Mae Traeth Ffrith, Prestatyn, Sir Ddinbych, yn un o dri thraeth tywodlyd ar hyd morlin Prestatyn – Traeth Barkby, y Traeth Canol a Thraeth Ffrith. Mae promenâd sydd oddeutu 4 milltir o hyd yn cysylltu’r tri thraeth, ac fe’i defnyddir gan gerddwyr a beicwyr. Mae’n rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae’r golygfeydd ar hyd y promenâd yn ymestyn o fynyddoedd Eryri, y Gogarth ger Llandudno, ac Ynys Môn yn y gorllewin, hyd at Gilgwri yn y dwyrain, a Bryniau Prestatyn yn y de. Ar ddyddiau clir iawn, mae’n bosibl gweld Ynys Manaw, mynyddoedd Cymbria a Thŵr Blackpool, ac mae platfform olew a nwy Douglas BHP Petroleum ym Mae Lerpwl i’w weld fel arfer. Dewch â bwced a rhaw, ond cofiwch gymryd golwg ar amseroedd y llanw cyn cynllunio eich ymweliad. Mae manylion i’w gweld yma.
Mae cyfyngiadau ar yr amseroedd a’r lleoedd y gellwch fynd â chŵn pan fyddwch yn ymweld â thraethau Sir Ddinbych.
1 Hydref – 30 Ebrill: gellwch fynd â’ch ci i unrhyw le ar y traeth.
1 Mai – 30 Medi: mae cyfyngiadau ar waith, felly dim ond i rai mannau penodol ar y traeth y gellwch fynd â’ch ci. Mae arwyddion a mapiau ar y traeth i ddangos i chi lle gellwch fynd â’ch ci yn ystod misoedd yr haf.
Mae’r Gerddi Gŵyl yn cynnig llwybr cerdded uniongyrchol drwodd i’r promenâd, dau le chwarae sydd ag offer chwarae sefydlog, llecyn gemau amlddefnydd ar gyfer gemau pêl, a phwll lle gellir gweld bywyd gwyllt.