Yma cewch hwyl ar y siglen seddi fflat, siglen seddi crud, ffrâm aml-bwrpas, cylchfan, gôl pêl-droed, Postyn pêl Rhwyd / Pêl Fasged

- Cost
-
Am ddim
- Cyfleusterau
-
Siglen seddi fflat, siglen seddi crud, ffrâm aml-bwrpas, cylchfan, gôl pêl-droed, Postyn pêl Rhwyd / Pêl Fasged
- Mynediad
-
Troi oddi ar Heol yr Orsaf i’r B4391. Mae y maes chwarae wedi ei leoli wrth ochr y ffordd yma drws nesa i’r maes parcio.
- Cyfeiriad
- Bala, LL23, Gwynedd
Efallai y byddwch chi hefyd yn hoffi

Parc Aberdyfi
Mae mynediad uniongyrchol i'r maes chwarae o'r maes parcio. Mae toiledau cyhoeddus a chanolfan wybodaeth ym mhen arall maes parcio. Mae gan y parc chwarae hefyd loches dan do a meinciau. Mae’r traeth a’r parc chwarae drws nesaf i’w gilydd sy’n ei gwneud hi’n hawdd cyfuno mwynhad y ddau atyniad.
Features


Parc Adloniant Tywyn
Mae’r parc chwarae hwn ar lan y môr ac i’w gyrraedd dylid dilyn arwyddion y traeth a dod i lawr Ffordd y Pier o ganol tref Tywyn.
Features



Parc Coed Helen, Caernarfon
Mae ceir yn cyrraedd y safle o Ffordd yr Aber ond mae’r safle ei hun mewn man amgaeedig diogel. Mae yna doiledau a maes parcio gerllaw. Mae’r parc mewn llecyn dymunol ar lannau’r Fenai, a gyferbyn â chastell enwog Caernarfon. Lle delfrydol i fynd â’r plant ar ôl bod yn crwydro o amgylch y dref.
Features


Parc Llanrug
Mae gan y parc chwarae hefyd feinciau, mainc bicnic a golygfeydd godidog o gefn gwlad. Mae modd parcio ar ochr y ffordd.
Features



Parc Hamdden, Dolgellau
Wrth groesi’r bont i ddod i mewn i dref Dolgellau o’r gogledd, fe welwch y parc chwarae ar y chwith, fymryn tu hwnt i ochr draw’r bont.
Features




Parc Cwm-y-glo
Ar yr A4086 fe welwch y parc sglefrio o'r ffordd. Troi yma gan ddilyn y lôn a gweld y parc. Rhaid parcio ar ochr y lôn. Mae byrddau picnic ac offer ymarfer corff yn ogystâL ag offer parc chwarae.
Features




Parc Ger Y Llyn, Llanberis
Wrth ochr Llyn Padarn. Mae ceir yn cyrraedd y parc ar hyd ffordd osgoi Llanberis. Mae mwy nag un maes parcio talu ac arddangos gerllaw, yn ogystal â thoiledau cyhoeddus. Mae’r parc chwarae hwn ar lannau Llyn Padarn, ac yn lle gwych i gymryd egwyl wrth edrych ar olygfeydd trawiadol o’r Wyddfa. Mae amrywiaeth o siopau difyr a bwytai ym mhentref Llanberis sydd ddim ond tafliad carreg o’r meysydd parcio drws nesa i’r parc chwarae.
Features


Parc Harlech (Parc Chwarae Brenin George V)
Mae’r parc ger y Castell hanesyddol a’r traeth. Cae chwarae diogel amgaeedig gyda digon o offer , meinciau a bwrdd picnic. Cae mawr hefyd ar gyfer chwarae rhydd. Dim maes parcio ond o fewn pellter cerdded i barcio neu barcio ar ochr y lôn.
Features



Parc Caeathro
Mae gan y parc chwarae feinciau a golygfeydd godidog cefn gwlad. Mae parcio cyfyngedig ar ochr y ffordd.
Features



Parc Aberdaron
Mae’r parc chwarae a’r traeth yn agos at ei gilydd sy’n ei gwneud hi’n hawdd cyfuno mwynhad y ddau atyniad.
Features



Parc Bron Y De, Pwllheli
Parc bach yw hwn ond yn hynod o agos i Draeth y De ac mae maes parcio’r traeth ei hun gerllaw.
Features


Parc Gwledig Glynllifon
Dewch am dro i erddi hanesyddol a chanolfan grefftauParc Glynllifon i fwynhau diwrnod allan i’r teulu cyfan. Lle ardderchog i grwydro o gwmpas i fwynhau amrywiaeth o brofiadau awyr agored. Am y rheswm hwnnw, cofiwch ei bod yn bwysig gwisgo esgidiau addas. Cyfle i daro i mewn i Gaffi Gath Ddu am baned neu bryd o fwyd a chael golwg o gwmpas siop ac oriel Adra. Mae hefyd gweithdai yn yr iard. Mae aelodaeth flynyddol ar gael. Am fwy o wybodaeth am Barc Glynllifon, ymwelwch â thudalen Facebook y parc ar: www.facebook.com/parcglynllifon
Features


Archwiliwch leoliadau awyr agored
Yma, gallwch ddarganfod syniadau newydd am ble allwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud wrth chwarae yn yr awyr agored, gan gynnwys rhai o'r traethau, parciau, meysydd chwarae, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur gorau yng Ngogledd Cymru.
Gweld yn ôl Lleoliad