0-3 Mis
- Amser ar y Bol Gyda'n Gilydd: Gorweddwch gyda'ch babi yn ystod amser ar y bol er mwyn creu cysylltiad a rhyngweithio. Mae hyn yn helpu i gryfhau cyhyrau a gwddf babanod ac yn gwneud iddyn nhw deimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus. Dysgwch ragor am weithgareddau amser bol.
- Amser Bol: Rhowch eich babi ar ei fol am gyfnodau byr, gan gynyddu'r amser yn raddol wrth iddo gryfhau. Mae hyn yn helpu i ddatblygu cryfder rhan uchaf ei gorff ac yn atal smotiau fflat ar eu pen.
- Symudiadau Ysgafn: Symudwch freichiau a choesau eich babi yn ysgafn gan wneud symudiadau pedlo beic i'w helpu i ddod i arfer â symudiadau. Gall hyn hefyd helpu â threulio a lleddfu gwynt. Baby massage: tips and benefits | NCT
- Estyn am Deganau: Gosodwch deganau ychydig tu hwnt i gyrraedd eich babi i'w annog i estyn amdanyn nhw a gafael ynddyn nhw. Mae hyn yn ei helpu i ddysgu sut i gydlynu symudiadau'r dwylo a'r llygaid ac yn datblygu ei sgiliau echddygol manwl. Baby and toddler play ideas - NHS
- Arsylwi Symudiadau: Gwyliwch sut mae'ch babi yn symud ac yn ymateb i wahanol leoedd. Mae hyn yn eich helpu i ddeall hoffterau eich babi a'i gynnydd datblygiadol.

4 - 6 Mis
- Chwarae Rhyngweithiol: Cyfranogwch mewn gweithgareddau chwareus fel codi'ch babi i fyny ac i lawr, gwneud ystumiau digrif, a chanu caneuon. Mae hyn yn helpu â'i ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol. Indoor Activities for Babies and Toddlers | Pampers
- Gafael ac Estyn: Darparwch deganau y gall eich babi afael ynddynt ac estyn atynt, er enghraifft, ratls a blociau meddal. Mae hyn yn annog datblygu ei sgiliau echddygol a chryfder ei ddwylo. Chiliwch am awgrymiadau ynghylch chwarae gyda babanod Play for all ages - Make Time 2 Play
- Annog Symudiadau: Cymeradwywch a chanmolwch eich babi wrth iddo geisio symud ac archwilio. Mae atgyfnerthu cadarnhaol yn rhoi hwb i'w hyder a'i gymhelliant. Baby moves - Start for Life - NHS
- Troi Drosodd a Throsodd: Anogwch eich babi i droi drosodd a throsodd trwy osod teganau ychydig y tu hwnt i'w gyrraedd ar y naill ochr a'r llall. Mae hyn yn ei helpu i ymarfer troi drosodd a throsodd ac yn cryfhau ei gyhyrau craidd.
- Patrymau Symud: Sylwch ar ymdrechion eich babi i symud ac archwilio ac ymatebwch iddyn nhw. Mae hyn yn eich helpu i nodi ei gerrig milltir datblygiadol a meysydd y gallai fod angen rhagor o gymorth i'w datblygu.

7 - 9 Mis
- Gemau Cropian: Ceisiwch gropian ochr yn ochr â'ch babi i'w annog i symud ac archwilio. Mae'n ffordd hwyliog o gryfhau'r cysylltiad rhwng y ddau ohonoch chi a chynorthwyo â'i datblygiad corfforol. Rhagor o wybodaeth am weithgareddau cropian.
- Cropian: Crëwch le diogel i'ch babi ymarfer cropian. Defnyddiwch fatiau meddal a chliriwch unrhyw beryglon i sicrhau ei fod yn ddiogel.
- Chwarae Cefnogol: Rhowch gymorth ac anogaeth wrth i'ch babi roi cynnig ar symudiadau newydd, er enghraifft, tynnu ei gorff i fyny i allu sefyll neu grwydro ger ymylon dodrefn. Mae hyn yn helpu i feithrin ei hyder a'i gryfder.
- Teganau Rhyngweithiol: Defnyddiwch deganau sy'n annog symud, er enghraifft, peli rholio neu deganau gwthio a thynnu. Mae'r rhain yn ysgogi'ch babi i symud a datblygu ei gydsymud. Play for all ages - Make Time 2 Play
- Archwilio: Sylwch sut mae eich babi yn archwilio ei amgylchedd ac yn rhyngweithio â gwahanol wrthrychau. Mae hyn yn cynnig cipolwg i chi ar ei ddiddordebau a'i gynnydd datblygiadol.

10 - 12 Mis
- Sefyll a Chrwydro: Daliwch ddwylo eich babi a'i helpu i sefyll a chymryd camau. Mae hyn yn cynorthwyo â'i gydbwysedd a chryfder ei goesau wrth baratoi at gerdded. Baby Cruising - My BabyManual Get Your Baby to Start Cruising - North Shore Pediatric Therapy
- Canmoliaeth ac Anogaeth: Canmolwch ymdrechion eich babi i sefyll a symud o gwmpas. Mae atgyfnerthu cadarnhaol yn rhoi hwb i'w hyder a'i gymhelliant.
- Chwarae Rhyngweithiol: Chwaraewch mewn ffordd sy'n cynnwys symudiadau, er enghraifft, pentyrru blociau neu wthio teganau. Mae hyn yn helpu i ddatblygu ei sgiliau echddygol bras a'i allu i gydsymud. Play for all ages - Make Time 2 Play
- Cerrig Milltir o ran Symud: Sylwch ar gynnydd eich babi o ran sefyll a cherdded. Dathlwch ei lwyddiannau a chynigwch gymorth yn ôl yr angen.