13 - 18 Mis

Gallaf ddechrau dod yn fwy annibynnol a mynegi mwy.

Adobe Stock 243252868

19 - 24 Mis

Gallaf ddechrau datblygu ymdeimlad o bwy ydw i a phwy yw pobl eraill.

  • Chwarae Dychmygus: Anogwch chwarae dychmygus gan ddefnyddio doliau, anifeiliaid wedi'u stwffio, neu geginau chwarae. Mae'r math hwn o chwarae yn ei helpu i ddeall gwahanol rolau a senarios. Crëwch linellau straeon syml a gadewch i'ch babi actio'r straeon hynny. 10 Imaginative Play Activities Your Children Will Love - Early Years Resources
  • Gweithgareddau Celf: Darparwch greonau a phapur i luniadu a lliwio er mwyn gallu bod y greadigol. Gall gweithgareddau artistig wella sgiliau echddygol manwl a mynegiant emosiynol. Arddangoswch ei waith celf i ddangos eich bod yn ei werthfawrogi. 21 Ideas for Crafts with Toddlers | Pampers UK
  • Rhyngweithio Cymdeithasol: Trefnwch sesiynau chwarae gyda phlant eraill i ddatblygu sgiliau cymdeithasol. Mae rhyngweithio â chyfoedion yn bwysig o ran dysgu cydweithredu a datblygu empathi. Goruchwyliwch ac arweiniwch ei ryngweithio i annog rhannu a chyfranogi bob yn ail. 40 Engaging Playdate Ideas for Toddlers and Little Kids
  • Posau: Cyflwynwch bosau syml i'w helpu i ddatblygu sgiliau datrys problemau. Dechreuwch â darnau mawr a thrwchus, a chychwynnwch ddefnyddio posau mwy cymhleth yn raddol. 10 Puzzle Activities for Toddlers, Preschoolers, and Babies that Promote Learning - Speak. Chwarae Cariad
  • Coginio Gyda'n Gilydd: Cynhwyswch eich babi mewn tasgau coginio syml, er enghraifft, troi neu dywallt cynhwysion. Gall hyn ei addysgu am fesuriadau, gweadau, a dilyn cyfarwyddiadau. Cooking with toddlers: Activity idea for 18 months - BBC Tiny Happy People
  • Archwilio Mannau yn yr Awyr Agored: Ewch â'ch babi i barciau neu feysydd chwarae i archwilio gwahanol amgylcheddau a rhyngweithio â phlant eraill. Anogwch ddringo, llithro a rhedeg i ddatblygu ei sgiliau corfforol. Out & About
  • Archwilio trwy ailadrodd. Ailadroddwch lyfrau, caneuon, posau neu arferion y mae eich babi wrth eu bod â hwy, Byddwch yn amyneddgar wrth gyfranogi a mynegwch frwdfrydedd: “Mi wnest ti gofio beth sy'n dod nesaf!” Mae hyn yn helpu i feithrin cof, hyder a dirnadaeth ddofn trwy ymarfer.
  • Blwch gwthio a thynnu. Torrwch dyllau mewn blwch cardbord a rhowch wrthrychau y tu mewn iddo i'w gwthio neu eu tynnu (e.e. sgarffiau, sanau, teganau bach). Dywedwch beth mae eich baban yn ei wneud - “fe wnest ti dynnu hwnna trwy'r twll; rŵan, ceisia ei wthio i mewn.” Mae hyn yn datblygu cydsymud echddygol manwl, datrys problemau, a geirfa yn ymwneud â chyfeiriadau.
Adobe Stock 331955335

25 - 36 Mis

Gallaf ddechrau dod yn fwy ymwybodol o fy emosiynau a'm hamgylchedd.

  • Garddio: Ceisiwch gynnwys eich babi mewn tasgau garddio syml fel dyfrio planhigion i gysylltu â natur. Gall garddio addysgu cyfrifoldeb a gofal am bethau byw. Rhowch gyfle i'ch babi blannu hadau a gwylio'r planhigion yn tyfu. Exciting Gardening Activities for Preschoolers | Twinkl | Blog
  • Ymwybyddiaeth Ofalgar: Addysgwch weithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar syml, er enghraifft, anadlu'n ddwfn neu sylwi ar wahanol synau. Gall ymwybyddiaeth ofalgar ei helpu i reoli emosiynau a datblygu ffocws. Ymarferwch anadlu'n ddwfn gyda'ch gilydd a siaradwch am sut mae hynny'n gwneud iddo/iddi deimlo. Wellbeing activities for children - BBC Tiny Happy People
  • Amser Teuluol: Treuliwch amser o ansawdd uchel gyda'ch gilydd, yn siarad am sut ddiwrnod a gafodd a beth wnaeth ei fwynhau. Gall rhannu profiadau gryfhau cysylltiadau teuluol a gwella cyfathrebu. Gofynnwch gwestiynau penagored i annog sgwrsio. Chatting and building sentences: 2 to 3 years - NHS Tiny Happy People - Activities for 2-3 year olds
  • Prosiectau Crefft: Mwynhewch brosiectau crefft fel gwneud collages neu beintio i annog creadigrwydd. Defnyddiwch amrywiaeth o ddeunyddiau fel papur, glud a gwrthrychau naturiol. 30+ Nature Art for Kids: Fun and Easy Arts and Crafts Ideas
  • Gemau yn yr Awyr Agored: Chwaraewch gemau yn yr awyr agored fel cuddio neu ddal i annog gweithgarwch corfforol. Crëwch gyrsiau rhwystrau neu chwaraewch gampau syml i alluogi eich babi i gadw'n heini. . Out & About
  • Adrodd Straeon: Anogwch eich babi i adrodd ei stori ei hun gan ddefnyddio lluniau neu deganau i ymhelaethu. Retelling a story with preschoolers - Activity for 3 year olds - BBC Tiny Happy People
  • Dilynwch ei chwilfrydedd. Os bydd eich babi yn dangos chwilod, tryciau, neu'r lleuad i chi - rhowch sylw i hynny. Mae hyn yn annog dysgu hunangyfeiriedig a chyffro ynghylch darganfod pethau. Manteisiwch ar hyn drwy brynu llyfrau neu bosau yn ymwneud â phethau y mae'n dangos diddordeb ynddyn nhw e.e. “ti'n hoff iawn o chwilod, 'dwyt?”
  • Cerdded dros weadau (troednoeth neu chwarae â'r dwylo). Rhowch hambyrddau neu ddalennau plastig ar y llawr a'u gorchuddio â gwahanol ddeunyddiau (glaswellt, tywod, ffabrig, reis, sbyngau) a gadewch i'ch plentyn bach archwilio'r gwahanol weadau. Dywedwch bethau fel, “Mae hwn yn feddal,” neu “mae hwn yn oer” neu gofynnwch, “sut mae’n teimlo?” Mae hyn yn annog datblygu'r synhwyrau ac iaith ddisgrifiadol a rhoi sylw i fanylion.
  • Ceisiwch rewi teganau mewn iâ. Gallwch rewi teganau bach mewn hambyrddau ciwbiau iâ, neu mewn balŵns dŵr. Rhowch ddŵr cynnes ac offer (llwy, diferwr) i'ch plentyn bach fel y gall doddi'r iâ. Mae hyn yn gwella ei ddealltwriaeth o achosion ac effeithiau, cysyniadau gwyddoniaeth ac amynedd. Toys in Ice

 

Drwy annog eich babi neu'ch plentyn bach i ddal ati i ddysgu ac archwilio, gallwch ei helpu i ddatblygu sylfaen gref ar gyfer chwilfrydedd a hyder gydol oes. Cofiwch, mae pob plentyn yn unigryw, felly addaswch yr awgrymiadau hyn i gyd-fynd ag anghenion a diddordebau penodol eich plentyn.

Pum Ffordd at Les