Gellir dilyn taith gron o lonyddwch o amgylch rhai o lwybrau isaf Parc Gwledig poblogaidd Moel Famau. Dan gydreolaeth partneriaeth y Comisiwn Coedwigaeth ac Ardal o Harddwch Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, mae’r ardal hon yn atynfa boblogaidd i rai miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Cost

Maes parcio arhosiad hir. £1.50 Gallwch brynu trwydded parcio blynyddol i’w ddefnyddio yn y tri maes parcio canlynol:

Coed Moel Famau, Bwlch Pen Barras, Parc Gwledig Loggerheads

Cyfleusterau

• Toiledau: Yn y bloc toiledau gyferbyn â maes parcio’r Comisiwn Coedwigaeth
• Bywyd gwyllt

Cyfeiriad
Y Wyddgrug, CH7 5PH, Sir y Fflint, Cymru
Y Wyddgrug, CH7 5PH, Sir y Fflint, Cymru

Efallai y byddwch chi hefyd yn hoffi

Parc Gwledig Loggerheads

Mae Parc Gwledig Loggerheads yn fan arbennig iawn, yn gyfoeth o fywyd gwyllt a threftadaeth. Mae’n borth perffaith i ymwelwyr sydd eisiau archwilio Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Gwledig Loggerheads

Moel Famau

Gellir dilyn taith gron o lonyddwch o amgylch rhai o lwybrau isaf Parc Gwledig poblogaidd Moel Famau. Dan gydreolaeth partneriaeth y Comisiwn Coedwigaeth ac Ardal o Harddwch Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, mae’r ardal hon yn atynfa boblogaidd i rai miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Features

Darganfyddwch fwy about Moel Famau

Coedwig Pencoed

Mae Pencoed yn goetir cymunedol a reolir mewn partneriaeth rhwng Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a grwpiau gwirfoddol lleol. Bu prosiect yn cynnwys gwirfoddolwyr o’r cymunedau cyfagos yn helpu clirio sbwriel a gwella’r safle ar gyfer bywyd gwyllt ac ymwelwyr.

Mae dau lwybr posib trwy’r coetir: taith linellol ar hyd y llwybr isaf, sy yn ei hun yn cynnig golygfeydd ardderchog o fannau lleol amlwg megis Castell Dinbych. Os ydych yn teimlo’n fwy heini, mae’r llwybr uchaf yn arwain at olygfan lle, gellid dadlau, y ceir y golygfeydd gorau o Gastell Dinbych a Dyffryn Clwyd!

Parcio: Mae cilfan fawr ar yr A543 (Lôn Llewelyn) ar ochr orllewinol Pencoed a maes parcio bychan ym Mryn Stanley.

Features

Darganfyddwch fwy about Coedwig Pencoed

Gwarchodfa Natur Rhuddlan

Mae Gwarchodfa Natur Rhuddlan yn addas i bawb ei ddefnyddio. Mae’r safle wedi’i weddnewid yn lleoliad delfrydol ar gyfer bywyd gwyllt gael ffynnu ac yn ardal hamdden i bobl leol ac ymwelwyr. Mae’r daith fer yn eich tywys o amgylch pyllau, lle mae adar yn nythu’n flynyddol, a dolydd a gafodd eu gwella’n ddiweddar mewn partneriaeth â’r gymuned ac ysgolion lleol.

Features

Darganfyddwch fwy about Gwarchodfa Natur Rhuddlan

Coedwig Gymunedol Prestatyn

Mwynhewch daith gerdded braf drwy’r coetir ar lwybr pwrpasol gyda meinciau ar hyd y ffordd. Dewch â phicnic a gellwch ddefnyddio un o’r meinciau picnic yn y coetir. Mae’n le poblogaidd i rai sy’n mynd â’u cŵn am dro a theuluoedd sydd â phlant bach. Mae’r llwybrau’n hygyrch i rai sy’n defnyddio cadair olwyn, pramiau a beiciau.  Dewch â phêl gyda chi i’w chicio o gwmpas ar y caeau chwarae mawrion cyfagos. Mae yno hefyd lwybr heini, sy’n 1km o hyd, ar gyfer y rheiny sydd eisiau eu profi eu hunain.

Features

Darganfyddwch fwy about Coedwig Gymunedol Prestatyn
Top tips

Chwarae yng Nghefn Gwlad

Mae natur yn darparu’r caeau chwarae gorau yn y byd ac mae pobl wedi profi bod cysylltu â natur yn gwneud iddyn nhw deimlo’n well. Fel gyda phob un o’r llefydd yn y canllaw yma, mae’n rhaid gofalu am ein Cefn gwlad, felly cofiwch gadw at y - Côd Cefn Gwlad.

  • Parchu, Gwarchod, Mwynhau
  • Parchu pobl eraill Cadw cŵn o dan reolaeth effeithiol
  • Gadael giatiau ac eiddo fel rydych yn dod o hyd iddyn nhw a dilyn llwybrau troed oni bai fod mynediad ehangach ar gael
  • Gwarchod yr amgylchedd naturiol
  • Peidio â gadael unrhyw olion o’ch ymweliad a mynd â’ch sbwriel gartref gyda chi
  • Cofio am y gymuned leol a’r bobl eraill sy’n mwynhau’r awyr agored
  • Mwynhau’r awyr agored ond cadw’n ddiogel hefyd
  • Cynllunio ymlaen llaw a bod yn barod Cadw at gyngor ac arwyddion lleol

Archwiliwch leoliadau awyr agored

Yma, gallwch ddarganfod syniadau newydd am ble allwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud wrth chwarae yn yr awyr agored, gan gynnwys rhai o'r traethau, parciau, meysydd chwarae, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur gorau yng Ngogledd Cymru.

Gweld yn ôl Lleoliad