Llawer i’w wneud yma. Dewch â rhwyd ac ewch i hel crancod, ymarfer yn y gampfa neu drochi eich traed yn y pwll padlo.

Cost

AM DDIM

Cyfleusterau

Cae Chwarae, Campfa Awyr Agored, Pwll Padlo, Traeth (tywod a chreigiau), Llwybr Beicio.

Mynediad

Mae stepiau i lawr i’r traeth, sy’n atal mynediad i gadair olwyn, ond mae tarmac ar y palmentydd a’r llwybrau sy’n arwain at bob cyfleuster.

Cyfeiriad
Abbey Road, Bae Colwyn, Llandrillo yn Rhos, LL28 4NW, Conwy, Cymru
Abbey Road, Bae Colwyn, Llandrillo yn Rhos, LL28 4NW, Conwy, Cymru

Efallai y byddwch chi hefyd yn hoffi

Traeth Pen Morfa

Mae llawer o bethau i'w gwneud ar y lan y môr eang yma, gan gynnwys archwilio'r traeth o dywod a cherrig mân neu chwarae yn y twyni bychain. Mae offer chwarae sefydlog a hefyd ardal o laswellt ar gyfer gemau pêl.

Features

Darganfyddwch fwy about Traeth Pen Morfa

Prom Penmaenmawr

Mae gan y promenâd yma lawer o nodweddion cŵl gan gynnwys parc sglefrio mawr, ardal chwarae gydag offer sefydlog a thraeth. Mae'n draeth o dywod a cherrig mân felly cofiwch roi cynnig ar eich sgiliau sgimio cerrig.

Features

Darganfyddwch fwy about Prom Penmaenmawr

Traeth Llandrillo yn Rhos

Llawer i’w wneud yma. Dewch â rhwyd ac ewch i hel crancod, ymarfer yn y gampfa neu drochi eich traed yn y pwll padlo.

Features

Darganfyddwch fwy about Traeth Llandrillo yn Rhos

Traeth Llanfairfechan

Dewch â phicnic, racedi tennis, eich sgwter neu eich beic a bwced a rhaw a threuliwch y diwrnod yma. Cofiwch eich sbienddrych i wylio’r adar yn y warchodfa natur hefyd.

Features

Darganfyddwch fwy about Traeth Llanfairfechan

Porth Eirias

Traeth tywod gwych sydd bob amser yma, hyd yn oed pan mae’r llanw i mewn! Lle chwarae newydd sbon a hefyd golygfeydd gwych o dop yr adeilad.

Features

Darganfyddwch fwy about Porth Eirias

Traeth Pensarn

Mae’r gampfa awyr agored yn cynnig llawer o hwyl ac mae’r wal ddringo a’r rhwydi’n heriol. Mae’r traeth yn gymysgedd o dywod a cherrig mân. Mae un rhan o’r traeth yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig gyda blodau gwyllt hardd iawn yn ystod yr haf.

Features

Darganfyddwch fwy about Traeth Pensarn
Top tips

Chwarae’ n Ddiogel wrth Ddŵr

Mae dŵr yn un o adnoddau chwarae gorau byd natur a dylai plant gael profiad o chwarae mewn dŵr, gyda dŵr ac o’i amgylch. Er hynny, mae’n bwysig cofio am beryglon dŵr a chadw’n ddiogel.

  • Dim ond gydag oedolyn dylech chi chwarae wrth ddŵr neu mewn dŵr
  • Edrychwch ar ragolygon y tywydd ac amseroedd y llanw cyn mynd; hyd yn oed ar ddiwrnod tawel, mae’r cerhyntau’n gallu bod yn gryf
  • Os byddwch chi’n mynd i helynt, codwch eich llaw i’r awyr a gweiddi am help
  • Darllenwch unrhyw arwyddion diogelwch ar y traeth neu wrth yr afon a byddwch yn ymwybodol o beryglon lleol penodol
  • Peidiwch â defnyddio teganau gwynt mewn gwynt cryf neu ar fôr stormus
  • Os gwelwch chi rywun arall mewn helynt, dywedwch wrth Swyddog Traeth. Os nad ydych chi’n gallu gweld Swyddog Traeth, ffoniwch 999 neu 112 a gofynnwch am Gwylwyr y Glannau, ond peidiwch â cheisio achub neb eich hun
  • Chwiliwch am wybodaeth am y traeth rydych chi wedi’i ddewis cyn mynd allan yn goodbeachguide.co.uk
  • Cofiwch fod cerhyntau cryf mewn afonydd hefyd. Byddwch yn ofalus a dim ond mewn rhannau tawel a bas ddylech chi chwarae
  • Mae creigiau a meini wrth afonydd yn hwyl i chwarae arnyn nhw ond byddwch yn ofalus os ydyn nhw’n llithrig

Archwiliwch leoliadau awyr agored

Yma, gallwch ddarganfod syniadau newydd am ble allwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud wrth chwarae yn yr awyr agored, gan gynnwys rhai o'r traethau, parciau, meysydd chwarae, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur gorau yng Ngogledd Cymru.

Gweld yn ôl Lleoliad