Dewch am dro i erddi hanesyddol a chanolfan grefftau Parc Glynllifon i fwynhau diwrnod allan i’r teulu cyfan. Lle ardderchog i grwydro o gwmpas i fwynhau amrywiaeth o brofiadau awyr agored. Am y rheswm hwnnw, cofiwch ei bod yn bwysig gwisgo esgidiau addas.

Cyfle i daro i mewn i Gaffi’r Gath Ddu am baned neu bryd o fwyd a chael golwg o gwmpas siop ac oriel Adra. Mae hefyd gweithdai yn yr iard. Mae aelodaeth flynyddol ar gael. Am fwy o wybodaeth am Barc Glynllifon, ymwelwch â thudalen Facebook y parc ar: www.facebook.com/parcglynllifon / Croeso i Barc Glynllifon

Cost

Mae yna gostau mynediad ymwelwch â gwefan Parc Gwledig Glynllifon.

Cyfleusterau

Parcio am ddim, byrddau picnic, Caffi, llochesi, bywyd gwyllt, teithiau cerdded tywysedig, siop ac oriel.

Mynediad

Mae’r parc a’r cyfleusterau i gyd yn hygyrch,

Cyfeiriad
Ffordd Clynnog , Caernarfon, Penygroes, LL54 5DY, Gwynedd, Cymru
Ffordd Clynnog , Caernarfon, Penygroes, LL54 5DY, Gwynedd, Cymru

Efallai y byddwch chi hefyd yn hoffi

Parc Gwledig Glynllifon

Dewch am dro i erddi hanesyddol a chanolfan grefftau Parc Glynllifon i fwynhau diwrnod allan i’r teulu cyfan. Lle ardderchog i grwydro o gwmpas i fwynhau amrywiaeth o brofiadau awyr agored. Am y rheswm hwnnw, cofiwch ei bod yn bwysig gwisgo esgidiau addas.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Gwledig Glynllifon

Parc Gwledig Padarn

Mae digonedd i’w wneud ym Mharc Padarn! Dewch am dro i fwynhau diwrnod allan i’r teulu i gyd. Mwynhewch y golygfeydd mwyaf trawiadol yng Ngogledd Cymru...ar draws Llyn Padarn o Gastell Dolbadarn ac at Eryri yn ei holl ogoniant. Cyfle i ddysgu am hanes yr ardal ac i grwydro llwybrau gwyllt o amgylch y llyn. Rhowch gynnig ar y cwrs rhaffau ac ysgolion! Gofynnwn i ymwelwyr ystyried eu diogelwch bob amser tra byddant yn ymyl y llyn ei hun. Bydd adran ‘Cyngor Call: Chwarae’n Ddiogel Wrth Ddŵr’ yn medru cynnig arweiniad. Am wybodaeth fwy penodol a diweddar am yr Amgueddfa Lechi a Rheilffordd Padarn, cymerwch olwg ar eu safle gwe  https://parcpadarn.cymru/cy/ 

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Gwledig Padarn

Archwiliwch leoliadau awyr agored

Yma, gallwch ddarganfod syniadau newydd am ble allwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud wrth chwarae yn yr awyr agored, gan gynnwys rhai o'r traethau, parciau, meysydd chwarae, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur gorau yng Ngogledd Cymru.

Gweld yn ôl Lleoliad