0-3 Mis
Gallaf ddechrau dysgu am y byd o'm cwmpas.
- Sgwrsio a Chanu: Sgwrsiwch a channwch gyda'ch babi i'w gyflwyno i iaith a synau. Mae hyn yn helpu a datblygiad iaith cynnar. Canwch hwiangerddi, rhigymau, a siaradwch â'ch babi am eich diwrnod. Gall rhythmau a melodi eich llais fod yn lleddfol ac yn ysgogol. Siarad gyda fi | LLYW.CYMRU Nursery Rhymes Caneuon Cyw
- Ysgogi Gweledol: Defnyddiwch deganau a delweddau sy'n cyferbynnu'n gryf i ysgogi eu golwg. Mae patrymau du a gwyn yn arbennig o effeithiol yn yr oedran hwn. Gallwch hongian addurniadau symudol (mobile) â lliwiau cyferbyniol uwchben crud neu lecyn chwarae eich babi i helpu i ddatblygu ei sgiliau olrhain gweledol. Visual Stimulation - Twinkl
- Amser ar y Bol: Anogwch amser ar y bol i gryfhau ei gyhyrau ac annog datblygu sgiliau echddygol. Rhowch eich babi ar ei fol am gyfnodau byr tra bydd yn effro ac yn cael ei oruchwylio. Mae hyn yn helpu i ddatblygu cyhyrau'r gwddf, yr ysgwyddau a'r breichiau. Top tips for tummy time | NCT
- Tylino Ysgafn: Tylinwch eich babi yn ysgafn i'w helpu i ymlacio a gwella cylchrediad y gwaed. Defnyddiwch olewau sy'n ddiogel i fabanod a thylino ei freichiau, ei goesau a'i gefn yn ysgafn. Gall hyn hefyd wella bondio a gwella patrymau cysgu. What is baby massage? Top tips and benefits - BBC Tiny Happy People
- Darllen yn Uchel: Dechreuwch ddarllen llyfrau bwrdd syml i'ch babi i gyflwyno rhythmau a synau iaith iddo/iddi. Dewiswch lyfrau â lluniau lliwgar a thestun syml i ddenu eu sylw. Bookstart Cymru - Llyfrgelloedd Cymru

4 - 6 Mis
Gallaf ddechrau archwilio a rhyngweithio â'm hamgylchedd.
- Archwilio: Darparwch wrthrychau diogel y gall gyffwrdd â nhw a’u harchwilio, er enghraifft, teganau meddal neu gylchoedd cnoi. Mae hyn yn annog ei chwilfrydedd ac yn helpu i ddatblygu ei sgiliau echddygol manwl. Cynigiwch amrywiaeth o weadau a siapiau i ysgogi ei synhwyrau. Baby and toddler play ideas - NHS
- Amser yn yr Awyr Agored: Ewch am droeon byr yn yr awyr agored i adael iddo/iddi brofi gwahanol olygfeydd, synau, arogleuon a gweadau. Mae awyr iach a golau naturiol yn fuddiol i'w iechyd a gallant wella hwyliau. Pwyntiwch at wahanol wrthrychau fel coed, adar a blodau i ennyn eu chwilfrydedd. Out and about 10 Outdoor Sensory Activities for Babies | Outdoor Learning
- Chwarae Rhyngweithiol: Chwaraewch gemau syml fel chwarae mig (pi-po) i ddenu ei sylw ac annog rhyngweithio cymdeithasol. Mae'r gemau hyn yn ei helpu i ddeall bod gwrthrychau yn bethau parhaol a datblygu sgiliau cymdeithasol. Object Permanence - The Power of Peek-a-Boo
- Gweadau a Seiniau: Cyflwynwch deganau sy'n gwneud synau neu rai sydd â gweadau gwahanol i ysgogi eu synhwyrau. Mae ratls, teganau crychlyd, a theganau meddal plỳsh yn atyniadol iawn.
- Darllen yn Uchel: Daliwch ati i ddarllen i'ch babi i feithrin ei sgiliau gwrando a'i ddatblygiad iaith. Dewiswch lyfrau â thestun ailadroddus ac odlau i sicrhau bod y profiad yn fwy atyniadol. Bookstart | BookTrust

7 - 9 Mis
Gallaf ddechrau dysgu trwy chwarae ac archwilio.
- Chwarae Rhyngweithiol: Ceisiwch chwarae mig (pi-po) a gemau rhyngweithiol eraill i'w helpu i ddeall bod gwrthrychau yn bethau parhaol. Mae'r gemau hyn yn ddifyr ond maen nhw hefyd yn hanfodol o ran datblygiad gwybyddol. Defnyddiwch flanced neu'ch dwylo i guddio a datgelu'ch wyneb neu degan. Object Permanence - The Power of Peek-a-Boo
- Gweadau a Seiniau: Cyflwynwch deganau sy'n gwneud synau neu rai sydd â gweadau gwahanol i ysgogi eu synhwyrau. Gall yr amrywiaeth hon wella ei alluoedd prosesu synhwyraidd. Mae teganau cerddorol, peli â gweadau, a llyfrau synhwyraidd yn opsiynau gwych.
- Chwarae Drych: Gadewch iddo/iddi edrych ar ei (l)lun mewn drych i'w helpu i adnabod hynny. Mae'r gweithgaredd hwn yn cynorthwyo i ddatblygu hunanymwybyddiaeth a'r gallu i adnabod pethau yn weledol. Rhowch ddrych na ellir ei dorri ar ei lefel a gwyliwch ei (h)ymatebion. Mirror Play: A Fun & Engaging Activity for Babies | Bright Horizons
- Bwydydd Bys a Bawd: Cyflwynwch fwydydd bys a bawd diogel i annog hunan-fwydo ac archwilio gwahanol flasau. Mae ffrwythau meddal, llysiau wedi'u stemio, a darnau bach o gaws yn opsiynau da. Goruchwyliwch bob amser i atal tagu. Best Finger Foods for Babies: The Ultimate Guide | Pampers UK
- Amser Cerddoriaeth: Chwaraewch wahanol fathau o gerddoriaeth a’i (h)annog i symud i gyfeiliant y rhythm. Dawnsiwch gyda'ch babi neu rhowch offerynnau fel maracas neu ddrymiau iddo/iddi fel y gall eu harchwilio. CBeebies Songs - YouTube Cywion Bach dros awr o hwyl i fabis Cymru! | Welsh Toddlers Words Learning Songs 1 hour
- Bagiau Synhwyraidd: Crëwch fagiau synhwyraidd wedi'u llenwi â gwahanol ddefnyddiau fel reis, ffa neu gleiniau dŵr er mwyn gallu eu harchwilio. Seliwch y bagiau'n ddiogel a gadewch i'ch babi wasgu a thrin y cynnwys. Sensory Bag Ideas and How to Make Them for Early Years

10 - 12 Mis
“Gallaf ddechrau symud mwy a bod yn fwy chwilfrydig.”
- Archwilio: Anogwch gropian ac archwilio mannau diogel yn eich cartref. Mae'r gweithgaredd corfforol hwn yn hanfodol o ran datblygu'r cyhyrau a chydsymud. Crëwch lecyn chwarae ddiogel yn cynnwys matiau meddal a theganau diddorol i'w harchwilio. How to keep your baby or toddler active - NHS
- Enwi Gwrthrychau: Dechreuwch enwi gwrthrychau a phobl sydd o gwmpas eich babi, yn y tŷ a phan fyddwch chi allan o'r tŷ i ddatblygu ei eirfa. Mae dod i gysylltiad cynnar ag iaith yn allweddol i ddatblygu sgiliau cyfathrebu. Pwyntiwch at wrthrychau a dywedwch eu henwau'n eglur dro ar ôl tro. Talk with Me Ten Top Tips Booklet, English Version
- Trefn arferol: Sefydlwch drefn syml i'w helpu i deimlo'n ddiogel a deall beth i'w ddisgwyl. Gall arferion cyson gynnig ymdeimlad o sefydlogrwydd a chysur. Cynhwyswch weithgareddau fel amseroedd prydau bwyd, amser bath, a straeon amser gwely. Tiny Happy People - Routines with kids
- Teganau Pentyrru: Darparwch deganau pentyrru i'w helpu i ddatblygu'r gallu i gydsymud y dwylo a'r llygaid. Mae modrwyau, cwpanau a blociau y gellir eu pentyrru yn ardderchog ar gyfer yr oedran hwn. Stacking Toys: Fun, Safe & Smart Play for Your Baby | For the Baby
- Bagiau Synhwyraidd: Crëwch fagiau synhwyraidd wedi'u llenwi â gwahanol ddeunyddiau fel reis, ffa neu gleiniau dŵr er mwyn gallu eu harchwilio. Ychwanegwch deganau neu wrthrychau bach y gall eu canfod a'u trin. What are the benefits of sensory play? Twinkl
- Llyfrau Rhyngweithiol: Defnyddiwch lyfrau rhyngweithiol â fflapiau a gweadau i ennyn ei chwilfrydedd a datblygu sgiliau echddygol manwl. Mae llyfrau sy'n cynnwys synau anifeiliaid, gweadau, a nodweddion codi'r fflap yn arbennig o ddeniadol. Bookstart | BookTrust