Llawer i’w wneud yma, dewch â rhwyd ac ewch i hel crancod, chwarae yn y cae chwarae neu drochi eich traed yn y pwll padlo.

Cost

Maes parcio taku ac arddangos gerllaw. 

Cyfleusterau

Cae chwarae, pwll padlo, traeth (tywod a cherrig mân), hel crancod, pier.

Mynediad

Llwybrau tarmac addas ar gyfer cadeiriau olwyn a bygis, ramp ar gael i fynd i’r traeth.

Cyfeiriad
Biwmares, LL58 8BS, Ynys Môn, Cymru
Biwmares, LL58 8BS, Ynys Môn, Cymru

Efallai y byddwch chi hefyd yn hoffi

Glan y Môr Biwmares

Llawer i’w wneud yma, dewch â rhwyd ac ewch i hel crancod, chwarae yn y cae chwarae neu drochi eich traed yn y pwll padlo.

Features

Darganfyddwch fwy about Glan y Môr Biwmares

Traeth Llanddwyn

Dewch â phicnic, eich sgwter neu eich beic a bwced a rhaw a threuliwch y diwrnod yma.

Cofiwch eich ysbienddrych i wylio’r adar yn y warchodfa natur hefyd. Llosgwch eich egni drwy roi cynnig ar y llwybr ffitrwydd 10 gorsaf yn ogystal â 2 orsaf sy’n addas i gadeiriau olwyn. Mae’r Llwybr Ffitrwydd yn cyfuno ymarfer corff a gynlluniwyd yn wyddonol gyda cherdded neu loncian er mwyn darparu rhaglen ffitrwydd gytbwys i’r corff cyfan.

Features

Darganfyddwch fwy about Traeth Llanddwyn

Traeth Y Newry

Cae chwarae yn edrych dros yr harbwr, gallwch wylio’r cychod yn mynd a dod wrth i chi chwarae.

Features

Darganfyddwch fwy about Traeth Y Newry

Traeth Aberffraw

Mae’n daith gerdded hanner milltir ar hyd glan yr afon dywodlyd a phan fyddwch yn cyrraedd, mae’r traeth yn fawr ac yn eang. O’i amgylch, mae pentiroedd glaswelltog dymunol sy’n cefnu ar y twyni tywod.

Features

Darganfyddwch fwy about Traeth Aberffraw

Traeth Bae Trearddur

Cae chwarae wedi’i leoli gyferbyn â’r traeth. Mae i’r traeth ardal ymdrochi diogel ac wedi’i marcio gan fwiau.

Features

Darganfyddwch fwy about Traeth Bae Trearddur

Traeth Benllech

Mae gan draeth Benllech dywod melyn hyfryd a d ˆwr clir sy’n ddiogel iawn ar gyfer ymdrochi a phadlo ac mae digon o byllau creigiau i’w hymchwilio. Pan fydd y llanw yn isel, mae milltiroedd o draeth i’w weld gan roi digon o le i blant ifanc chwarae neu fynd am dro.

Features

Darganfyddwch fwy about Traeth Benllech

Traeth Rhosneigr

Mae Rhosneigr yn le rhagorol ar gyfer cerdded ar y traeth gyda’i allfrigiadau creigiog a’i dwyni tywod. Mae Llyn Maelog, lle mae mynediad rhwydd i bawb ar hyd llwybr estyllod, hefyd yn ddelfrydol ar gyfer y rhai hynny sy’n dymuno gweld y bywyd gwyllt lleol. Ar ôl i chi gerdded ar hyd y milltiroedd o draethau tywodlyd, mae digon o lefydd ar gael lle gallwch fwynhau pryd o fwyd yn y bwytai lleol neu beth am ddiod a hufen iâ, perffaith!

Features

Darganfyddwch fwy about Traeth Rhosneigr

Traeth Rhoscolyn

Mae hwn yn draeth teuluol rhagorol sy’n cynnwys twmpathau tywod a nifer o byllau creigiau. 

Features

Darganfyddwch fwy about Traeth Rhoscolyn

Traeth Moelfre

Ymwelwch â gorsaf bad achub a bythynnod y pysgotwyr, y man lle achubwyd criw Hindlea, Porth Helaeth a chôf golofn y Royal Charter. Wedi cyrraedd adref bron iawn ar ôl taith hir o Melbourne, Awstralia, gyda 452 o deithwyr a chriw a £320,000 o aur Awstralia. Cafodd y Royal Charter ei dal mewn storm ddifrifol a suddodd y llong stêm ar 25 Hydref, 1859 ger pentref Moelfre, ar ei thaith i Lerpwl.

Features

Darganfyddwch fwy about Traeth Moelfre
Top tips

Chwarae’ n Ddiogel wrth Ddŵr

Mae dŵr yn un o adnoddau chwarae gorau byd natur a dylai plant gael profiad o chwarae mewn dŵr, gyda dŵr ac o’i amgylch. Er hynny, mae’n bwysig cofio am beryglon dŵr a chadw’n ddiogel.

  • Dim ond gydag oedolyn dylech chi chwarae wrth ddŵr neu mewn dŵr
  • Edrychwch ar ragolygon y tywydd ac amseroedd y llanw cyn mynd; hyd yn oed ar ddiwrnod tawel, mae’r cerhyntau’n gallu bod yn gryf
  • Os byddwch chi’n mynd i helynt, codwch eich llaw i’r awyr a gweiddi am help
  • Darllenwch unrhyw arwyddion diogelwch ar y traeth neu wrth yr afon a byddwch yn ymwybodol o beryglon lleol penodol
  • Peidiwch â defnyddio teganau gwynt mewn gwynt cryf neu ar fôr stormus
  • Os gwelwch chi rywun arall mewn helynt, dywedwch wrth Swyddog Traeth. Os nad ydych chi’n gallu gweld Swyddog Traeth, ffoniwch 999 neu 112 a gofynnwch am Gwylwyr y Glannau, ond peidiwch â cheisio achub neb eich hun
  • Chwiliwch am wybodaeth am y traeth rydych chi wedi’i ddewis cyn mynd allan yn goodbeachguide.co.uk
  • Cofiwch fod cerhyntau cryf mewn afonydd hefyd. Byddwch yn ofalus a dim ond mewn rhannau tawel a bas ddylech chi chwarae
  • Mae creigiau a meini wrth afonydd yn hwyl i chwarae arnyn nhw ond byddwch yn ofalus os ydyn nhw’n llithrig

Archwiliwch leoliadau awyr agored

Yma, gallwch ddarganfod syniadau newydd am ble allwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud wrth chwarae yn yr awyr agored, gan gynnwys rhai o'r traethau, parciau, meysydd chwarae, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur gorau yng Ngogledd Cymru.

Gweld yn ôl Lleoliad