13 - 18 Mis
Annog Chwarae: Darparwch deganau a gweithgareddau amrywiol i annog archwilio. Paratowch flwch synhwyraidd yn cynnwys gwahanol weadau a gwrthrychau. Gall hyn ysgogi synhwyrau a chwilfrydedd eich plentyn bach. Sicrhewch fod gan eich plentyn bach yr adnoddau sy'n ofynnol i archwilio a dysgu. Toddler development | BabyCentre
Helpu gyda Thasgau Syml: Cynhwyswch eich plentyn bach mewn tasgau syml megis cadw teganau yn eu lle priodol. Crëwch siart gwobrau i ddathlu ei gymorth. Gall hyn eu haddysgu am werth cyfrannu a meithrin eu hunan-barch. Rhowch gyfle i'ch plentyn bach helpu a theimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi. Easy Chores Toddlers Can Do at Home - The Old Station Nursery

19 - 24 Mis
Rhannu Gweithgareddau: Anogwch eich plentyn bach i rannu a chyfranogi yn ei dro wrth chwarae. Trefnwch sesiynau chwarae i ymarfer rhannu gyda phlant eraill. Gall hyn eu helpu i ddysgu sgiliau cymdeithasol a dod i adnabod ffrindiau newydd. Rhowch gyfle i'ch plentyn bach ddatblygu sgiliau cymdeithasol trwy rannu. Playtime activities and bonding with your toddler - Start for Life - NHS
Gweithredoedd Caredig: Dysgwch eich plentyn bach i fod yn garedig, er enghraifft, helpu ffrind. Darllenwch lyfrau am garedigrwydd a thrafodwch weithredoedd y cymeriadau. Gall hyn eu helpu i ddeall ac ymarfer empathi. Sicrhewch fod eich plentyn bach yn deall caredigrwydd ac empathi. Activities for teaching kindness to toddlers and children (Action for Children)

25 - 30 Mis
Helpu â Gwaith Tŷ: Ceisiwch gynnwys eich plentyn bach mewn tasgau fel gosod y bwrdd. Defnyddiwch offer bychan sy'n addas i'w defnyddio gan blant i sicrhau bod y tasgau'n ddifyr. Gall hyn eu haddysgu sut i ysgwyddo cyfrifoldeb a gwneud iddyn nhw deimlo'n bwysig. Rhowch gyfrifoldebau i helpu â gwaith tŷ i'ch plentyn i'w alluogi i deimlo balchder yn sgil hynny. Easy Chores Toddlers Can Do at Home - The Old Station Nursery
Canmolwch Ymddygiad Cadarnhaol: Canmolwch eich plentyn bach pan fydd yn ymddwyn yn dda ac yn garedig at eraill. Crëwch "jar caredigrwydd" a rhowch docyn ynddi am bob gweithred garedig. Gall hyn ei annog i ddal ati i fod yn garedig a chymwynasgar. Defnyddiwch ddulliau atgyfnerthu cadarnhaol i ganmol eich plentyn bach am ei weithredoedd da. How to Promote Positive Behaviour in Early Years – Care Learning
Rhoi rhoddion i elusen – Anogwch blant i gynorthwyo i ddidoli eu hen deganau/dillad a dewis eitemau i’w rhoddi ac i ba elusennau y dylid eu rhoddi. Mae hon yn weithred garedig, ond mae hefyd yn annog ailgylchu a bod yn ystyriol o'r amgylchedd trwy brynu nwyddau ail-law.
Sicrhewch fod rhoddi yn rhywbeth cyffredin yn eich cartref – Sicrhewch fod rhoddi pethau i eraill yn rhan o'ch arferion - gweithredoedd syml fel tynnu llun i'w roddi i'w nain a'i taid, rhannu tegan â brawd neu chwaer, neu helpu i baratoi cinio. Mae'r rhain oll yn ffyrdd gwych o ddysgu am haelioni ac na fydd rhoddi yn ymwneud â phethau a gwerth ariannol bob tro.

31 - 36 Mis
Helpu â Thasgau: Cofiwch gynnwys eich plentyn bach mewn tasgau syml sy'n gofyn am symudiadau, er enghraifft, tacluso. Trowch dasgau yn gemau, er enghraifft, ras i weld pwy all dacluso gyflymaf. Gall hyn sicrhau bod tasgau yn ddifyrrach a gall eu haddysgu am gydweithio. Sicrhewch y gall eich plentyn ganfod llawenydd trwy gydweithio a mwynhau tasgau cyffredin. Easy Chores Toddlers Can Do at Home - The Old Station Nursery
Modelu Caredigrwydd: Dangoswch ac anogwch weithredoedd caredig, er enghraifft, rhannu teganau. Cyfranogwch mewn gweithgareddau cymunedol sy'n annog caredigrwydd, er enghraifft, rhoddi teganau. Gall hyn eu haddysgu ei bod hi'n bwysig helpu eraill. Dangoswch i'ch plentyn sut i fod yn garedig ac yn gymdogol. Activities for teaching kindness to toddlers and children (Action for Children)
Banciau Bwyd – Ewch â’r plant i nôl neges a gadewch iddyn nhw ddewis un neu ddau o eitemau i’w rhoddi i’r banc bwyd. Mae hyn yn cynnig cyfle i chi esbonio ei bod hi'n anodd i rai teuluoedd brynu bwyd, a bydd y pethau y bydd eich plant yn eu dewis yn helpu i gynnig pryd iach i deuluoedd eraill. Rhoddion i fanciau bwyd
Operation Christmas Box – Anogwch blant i greu Blwch Nadolig. Mae'n ffordd dda i annog plant i roddi rhoddion i eraill ar adeg arbennig ac i chynnig bendithion i blant mewn angen ledled y byd. Operation Christmas Box