Treftadaeth ddiwydiannol yr ardal leol, gyda thaith gerdded ar lan yr afon sy'n cysylltu ag ystâd Erddig a Melin y Nant. Mae parc chwarae ac afon i chwarae ynddi.

Cost

Am ddim.

Cyfleusterau

Mae'r ganolfan ymwelwyr ar gau’n barhaol, ond mae mynediad i'r safle am dro.

Mynediad

Mynediad cyfyngedig.

Cyfeiriad
The Old Smiths Shop, Bersham Road, Bersham, Wrecsam, LL14 4HT, Sir Wrecsam, Cymru
The Old Smiths Shop, Bersham Road, Bersham, Wrecsam, LL14 4HT, Sir Wrecsam, Cymru

Efallai y byddwch chi hefyd yn hoffi

Gwarchodfa Natur Chwarel Mwynglawdd

Mae'r hen chwarel hon wedi cael ei thrawsnewid yn warchodfa natur gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Mae'n llawn hanes, planhigion a bywyd gwyllt. Mae ganddi afon i chwarae ynddi a nifer o lwybrau gwahanol i'w harchwilio, gan eich arwain ar daith trwy hanes a natur. Mae mannau agored eang i'w harchwilio ac mae'n lle gwych i chwilio am ffosilau. Gallwch weld yr hen odynau calch a'r hen welyau rheilffordd wrth edmygu harddwch y dirwedd helaeth ar yr un pryd. Mae llwybrau cerdded yn cysylltu chwarel Mwynglawdd â mwyngloddiau plwm Mwynglawdd.

Features

Darganfyddwch fwy about Gwarchodfa Natur Chwarel Mwynglawdd

Parc Gwledig Dyfroedd Alun

Ac yntau’n barc gwledig mwyaf Wrecsam, mae’n cynnig amrywiaeth o deithiau cerdded trwy goetir a glaswelltir ac ar lan yr afon. Ar ochr Gwersyllt mae parc sglefrio, man chwarae gyda chyfarpar chwarae sefydlog ac amrywiaeth o lwybrau i gerdded a beicio. Mae lle i chwarae gemau pêl a digon o goed ar gyfer adeiladu cuddfannau. Ar ochr Llai mae canolfan ymwelwyr a chaffi (mae’r oriau agor yn amrywio). Mae llwybr ffitrwydd/ardal ymarfer corff, ardal chwarae naturiol gyda thywod, llwybrau cerdded a beicio amrywiol ac afon i chwarae ynddi. Mae digon o leoedd i chwarae ac adeiladu cuddfannau.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Gwledig Dyfroedd Alun

Parc Gwledig Tŷ Mawr

Yn swatio yn Nyffryn Dyfrdwy, mae anifeiliaid, coetiroedd, llwybrau a theithiau cerdded ar lan yr afon i'w darganfod. Mae caffi a chanolfan ymwelwyr a gallwch dalu i fwydo'r anifeiliaid neu gerdded ar hyd yr afon i draphont ddŵr Pontcysyllte.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Gwledig Tŷ Mawr

Mwyngloddiau Plwm a Pharc Gwledig Mwynglawdd

Mae'r mwyngloddiau plwm yn rhoi cipolwg ar orffennol diwydiannol Cwm Clywedog. Gallwch archwilio'r parc gwledig, gweld olion y gweithfeydd plwm a'r tŷ injan trawst wedi'i adfer, y peiriant troellog a’r tai boeleri. Mae canolfan ymwelwyr a pharc gwledig sy’n cwmpasu 53 erw o laswelltir, coetir a safleoedd archeolegol. Mae llwybrau troed yn cysylltu'r mwyngloddiau plwm â Gwarchodfa Natur Chwarel Mwynglawdd a Melin y Nant. Mae canolfan ymwelwyr a thoiledau (mae’r oriau agor yn amrywio).

Features

Darganfyddwch fwy about Mwyngloddiau Plwm a Pharc Gwledig Mwynglawdd

Coed Plas Power a Melin y Nant

Mae Melin y Nant yn cynnwys maes parcio, man chwarae i blant a meinciau picnic ar lan yr afon. Mae teithiau cerdded coetir sy'n arwain i lawr at goed Plas Power a rhaeadr y Bers ac eraill sy'n arwain at waith plwm Mwynglawdd.

Features

Darganfyddwch fwy about Coed Plas Power a Melin y Nant

Parc Gwledig Bonc-yr-hafod

Parc gwledig gyda llwybrau cerdded a byrddau gwybodaeth am hanes diwydiannol yr ardal. Yn wych ar gyfer teithiau cerdded i'r teulu, hel pryfed, teithiau beicio a mynd â chŵn am dro.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Gwledig Bonc-yr-hafod

Gwarchodfa Natur Maes-y-pant (Merffordd)

Coedwig 70 erw gyda llwybrau cerdded a byrddau gwybodaeth am yr ardal. Yn wych ar gyfer teithiau cerdded i'r teulu, teithiau beicio, adeiladu cuddfannau a mynd â chŵn am dro. Mae llwybr ffitrwydd yng nghanol y coetir, pyllau i weld gweision y neidr a digon o goed ar gyfer adeiladu cuddfannau.

Features

Darganfyddwch fwy about Gwarchodfa Natur Maes-y-pant (Merffordd)

Coedwig Kingsmills

Gallwch gerdded ar hyd afon Clywedog, gyda llwybrau troed yn arwain i fyny at y Cwpan a'r Soser ac ystâd Erddig. Chwarae yn y caeau a'r coetiroedd. Yn wych ar gyfer cerdded a phadlo yn yr afon.

Features

Darganfyddwch fwy about Coedwig Kingsmills

Ardal Gadwraeth Fawnog Fach

Ardal gadwraeth gydag afon, dolydd, llwybrau troed a choetir. Mae'r lle hwn yn hafan i fywyd gwyllt. Yn ddelfrydol ar gyfer picnics, hel pryfed, padlo yn yr afon ac adeiladu cuddfannau.

Features

Darganfyddwch fwy about Ardal Gadwraeth Fawnog Fach

Canolfan Treftadaeth a Gwaith Haearn y Bers

Treftadaeth ddiwydiannol yr ardal leol, gyda thaith gerdded ar lan yr afon sy'n cysylltu ag ystâd Erddig a Melin y Nant. Mae parc chwarae ac afon i chwarae ynddi.

Features

Darganfyddwch fwy about Canolfan Treftadaeth a Gwaith Haearn y Bers

Pwll Brymbo

Pwll pysgota preifat, cae pêl-droed, teithiau cerdded ym myd natur a chofeb hanesyddol. Yn ddelfrydol ar gyfer teithiau cerdded i’r teulu, pysgota ac archwilio. Mae amrywiaeth o lwybrau troed sy'n cysylltu â gwahanol rannau o Frymbo, gan roi cipolwg i chi ar hanes diwydiannol yr ardal.

Features

Darganfyddwch fwy about Pwll Brymbo
Top tips

Chwarae yng Nghefn Gwlad

Mae natur yn darparu’r caeau chwarae gorau yn y byd ac mae pobl wedi profi bod cysylltu â natur yn gwneud iddyn nhw deimlo’n well. Fel gyda phob un o’r llefydd yn y canllaw yma, mae’n rhaid gofalu am ein Cefn gwlad, felly cofiwch gadw at y - Côd Cefn Gwlad.

  • Parchu, Gwarchod, Mwynhau
  • Parchu pobl eraill Cadw cŵn o dan reolaeth effeithiol
  • Gadael giatiau ac eiddo fel rydych yn dod o hyd iddyn nhw a dilyn llwybrau troed oni bai fod mynediad ehangach ar gael
  • Gwarchod yr amgylchedd naturiol
  • Peidio â gadael unrhyw olion o’ch ymweliad a mynd â’ch sbwriel gartref gyda chi
  • Cofio am y gymuned leol a’r bobl eraill sy’n mwynhau’r awyr agored
  • Mwynhau’r awyr agored ond cadw’n ddiogel hefyd
  • Cynllunio ymlaen llaw a bod yn barod Cadw at gyngor ac arwyddion lleol

Archwiliwch leoliadau awyr agored

Yma, gallwch ddarganfod syniadau newydd am ble allwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud wrth chwarae yn yr awyr agored, gan gynnwys rhai o'r traethau, parciau, meysydd chwarae, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur gorau yng Ngogledd Cymru.

Gweld yn ôl Lleoliad