Mae digonedd i’w wneud ym Mharc Padarn! Dewch am dro i fwynhau diwrnod allan i’r teulu i gyd. Mwynhewch y golygfeydd mwyaf trawiadol yng Ngogledd Cymru...ar draws Llyn Padarn o Gastell Dolbadarn ac at Eryri yn ei holl ogoniant. Cyfle i ddysgu am hanes yr ardal ac i grwydro llwybrau gwyllt o amgylch y llyn. Rhowch gynnig ar y cwrs rhaffau ac ysgolion! Gofynnwn i ymwelwyr ystyried eu diogelwch bob amser tra byddant yn ymyl y llyn ei hun. Bydd adran ‘Cyngor Call: Chwarae’n Ddiogel Wrth Ddŵr’ yn medru cynnig arweiniad. Am wybodaeth fwy penodol a diweddar am yr Amgueddfa Lechi a Rheilffordd Padarn, cymerwch olwg ar eu safle gwe https://parcpadarn.cymru/cy/

- Cost
-
Mynediad am Ddim i’r Parc / Talu ac Arddangos yn y meysydd parcio
- Cyfleusterau
-
Digon o le i barcio, caffi, Ysbyty’r Chwarel, Llwybrau Natur, Llyn Padarn, Amgueddfa Lechi Cymru, Rheilffordd Llyn Padarn, Amgueddfa Lechi Genedlaethol, Cwrs Rhaffau a Dringo (cwrs antur i blant ac oedolion), Canolfan Chwaraeon dŵr Padarn, Cychod Padarn, Academi Ddeifio, Crochenwaith Padarn, Fframia, Odyn Copr, Sawna Bach a Siop anrhegion Gwdihw.
- Mynediad
-
Mae rhai llwybrau yn addas i gadeiriau olwyn. Ysbyty’r Chwarel yn hygyrch i ymwelwyr.
- Cyfeiriad
- Parc Gwledig Padarn, Ysbyty’r Chwarel,, Caernarfon, Llanberis, LL55 4TY, Gwynedd, Cymru
Efallai y byddwch chi hefyd yn hoffi

Parc Gwledig Glynllifon
Dewch am dro i erddi hanesyddol a chanolfan grefftau Parc Glynllifon i fwynhau diwrnod allan i’r teulu cyfan. Lle ardderchog i grwydro o gwmpas i fwynhau amrywiaeth o brofiadau awyr agored. Am y rheswm hwnnw, cofiwch ei bod yn bwysig gwisgo esgidiau addas.
Features



Parc Gwledig Padarn
Mae digonedd i’w wneud ym Mharc Padarn! Dewch am dro i fwynhau diwrnod allan i’r teulu i gyd. Mwynhewch y golygfeydd mwyaf trawiadol yng Ngogledd Cymru...ar draws Llyn Padarn o Gastell Dolbadarn ac at Eryri yn ei holl ogoniant. Cyfle i ddysgu am hanes yr ardal ac i grwydro llwybrau gwyllt o amgylch y llyn. Rhowch gynnig ar y cwrs rhaffau ac ysgolion! Gofynnwn i ymwelwyr ystyried eu diogelwch bob amser tra byddant yn ymyl y llyn ei hun. Bydd adran ‘Cyngor Call: Chwarae’n Ddiogel Wrth Ddŵr’ yn medru cynnig arweiniad. Am wybodaeth fwy penodol a diweddar am yr Amgueddfa Lechi a Rheilffordd Padarn, cymerwch olwg ar eu safle gwe https://parcpadarn.cymru/cy/
Features



Archwiliwch leoliadau awyr agored
Yma, gallwch ddarganfod syniadau newydd am ble allwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud wrth chwarae yn yr awyr agored, gan gynnwys rhai o'r traethau, parciau, meysydd chwarae, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur gorau yng Ngogledd Cymru.
Gweld yn ôl Lleoliad