13 - 18 Mis
- Sesiynau chwarae: Trefnwch sesiynau chwarae gyda phlant eraill i annog gweithgarwch cymdeithasol a chorfforol. Mae hyn yn helpu'ch plentyn bach i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a dysgu rhyngweithio â'i gyfoedion. Chwiliwch am syniadau ynghylch sesiynau chwarae.
- Cerdded a Rhedeg: Darparwch ddigon o le i'ch plentyn bach ymarfer cerdded a rhedeg. Mae hyn yn helpu i ddatblygu ei sgiliau echddygol bras a'i allu i gydsymud.
- Annog Chwarae: Anogwch eich plentyn bach i chwarae ac archwilio ei amgylchedd. Mae hyn yn cynorthwyo â'i chwilfrydedd a'i ddatblygiad gwybyddol. Play for all ages - Make Time 2 Play
- Didoli Siapiau: Defnyddiwch ddidolwyr siapiau i helpu'ch plentyn bach i ddatblygu sgiliau datrys problemau a chydlynu symudiadau'r dwylo a'r llygaid. Mae hyn hefyd yn ei helpu i ddod i wybod am siapiau a lliwiau sylfaenol.
- Chwarae yr Awyr Agored: Ewch â'ch plentyn bach allan i archwilio a chwarae mewn gwahanol amgylcheddau. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd i fwynhau gweithgarwch corfforol a phrofiadau synhwyraid. Archwilio’r tu allan.

19 - 24 Mis
- Chwarae Ffugio: Anogwch chwarae ffugio sy'n cynnwys symudiadau, er enghraifft, chwarae tŷ bach neu goginio. Mae hyn yn cynorthwyo i ddatblygu ei ddychymyg a'i sgiliau cymdeithasol.
- Archwilio Mannau yn yr Awyr Agored: Ewch â'ch plentyn bach i'r parc neu'r ardd i archwilio natur a chwarae â theganau awyr agored. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd i fwynhau gweithgarwch corfforol a phrofiadau synhwyraid. Archwilio’r tu allan.
- Rhannu Gweithgareddau: Anogwch eich plentyn bach i rannu a chyfranogi yn ei dro yn ystod gweithgareddau corfforol. Mae hyn yn eu helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a dysgu cydweithio ag eraill.
- Posau Syml: Cyflwynwch bosau syml sy'n gofyn am symudiadau a chydsymud. Mae hyn yn cynorthwyo i ddatblygu ei sgiliau datrys problemau a'i sgiliau echddygol manwl.
- Troeon Natur: Ewch am droeon natur a siaradwch am y pethau rydych chi'n eu gweld a'u clywed. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd i fwynhau gweithgarwch corfforol ac i ddatblygu iaith. Archwilio’r tu allan.

25 - 30 Mis
- Sesiynau Chwarae Rhyngweithiol: Trefnwch sesiynau chwarae gyda phlant eraill i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a chyfeillgarwch. Mae hyn yn helpu'ch plentyn bach i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a dysgu rhyngweithio â'i gyfoedion.
- Blociau Adeiladu: Defnyddiwch flociau adeiladu i wella sgiliau echddygol manwl a chreadigrwydd. Mae hyn yn cynorthwyo i ddatblygu ei sgiliau gwybyddol a'i sgiliau datrys problemau.
- Helpu â Gwaith Tŷ: Cofiwch gynnwys eich plentyn bach mewn tasgau priodol i'w oedran sy'n gofyn am symudiadau, er enghraifft, codi teganau oddi ar y llawr neu helpu â thasgau golchi dillad. Mae hyn yn cynnig cyfle i'ch babi ddysgu am gymryd cyfrifoldeb ac yn helpu â'i ddatblygiad corfforol.
- Celf a Chrefft: Rhowch greonau, papur, a phaent diwenwyn i'ch plentyn bach er mwyn gallu creu celf. Mae hyn yn cynorthwyo i ddatblygu ei greadigrwydd a'i sgiliau echddygol manwl. Archwiliwch syniadau celf a chrefft. Sensory Play In The Early Years | Early Years Resources
- Gemau Symud: Chwaraewch gemau sy'n cynnwys symudiadau, er enghraifft, Mae Seimon yn Dweud, neu Gwnewch yr Un Fath â Fi. Mae hyn yn helpu i ddatblygu ei sgiliau echddygol bras a'i allu i gydsymud.

31 - 36 Mis
- Amser gyda'r Teulu: Treuliwch amser o ansawdd uchel gyda'ch gilydd fel teulu, yn chwarae gemau a gwneud gweithgareddau. Mae hyn yn helpu i ddatblygu yn gymdeithasol ac yn emosiynol. Archwilio’r tu allan.
- Cyrsiau Rhwystrau: Gosodwch gyrsiau rhwystrau syml i herio sgiliau corfforol eich plentyn bach. Mae hyn yn helpu i ddatblygu ei sgiliau echddygol bras a'i allu i gydsymud.
- Helpu â Thasgau: Cofiwch gynnwys eich plentyn bach mewn tasgau syml sy'n gofyn am symudiadau, er enghraifft, gosod y bwrdd. Mae hyn yn cynnig cyfle i'ch babi ddysgu am gymryd cyfrifoldeb ac yn helpu â'i ddatblygiad corfforol.
- Gemau Cyfrif: Chwaraewch gemau cyfrif gan ddefnyddio eitemau cyffredin i gyflwyno cysyniadau sylfaenol mathemateg. Mae hyn yn cynorthwyo i ddatblygu ei sgiliau gwybyddol a'i sgiliau rhifedd. Helping my Child to Count: Activities for Toddlers - Twinkl
- Gweithgareddau Dawnsio a Chanu: Ymarferwch weithgareddau syml sy'n cynnwys symudiadau, er enghraifft, canu a dawnsio. Mae hyn yn helpu i ddatblygu eu cydbwysedd a'u hyblygrwydd. CBeebies Watch & Sing - / CBeebies - BBC CBeebies Radio - CBeebies - BBC / Cywioci - Dewch i Ddawnsio - Cyw