdaron

Mae’r parc chwarae a’r traeth yn agos at ei gilydd sy’n ei gwneud hi’n hawdd cyfuno mwynhad y ddau atyniad.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Aberdaron

Parc Bron Y De, Pwllheli

Parc bach yw hwn ond yn hynod o agos i Draeth y De ac mae maes parcio’r traeth ei hun gerllaw.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Bron Y De, Pwllheli

Parc Gwledig Glynllifon

Dewch am dro i erddi hanesyddol a chanolfan grefftauParc Glynllifon i fwynhau diwrnod allan i’r teulu cyfan. Lle ardderchog i grwydro o gwmpas i fwynhau amrywiaeth o brofiadau awyr agored. Am y rheswm hwnnw, cofiwch ei bod yn bwysig gwisgo esgidiau addas. Cyfle i daro i mewn i Gaffi Gath Ddu am baned neu bryd o fwyd a chael golwg o gwmpas siop ac oriel Adra. Mae hefyd gweithdai yn yr iard. Mae aelodaeth flynyddol ar gael. Am fwy o wybodaeth am Barc Glynllifon, ymwelwch â thudalen Facebook y parc ar: www.facebook.com/parcglynllifon

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Gwledig Glynllifon

Archwiliwch leoliadau awyr agored

Yma, gallwch ddarganfod syniadau newydd am ble allwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud wrth chwarae yn yr awyr agored, gan gynnwys rhai o'r traethau, parciau, meysydd chwarae, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur gorau yng Ngogledd Cymru.

Gweld yn ôl Lleoliad