0-3 Mis
Gallaf ddechrau profi'r byd o'm cwmpas.
- Ysgogwch eu Synhwyrau: Siaradwch â'ch babi, canwch hwiangerddi, a chwaraewch gerddoriaeth ysgafn. Gadewch iddo/iddi deimlo gwahanol weadau fel blancedi meddal neu deganau tyner. Mae ysgogi'r synhwyrau fel hyn yn helpu i ysgogi datblygiad ei ymennydd ac yn creu amgylchedd cysurus. Deall pam y mae ymennydd eich plentyn mor anhygoel | LLYW.CYMRU
- Cyswllt Llygaid: Gwnewch gyswllt llygad yn ystod amser bwydo a chwarae i'w helpu i'ch adnabod a chreu cysylltiad â chi. Mae hyn yn meithrin ymddiriedaeth a chysylltiad emosiynol. https://youtu.be/2z1eOuksqug
- Amgylchedd Lleddfol: Crewch amgylchedd tawel a lleddfol â goleuadau gwan a chyn lleied â phosibl o sŵn i'w helpu i deimlo'n ddiogel. Gall lleoliad heddychlon leihau straen ac annog patrymau cysgu gwell. Cariad ac anwyldeb: 0 i 4 oed | LLYWODRAETH CYMRU
- Tylino Ysgafn: Tylinwch eich babi yn ysgafn i'w helpu i ymlacio a gwella cylchrediad y gwaed. Baby Massage: A Practical Approach
- Ysgogi Gweledol: Gallwch hongian addurniadau symudol uwchben ei grud fel dull ysgogi gweledol.
- Cyswllt Croen wrth Groen: Treuliwch amser yn dal eich babi croen wrth groen i annog meithrin cysylltiad a diogelwch emosiynol. Croen wrth Groen - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

4 - 6 Mis
Gallaf ddechrau archwilio fy amgylchoedd.
- Archwilio: Darparwch wrthrychau diogel y gall gyffwrdd â nhw a’u harchwilio, er enghraifft, teganau meddal neu gylchoedd cnoi. Mae hyn yn annog ei chwilfrydedd ac yn helpu i ddatblygu ei sgiliau echddygol manwl.
- Amser yn Awyr Agored: Ewch am droeon byr yn yr awyr agored i adael iddo/iddi brofi gwahanol olygfeydd, synau, arogleuon a gweadau. Mae awyr iach a golau naturiol yn fuddiol i'w hiechyd a gallant wella hwyliau. Out and About link
- Ystumiau'r Wyneb: Defnyddiwch ystumiau'r wyneb a synau wedi'u gorliwio i ddenu ei sylw ac annog rhyngweithio. Mae hyn yn ei helpu i ddysgu am emosiynau a chiwiau cymdeithasol. https://youtu.be/2z1eOuksqug
- Amser ar y Bol: Anogwch amser ar y bol i gryfhau cyhyrau ei wddf a'i hysgwyddau. tummy_time_card_bilingual.pdf
- Chwarae Dŵr: Gadewch iddo/iddi sblasio mewn basn bas o ddŵr i brofi sut mae dŵr yn teimlo.
- Darllen yn Uchel: Dechreuwch ddarllen llyfrau bwrdd syml i'ch babi i gyflwyno rythmau a synau iaith iddo/iddi. Siarad gyda fi - Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu: Cynllun Cyflawni 2020-2022

7 - 9 Mis
Gallaf ddechrau rhyngweithio mwy â fy amgylchedd.
- Chwarae Rhyngweithiol: Ceisiwch chwarae mig (pi-po) a gemau rhyngweithiol eraill i'w helpu i ddeall bod gwrthrychau yn bethau parhaol. Mae'r gemau hyn yn ddifyr ond maen nhw hefyd yn hanfodol o ran datblygiad gwybyddol. Tips for talking | HENRY
- Gweadau a Seiniau: Cyflwynwch deganau sy'n gwneud synau neu rai sydd â gweadau gwahanol i ysgogi eu synhwyrau. Gall yr amrywiaeth hon wella eu galluoedd prosesu synhwyraidd.
- Chwarae Drych: Gadewch iddo/iddi edrych ar ei (l)lun ei hun mewn drych i'w helpu i adnabod ei adlewyrchiad ei hun. Mae'r gweithgaredd hwn yn cynorthwyo i ddatblygu hunanymwybyddiaeth a'r gallu i adnabod pethau yn weledol.
- Bwydydd Bys a Bawd: Cyflwynwch fwydydd bys a bawd diogel i annog hunan-fwydo ac archwilio gwahanol flasau. Cyflwyno bwydydd solet - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Amser Cerddoriaeth: Chwaraewch wahanol fathau o gerddoriaeth a’u hannog i symud i gyfeiliant y rhythm. YoungMinds
- Bagiau Synhwyraidd: Crëwch fagiau synhwyraidd wedi'u llenwi â gwahanol ddefnyddiau fel reis, ffa neu gleiniau dŵr er mwyn gallu eu harchwilio.

10 - 12 Mis
“Gallaf ddechrau symud mwy a bod yn fwy chwilfrydig.”
- Archwilio: Anogwch gropian ac archwilio mannau diogel yn eich cartref. Mae'r gweithgaredd corfforol hwn yn hanfodol o ran datblygu'r cyhyrau a chydsymud. Pob Plentyn Newydd-anedig hyd at 2 oed
- Enwi Gwrthrychau: Dechreuwch enwi gwrthrychau a phobl o'i gwmpas i ddatblygu ei eirfa. Mae dod i gysylltiad cynnar ag iaith yn allweddol i ddatblygu sgiliau cyfathrebu. Siarad gyda fi - Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu: Cynllun Cyflawni 2020-2022
- Trefn arferol: Sefydlwch drefn syml i'w helpu i deimlo'n ddiogel a deall beth i'w ddisgwyl. Gall arferion cyson gynnig ymdeimlad o sefydlogrwydd a chysur. Seven steps to creating a successful baby routine | BabyCentre
- Teganau Pentyrru: Darparwch deganau pentyrru i'w helpu i ddatblygu'r gallu i gydsymud y dwylo a'r llygaid.
- Bagiau Synhwyraidd: Crëwch fagiau synhwyraidd wedi'u llenwi â gwahanol ddeunyddiau fel reis, ffa neu gleiniau dŵr er mwyn gallu eu harchwilio.
- Llyfrau Rhyngweithiol: Defnyddiwch lyfrau rhyngweithiol â fflapiau a gweadau i ennyn ei chwilfrydedd a datblygu sgiliau echddygol manwl. Bookstart | BookTrust