Ar ochr yr harbwr o Stryd Fawr, Porthmadog, trowch i mewn i’r stryd gyferbyn â siop Portmeirion ac ewch heibio’r maes parcio talu ac arddangos ar y dde. Fe welwch y parc chwarae ochr draw i’r maes parcio, ar y gornel hefo Stryd Lombard. Mae toiledau cyhoeddus gerllaw. Mae Stryd Fawr, Porthmadog o fewn tafliad carreg i'r parc. Mae digonedd o fyrddau picnic ar gael ac mae'n bosib dilyn llwybr cerdded/beicio'r Cob sy'n rhan o rwydwaith Lonydd Glas Gwynedd a'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Cost

Parcio a thalu ac arddangos a parcio ar y stryd ar gael.

Cyfleusterau

Siglenni, sleid, ffrâ ddringo, rowndabowt spacenet a springi.

Mynediad

Gerllaw ardal hanesyddol yr harbwr ym Mhorthmadog ac o fewn pellter cerdded hawdd o orsaf Rheilffordd yr Wyddfa a gorsaf bws y dref.

Cyfeiriad
Stryd Fawr, Porthmadog, LL49 9LR, Gwynedd, Cymru
Stryd Fawr, Porthmadog, LL49 9LR, Gwynedd, Cymru

Efallai y byddwch chi hefyd yn hoffi

Parc Aberdyfi

Mae mynediad uniongyrchol i'r maes chwarae o'r maes parcio. Mae toiledau cyhoeddus a chanolfan wybodaeth ym mhen arall maes parcio. Mae gan y parc chwarae hefyd loches dan do a meinciau. Mae’r traeth a’r parc chwarae drws nesaf i’w gilydd sy’n ei gwneud hi’n hawdd cyfuno mwynhad y ddau atyniad.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Aberdyfi

Parc Adloniant Tywyn

Mae’r parc chwarae hwn ar lan y môr ac i’w gyrraedd dylid dilyn arwyddion y traeth a dod i lawr Ffordd y Pier o ganol tref Tywyn. 

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Adloniant Tywyn

Parc Coed Helen, Caernarfon

Mae ceir yn cyrraedd y safle o Ffordd yr Aber ond mae’r safle ei hun mewn man amgaeedig diogel. Mae yna doiledau a maes parcio gerllaw. Mae’r parc mewn llecyn dymunol ar lannau’r Fenai, a gyferbyn â chastell enwog Caernarfon. Lle delfrydol i fynd â’r plant ar ôl bod yn crwydro o amgylch y dref.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Coed Helen, Caernarfon

Parc Llanrug

Mae gan y parc chwarae hefyd feinciau, mainc bicnic a golygfeydd godidog o gefn gwlad. Mae modd parcio ar ochr y ffordd.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Llanrug

Parc Hamdden, Dolgellau

Wrth groesi’r bont i ddod i mewn i dref Dolgellau o’r gogledd, fe welwch y parc chwarae ar y chwith, fymryn tu hwnt i ochr draw’r bont. 

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Hamdden, Dolgellau

Parc Cwm-y-glo

Ar yr A4086 fe welwch y parc sglefrio o'r ffordd. Troi yma gan ddilyn y lôn a gweld y parc. Rhaid parcio ar ochr y lôn. Mae byrddau picnic ac offer ymarfer corff yn ogystâL ag offer parc chwarae.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Cwm-y-glo

Parc Ger Y Llyn, Llanberis

Wrth ochr Llyn Padarn. Mae ceir yn cyrraedd y parc ar hyd ffordd osgoi Llanberis. Mae mwy nag un maes parcio talu ac arddangos gerllaw, yn ogystal â thoiledau cyhoeddus. Mae’r parc chwarae hwn ar lannau Llyn Padarn, ac yn lle gwych i gymryd egwyl wrth edrych ar olygfeydd trawiadol o’r Wyddfa. Mae amrywiaeth o siopau difyr a bwytai ym mhentref Llanberis sydd ddim ond tafliad carreg o’r meysydd parcio drws nesa i’r parc chwarae.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Ger Y Llyn, Llanberis

Parc Harlech (Parc Chwarae Brenin George V)

Mae’r parc ger y Castell hanesyddol a’r traeth. Cae chwarae diogel amgaeedig gyda digon o offer , meinciau a bwrdd picnic. Cae mawr hefyd ar gyfer chwarae rhydd. Dim maes parcio ond o fewn pellter cerdded i barcio neu barcio ar ochr y lôn.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Harlech (Parc Chwarae Brenin George V)

Parc Caeathro

Mae gan y parc chwarae feinciau a golygfeydd godidog cefn gwlad. Mae parcio cyfyngedig ar ochr y ffordd.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Caeathro

Parc Aberdaron

Mae’r parc chwarae a’r traeth yn agos at ei gilydd sy’n ei gwneud hi’n hawdd cyfuno mwynhad y ddau atyniad.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Aberdaron

Parc Bron Y De, Pwllheli

Parc bach yw hwn ond yn hynod o agos i Draeth y De ac mae maes parcio’r traeth ei hun gerllaw.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Bron Y De, Pwllheli

Parc Gwledig Glynllifon

Dewch am dro i erddi hanesyddol a chanolfan grefftauParc Glynllifon i fwynhau diwrnod allan i’r teulu cyfan. Lle ardderchog i grwydro o gwmpas i fwynhau amrywiaeth o brofiadau awyr agored. Am y rheswm hwnnw, cofiwch ei bod yn bwysig gwisgo esgidiau addas. Cyfle i daro i mewn i Gaffi Gath Ddu am baned neu bryd o fwyd a chael golwg o gwmpas siop ac oriel Adra. Mae hefyd gweithdai yn yr iard. Mae aelodaeth flynyddol ar gael. Am fwy o wybodaeth am Barc Glynllifon, ymwelwch â thudalen Facebook y parc ar: www.facebook.com/parcglynllifon

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Gwledig Glynllifon

Archwiliwch leoliadau awyr agored

Yma, gallwch ddarganfod syniadau newydd am ble allwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud wrth chwarae yn yr awyr agored, gan gynnwys rhai o'r traethau, parciau, meysydd chwarae, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur gorau yng Ngogledd Cymru.

Gweld yn ôl Lleoliad