0-3 Mis

  • Rhyngweithio Wyneb yn Wyneb: Edrychwch i fyw llygaid eich babi, gwenwch, a siaradwch ag o neu hi. Mae hyn yn helpu eich babi i deimlo ei fod eraill yn ei garu a dechrau deall cyfathrebu. Gall gor-ddefnyddio ffonau symudol ymyrryd â'r profiadau rhyngweithio hollbwysig hyn. Pan fydd baban neu blentyn ifanc yn gwneud siarad babi, yn ystumio, neu'n crio, a bydd oedolyn yn ymateb yn briodol, bydd yn helpu i feithrin a chryfhau cysylltiadau niwral yn ymennydd y plentyn. NHS - Bonding with Your Baby a Tiny Happy People - Activities for 0-3 month olds a Serve and Return: Back-and-forth exchanges
  • Tylino Ysgafn: Tylinwch eich babi'n ysgafn i'w helpu i ymlacio a gwella llif ei waed. NCT - Baby Massage
  • Ysgogi'r Synhwyrau: Rhowch wahanol weadau a synau i'ch babi i'w harchwilio. Mae hyn yn helpu ei ymennydd i dyfu. BBC Tiny Happy People
  • Arsylwch Adweithiau: Gwyliwch sut mae eich babi yn ymateb i wahanol bethau a newidiwch y pethau y byddwch yn eu gwneud yn seiliedig ar ei ymatebion. CBeebies - Social and Emotional Development
Adobe Stock 246002213

4 - 6 Mis

Divider

7 - 9 Mis

Divider

10 - 12 Mis

  • Chwarae Rhyngweithiol: Chwaraewch gemau fel pentyrru blociau neu roi gwrthrychau mewn pethau gyda'ch babi. Mae hyn yn ei helpu i ddysgu sgiliau datrys problemau. Play for all ages - Make Time 2 Play
  • Sefyll a Chrwydro: Helpwch eich babi i sefyll a chymryd camau wrth ddal gafael mewn dodrefn. Mae hyn yn ei helpu i baratoi at gerdded. BBC Tiny Happy People Baby Cruising - My BabyManual
  • Canmol Ymdrechion: Canmolwch eich babi pan fydd yn rhoi cynnig ar bethau newydd. Mae hyn yn meithrin ei hyder. NHS - Bonding with Your Baby
  • Gemau Syml: Chwaraewch gemau syml sy'n cynnwys datrys problemau a sgiliau echddygol manwl. Mae hyn yn helpu eich babi i ddysgu a thyfu. Tiny Happy People: Activities for 9-12 month olds
  • Troeon Natur: Ewch â'ch babi am droeon byr mewn mannau naturiol. Siaradwch am y pethau y gallwch chi eu gweld, eu clywed, eu cyffwrdd a'u harogli. Mae hyn yn ei helpu i ddysgu am y byd. Archwilio’r tu Allan
Adobe Stock 246002213 Adobe Stock 728383018 Adobe Stock 527801109 Adobe Stock 441997910

Pum Ffordd at Les