13 - 18 Mis

Gallaf ddechrau dod yn fwy annibynnol a mynegi mwy.

  • Troen Natur: Ewch â'ch ar droeon natur i archwilio dail, blodau ac anifeiliaid. Gall y cysylltiad hwn â natur feithrin chwilfrydedd ac ymdeimlad o ryfeddod. Out and about
  • Dewisiadau Syml: Cynigiwch ddewisiadau syml, er enghraifft, dewis rhwng dau degan, i'w helpu i deimlo y gall reoli pethau. Gall gwneud dewisiadau hybu ei hyder a'i sgiliau gwneud penderfyniadau.
  • Amser Stori: Darllenwch lyfrau lluniau gyda'ch gilydd a dygwch sylw at wahanol wrthrychau a chymeriadau. Mae darllen yn gwella datblygiad iaith a dychymyg; ymunwch â'ch llyfrgell leol a holwch a oes unrhyw ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn rheolaidd. Bookstart | BookTrust
  • Blociau Adeiladu: Darparwch flociau adeiladu i annog creadigrwydd a datrys problemau.
  • Parti Dawnsio: Cynhaliwch barti dawnsio gyda'ch plentyn bach i annog symudiad a rhythm.  Awr o ganeuon Cyw | 1 awr o ganeuon Cymraeg i blant | Caru Canu

CBeebies Songs | Sing with CBeebies Compilation | 30+ Minutes

  • Chwarae Anhrefnus: Mwynhewch weithgareddau chwarae blêr fel peintio â bysedd neu chwarae â chlai i ysgogi eu synhwyrau a'u creadigrwydd. 14 Messy Play Activities to Keep Children Busy and Learning all Year - Ready Steady Let's Get Messy
  • Tywod Bwytadwy. Paratowch dywod bwytadwy y gall eich plentyn bach ei ddefnyddio i chwarae trwy gymysgu grawnfwyd mewn prosesydd bwyd  Gallwch ychwanegu anifeiliaid fferm neu'r jyngl neu gerbydau adeiladu i ysgogi chwarae dychmygus. Mae hwn yn weithgaredd synhwyraidd gwych ac os bydd y plentyn yn bwyta tywod yn anfwriadol, bydd yn hollol ddiogel. FunSensoryPlay
  • Archwilio Gwrthrychau. Cynigiwch deganau y gellir eu gwthio, eu tynnu, eu hagor, eu pentyrru, neu eu didoli a dywedwch beth yw ei symudiadau e.e. “mi wnest ti wthio'r car!” neu “mae’r bloc hwn yn fawr.” Mae hyn yn meithrin dealltwriaeth o achosion ac effeithiau, ymwybyddiaeth ofodol, a rheolaeth echddygol.
Adobe Stock 172208506

19 - 24 Mis

  • Chwarae Dychmygus: Anogwch chwarae dychmygus gan ddefnyddio doliau, anifeiliaid wedi'u stwffio, neu geginau chwarae. Mae'r math hwn o chwarae yn ei helpu i ddeall gwahanol rolau a senarios.  play-types_2023.pdf
  • Gweithgareddau Celf: Darparwch greonau a phapur i dynnu lluniau a lliwio er mwyn gallu bod y greadigol. Gall gweithgareddau artistig wella sgiliau echddygol manwl a mynegiant emosiynol.
  • Rhyngweithio Cymdeithasol: Trefnwch sesiynau chwarae gyda phlant eraill i ddatblygu sgiliau cymdeithasol. Mae rhyngweithio â chyfoedion yn bwysig ar gyfer dysgu cydweithrediad ac empathi. Plant yng Nghymru
  • Posau: Cyflwynwch bosau syml i'w helpu i ddatblygu sgiliau datrys problemau.
  • Coginio Gyda'n Gilydd: Cynhwyswch eich babi mewn tasgau coginio syml, er enghraifft, troi neu dywallt cynhwysion. 50 Healthy Recipes to Cook with Toddlers - Eats Amazing.
  • Archwilio Mannau yn yr Awyr Agored: Ewch â'ch babi i barciau neu feysydd chwarae i archwilio gwahanol amgylcheddau a rhyngweithio â phlant eraill. Out and about
  • Darllenwch Gyda'ch Gilydd. Darllenwch gyda'ch plentyn a gofynnwch gwestiynau iddo/iddi wrth wneud hynny e.e. “fedri di weld y glöyn byw?” neu “pa liw yw’r awyr?”. Mae darllen yn hybu datblygiad iaith, dealltwriaeth a sgiliau llythrennedd cynnar. Ymunwch â'ch llyfrgell leol a holwch a oes unrhyw ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn rheolaidd yno. Bookstart | BookTrust
  • Helpu yn ystod amser bwyd. Gadewch iddo/iddi helpu i droi’r cynhwysion, golchi ffrwythau, neu osod y bwrdd drwy gynnig tasgau diogel a syml. Mae'n addysgu sgiliau bywyd, achosion ac effeithiau, a chyfrifoldeb.
Adobe Stock 1178796058

31 - 36 Mis

Gallaf ddechrau dod yn fwy ymwybodol o fy emosiynau a'm hamgylchedd.

  • Garddio: Ceisiwch gynnwys eich babi mewn tasgau garddio syml fel dyfrio planhigion i gysylltu â natur. Gall garddio addysgu cyfrifoldeb a gofal am bethau byw. Garden activities for kids: 60 fun things to do with kids at home - Growing Family
  • Ymwybyddiaeth Ofalgar: Addysgwch weithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar syml, er enghraifft, anadlu'n ddwfn neu sylwi ar wahanol synau. Gall ymwybyddiaeth ofalgar ei helpu i reoli emosiynau a datblygu ffocws. 5 playful mindfulness exercises for toddlers to help calm and connect - Wholehearted Kids
  • Amser Teuluol: Treuliwch amser o safon gyda'ch gilydd, yn siarad am eu diwrnod a beth mae wedi'i fwynhau. Gall rhannu profiadau gryfhau cysylltiadau teuluol a gwella cyfathrebu.  Plant 0 i 4 oed | LLYW.CYMRU
  • Prosiectau Crefft: Mwynhewch brosiectau crefft fel gwneud collages neu beintio i annog creadigrwydd. 21 Ideas for Crafts with Toddlers | Pampers UK
  • Gemau Awyr Agored: Chwaraewch gemau awyr agored fel cuddio neu ddal i annog gweithgarwch corfforol. 30+ Outdoor activities for toddlers - The Ladybirds' Adventures
  • Adrodd Straeon: Anogwch nhw i adrodd eu straeon eu hunain gan ddefnyddio lluniau neu deganau i ddatblygu eu dychymyg a'u sgiliau iaith. Ymunwch â'ch llyfrgell leol a holwch a oes unrhyw ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn rheolaidd yno.  Bookstart | BookTrust
  • Rhyngweithio Cymdeithasol a Chwarae Rhan. Chwaraewch gemau “ffugio” fel coginio, gofalu am ddoliau, neu fynd i siopa. Mae'n ffordd dda o fod yn chwareus gyda'ch plentyn ac mae'n cynnig cyfle i gyflwyno geiriau newydd hefyd. Bydd hyn yn gwella iaith, empathi a'r gallu i ddeall bywyd bob dydd.
  • Ymweliadau rheolaidd. Ewch â'ch plentyn gyda chi yn ystod ymweliadau rheolaidd, er enghraifft, mynd i'r siop i brynu bwyd, mynd i'r banc neu'r swyddfa bost. Bydd hyn yn meithrin gwybodaeth a chysylltiadau yn ymwneud â'r byd go iawn wrth annog symudiad corfforol.
  • Amlygwch amrywiaeth iddo/iddi. Darllenwch lyfrau lluniau sy'n cynnwys plant a theuluoedd o wahanol hiliau, diwylliannau, galluoedd a strwythurau teuluol. Mae “Whose Toes are Those?” gan Jabari Asim, “Global Babies” gan The Global Fund for Children, a “Baby Goes to Market” gan Atinuke yn enghreifftiau da. Mae hyn yn ei helpu i ddod yn gyfarwydd â phobl sy'n edrych yn wahanol iddo/iddi a'u derbyn.
  • Dathlu Cerddoriaeth a Bwyd Diwylliannau Eraill. Chwaraewch gerddoriaeth o wahanol ddiwylliannau neu cyflwynwch fwydydd syml o wahanol gefndiroedd yn ystod prydau bwyd a siaradwch am darddiad y gerddoriaeth neu'r bwyd e.e. “mae hwn yn ddrwm o Affrica,” neu “rydym yn bwyta reis o India heddiw.” Mae hyn yn annog chwilfrydedd a gwerthfawrogiad o ddiwylliannau eraill o oedran ifanc.
  • Annog Rhoddi a Chynorthwyo. Gadewch i'ch plentyn helpu i ddewis teganau neu ddillad ail-law i'w rhoi i'r elusen ac ewch gyda'ch gilydd i'r siop. Esboniwch fel hyn: “does gan rai plant ddim lllawer o deganau felly rydyn ni’n rhoddi ein rhai ni i’w helpu nhw.” Mae hyn yn meithrin tosturi a'r cysyniad cynnar o helpu eraill.

Drwy sylwi ac ymgysylltu â'ch babi neu'ch plentyn bach yn y ffyrdd hyn, gallwch ei helpu i ddatblygu sylfaen gref i'w iechyd a'i les emosiynol. Cofiwch, mae pob plentyn yn unigryw, felly addaswch yr awgrymiadau hyn i gyd-fynd ag anghenion a diddordebau penodol eich plentyn.

Pum Ffordd at Les