13 - 18 Mis

  • Sesiynau chwarae: Trefnwch sesiynau chwarae gyda phlant eraill i helpu eich plentyn bach i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a chyfeillgarwch. I Rieni - Mudiad Meithrin
  • Cerdded a Rhedeg: Rhowch ddigon o le i'ch plentyn bach ymarfer cerdded a rhedeg. Mae hyn yn ei helpu i feithrin cryfder a dysgu sut i gydsymud.
  • Helpu â Thasgau: Cofiwch gynnwys eich plentyn bach mewn tasgau syml megis cadw teganau yn eu lle priodol. Mae hyn yn ei helpu i deimlo'n bwysig a dysgu cyfrifoldeb. Tiny Happy People - Activities for 12-18 month olds
  • Didolwyr Siapiau a Lliwiau: Defnyddiwch ddidolwyr siapiau a theganau addysgol eraill i wella sgiliau datrys problemau a chydsymud dwylo a llygaid eich plentyn bach. Mae'r teganau hyn yn anrhegion ardderchog y gallwch eu hawgrymu i aelodau'r teulu os byddant yn dymuno prynu anrhegion pen-blwydd neu Nadolig i'ch plentyn. How to teach your baby colours - BBC Tiny Happy People
  • Cerddoriaeth a Dawns: Chwaraewch gerddoriaeth ac anogwch eich plentyn bach i ddawnsio a symud i gyfeiliant y rhythm. Mae hyn yn ei helpu i ddatblygu ymdeimlad o rythm a chydsymud a gallwch chi gyfranogi hefyd! Gweithgareddau i'w gwneud gyda'ch plentyn 1 oed: Singing with family members - BBC Tiny Happy People

 

Adobe Stock 1134119361

19 - 24 Mis

Adobe Stock 243252868

25 - 30 Mis

  • Sesiynau Chwarae Rhyngweithiol: Trefnwch sesiynau chwarae gyda phlant eraill i helpu eich plentyn bach i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a chyfeillgarwch. I Rieni - Mudiad Meithrin
  • Blociau Adeiladu: Defnyddiwch flociau adeiladu i wella sgiliau echddygol manwl a chreadigrwydd. Mae hyn yn helpu'ch plentyn bach i ddysgu adeiladu a chreu.
  • Gweithredoedd Caredig: Anogwch eich plentyn bach i drin pobl eraill yn garedig, er enghraifft, helpu ffrind. Mae hyn yn ei helpu i ddysgu am empathi ac mae hefyd yn cynnig cyfle i chi fodelu ymddygiad caredig. Os ydych chi'n dangos gweithredoedd caredig, rydych chi'n atgyfnerthu pwysigrwydd empathi a thrugaredd, ac felly, bydd yn fwy tebygol y bydd eich plentyn yn mabwysiadu'r gwerthoedd hyn. What are positive affirmations and can they help my child? - BBC Tiny Happy People
  • Celf a Chrefft: Rhowch greonau, papur, a phaent diwenwyn i'ch plentyn bach er mwyn gallu creu celf. Mae hyn yn ei helpu i fynegi ei deimladau a'i syniadau trwy ddulliau creadigol. Why crafty play is great for children's learning? - BBC Tiny Happy People
  • Troeon Natur: Ewch â'ch plentyn bach am droeon natur a siaradwch am y pethau y gallwch chi eu gweld a'u clywed. Mae hyn yn ei helpu i ddysgu am y byd o'i gwmpas. I sicrhau y bydd hyn yn fwy diddorol fyth, cynlluniwch bicnic gyda'ch gilydd a chofiwch gynnwys eich plentyn yn y broses o'i baratoi ymlaen llaw. Mae hyn yn ychwanegu cyffro at y daith ac mae hefyd yn ei addysgu am sgiliau gwerthfawr ac yn meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb.. Benefits of Taking Baby on a Walk - BBC Tiny Happy People
  • Hyrwyddwch reolau cadarnhaol: rhai y gall plant bach gyfrannu atyn nhw a'u deall, er enghraifft, cadw teganau yn eu lle priodol/rhoi sbwriel yn y bin, i'w helpu i deimlo ei fod yn cyfrannu at fywyd yr aelwyd.
Adobe Stock 780052624

31 - 36 Mis

  • Amser gyda'r Teulu: Treuliwch amser o ansawdd uchel gyda'ch gilydd fel teulu, yn chwarae gemau a gwneud gweithgareddau. Mae hyn yn helpu'ch plentyn bach i deimlo'n ddiogel ac i deimlo bod eraill yn ei garu. Tiny Happy People - Activities for 2-3 year olds
  • Cyrsiau Rhwystrau: Gosodwch gyrsiau rhwystrau syml i herio sgiliau corfforol eich plentyn bach. Mae hyn yn ei helpu i feithrin cryfder a dysgu sut i gydsymud.
  • Helpu â Gwaith Tŷ: Ceisiwch gynnwys eich plentyn bach mewn tasgau sy'n addas o ran ei oedran, er enghraifft, gosod y bwrdd. Mae hyn yn ei helpu i ddysgu cyfrifoldeb. BBC Tiny Happy People
  • Gemau Cyfrif: Chwaraewch gemau cyfrif gan ddefnyddio eitemau cyffredin i gyflwyno cysyniadau sylfaenol mathemateg. Mae hyn yn helpu eich plentyn bach i ddysgu rhifau. The Toddler Club: Counting Activities for Kids - BBC Tiny Happy People
  • Gweithgareddau Meddylgarwch: Ymarferwch weithgareddau meddylgarwch syml, er enghraifft, anadlu'n ddwfn neu wrando ar synau lleddfol. Mae hyn yn helpu eich plentyn bach i ddysgu ymlacio. Wellbeing activities for children - BBC Tiny Happy People
  • Arddangoswch waith celf plant: ddim uwch na'u taldra, os gallwch, yn y cartref, i ddangos bod eu gwaith yn bwysig a'ch bod yn caru'r gwaith hwnnw
  • Hyrwyddo annibyniaeth. Anogwch blant i gyflawni gweithgareddau ar eu pen eu hunain i hyrwyddo eu hannibyniaeth, er enghraifft, gweini eu byrbrydau eu hunain, tywallt eu diod eu hunain a golchi eu dwylo.

 

Adnoddau a Dolenni Ychwanegol

  • Adnoddau ynghylch Creu Cysylltiadau yng Nghymru
  • Chwarae Cymru: Mae'n cynnig adnoddau a gwybodaeth am bwysigrwydd chwarae a sut mae'n helpu plant i gysylltu â'u hamgylchedd ac â phlant eraill. Chwarae Cymru
  • Blynyddoedd Cynnar Cymru - Meithrin Cysylltiadau
  • Pob Plentyn – Newyddanedig - 2 Oed – Yn eich helpu chi a'ch plentyn i dyfu gyda'ch gilydd fel teulu hapus ac iach
  • Magu Plant Rhowch amser iddo

Pum Ffordd at Les