Mae Gerddi Coronation yn ofod gwyrdd hyfryd ym Mhrestatyn gydag ardal chwarae ag offer sefydlog.  Yn dilyn gwaith ailwampio diweddar, mae’r parc yn cynnig gemau rhyngweithiol a chynhwysol, cylchfan hygyrch, gwifren sip a thrac beics ar y llawr ar gyfer beicwyr bychain.

Cost

Am Ddim

Cyfleusterau

Offer sefydlog. Am ddim.

Mynediad

Llwybr hygyrch, Offer hygyrch (cylchfan, gemau rhyngweithiol)

Cyfeiriad
19, Lôn Marine , Prestatyn, LL19 7HA, Sir Ddinbych, Cymru
19, Lôn Marine , Prestatyn, LL19 7HA, Sir Ddinbych, Cymru

Efallai y byddwch chi hefyd yn hoffi

Cae Chwarae'r Admiral

Lle chwarae gwych yn cynnwys offer cae chwarae ac offer ymarfer amrywiol. Parcio am ddim gerllaw. Dewch â phêl i gael gêm ar y llecyn gemau amlddefnydd Ar agor: 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos

Features

Darganfyddwch fwy about Cae Chwarae'r Admiral

Y Traeth Canol

Mae’r Traeth Canol yn ardal boblogaidd ar y traeth ar gyfer ymwelwyr gyda dau barc chwarae ag offer chwarae sefydlog, maes parcio gerllaw, toiledau, caffi ac arcedau.  Mae Canolfan Hamdden Nova hefyd yn yr ardal hon.

Features

Darganfyddwch fwy about Y Traeth Canol

Parc Gerddi Coronation

Mae Gerddi Coronation yn ofod gwyrdd hyfryd ym Mhrestatyn gydag ardal chwarae ag offer sefydlog.  Yn dilyn gwaith ailwampio diweddar, mae’r parc yn cynnig gemau rhyngweithiol a chynhwysol, cylchfan hygyrch, gwifren sip a thrac beics ar y llawr ar gyfer beicwyr bychain.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Gerddi Coronation

Maes Chwarae Llanferres

Mae parc Llanferres wedi’i leoli mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol gyda mynediad at brif ffordd sy’n arwain at Foel Famau. Mae’r parc yn cynnig gofod naturiol gwych gydag offer pren gan gynnwys llwybr heini a gwifren sip, yn ogystal â llefydd i eistedd, meinciau picnic a gemau rhyngweithiol ar y llawr.

Features

Darganfyddwch fwy about Maes Chwarae Llanferres

Parc Stryd Isaf Llanelwy

Mae Parc Stryd Isaf yn cynnig gofod gwyrdd hyfryd gydag ardal chwarae a pharc sglefrio.  Mae llwybr cerdded sy’n rhedeg ar hyd Afon Elwy a byrddau picnic yn y parc.  Mae Clwb Bowlio Llanelwy hefyd yn agos i’r parc.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Stryd Isaf Llanelwy

Parc Canol

Ym Mharc Canol, gallwch fwynhau’r parc hyfryd sydd ag offer chwarae sefydlog, gan gynnwys cylchfan hygyrch.  Mae parc sglefrio a chae pêl-droed dros y ffordd i’r parc hefyd, yn ogystal â Chanolfan Fowlio a Chyrtiau Tennis Dinbych gerllaw, a gellir archebu i ddefnyddio’r rhain ar eu gwefannau.

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Canol

Parc Glan yr Afon

Mae Parc Glan yr Afon yn cynnig golygfeydd ysblennydd o’r Afon Dyfrdwy yn llifo trwy Langollen. Mae’r parc poblogaidd yn cynnwys ardal chwarae i blant, parc sglefrio, golff gwyllt ac ardal chwarae aml-ddefnydd i gadw’r teulu’n ddiddan. I ymlacio mae ardaloedd picnic ac eistedd ac mae caffi o fewn y parc.

Mae’r caffi a’r toiledau ar agor Ebrill - Medi. Mae’r toiledau yn costio 40c i’w defnyddio. 

Features

Darganfyddwch fwy about Parc Glan yr Afon

Archwiliwch leoliadau awyr agored

Yma, gallwch ddarganfod syniadau newydd am ble allwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud wrth chwarae yn yr awyr agored, gan gynnwys rhai o'r traethau, parciau, meysydd chwarae, coedwigoedd a gwarchodfeydd natur gorau yng Ngogledd Cymru.

Gweld yn ôl Lleoliad