0 - 3 Mis
Tylino Ysgafn: Rhwbiwch freichiau, coesau a chefn eich babi yn ysgafn gan symud eich dwylo mewn cylchoedd. Mae'n deffro synnwyr cyffwrdd eich babi. Mae hyn yn ei helpu i ymlacio a theimlo'n agos atoch chi. Chwaraewch gerddoriaeth dyner neu canwch hwiangerdd wrth i chi dylino. Deffrowch synnwyr clywed y babi. Gall hyn greu amgylchedd lleddfol a helpu i sefydlu trefn amser gwely. Pylwch y goleuadau. Helpwch eich babi i ymlacio a chryfhau'r cysylltiad rhyngoch chi. Hwiangerddi babanod
Rhianta Ymatebol: Rhowch sylw i synau a gweithredoedd eich babi. Ymatebwch i'w angen, cadwch ddyddiadur i gofnodi synau gwahanol eich babi a sut rydych chi'n ymateb. Gall hyn eich helpu i adnabod patrymau a deall anghenion eich babi yn well.

4 - 6 Mis
Annog Symud: Gosodwch deganau ychydig y tu hwnt i gyrraedd eich babi i wneud iddo droi drosodd a throsodd neu gropian. Crëwch le diogel a man chwarae gan ddefnyddio matiau meddal a theganau lliwgar. Mae hyn yn annog eich babi i archwilio a datblygu ei sgiliau echddygol. Efallai y bydd eich babi yn hoffi gafael mewn gwrthrychau a'u harchwilio. Gall eich babi archwilio gwrthrychau â'i geg, eu hysgwyd a'u taro. Rhowch gyfle i'ch babi symud a thyfu. Gross motor skills (babies and toddlers) - Children’s Integrated Therapies
Gwenu ar eich Gilydd: Gwenwch ar eich babi a gwnewch gyswllt llygaid ag ef neu hi i feithrin cysylltiad cryf rhwng y ddau ohonoch chi. Defnyddiwch ddrych i chwarae gemau fel y gallwch chi a'ch babi weld eich gilydd a gwenu. Gall hyn helpu eich babi i adnabod ei lun yn y drych a datblygu sgiliau cymdeithasol. Helpwch eich baban i brofi llawenydd trwy wenu a meithrin cysylltiad. How to bond with your baby | NSPCC

7 - 9 Mis
Chwarae Cefnogol: Helpwch eich babi i eistedd yn gefnsyth, cropian, neu sefyll trwy roi cymorth iddo/iddi. Defnyddiwch glustogau neu gorlan chwarae i greu lle diogel i ymarfer. Mae hyn yn caniatáu i'ch babi roi cynnig ar symudiadau newydd yn hyderus ac yn ddiogel. Rhowch y cymorth sydd ei hangen ar eich babi i'w alluogi i archwilio symudiadau newydd. Baby and toddler play ideas - NHS
Rhannu Teganau: Chwaraewch â theganau gyda'ch gilydd a chwaraewch yn eich tro fel y gall eich babi ddysgu rhannu pethau. Defnyddiwch ymadroddion syml fel "fy nhro i" a "dy dro di" i helpu eich fabi i ddeall beth yw rhannu pethau. Gall hyn osod sylfeini ar gyfer chwarae cydweithredol wrth i'ch babi dyfu'n hŷn. Helpwch eich babi i ddatblygu sgiliau rhannu a chwarae'n gydweithredol. Tiny Happy People - Activities for 6-9 month olds

10 - 12 Mis
Canmol ac Annog: Anogwch eich babi pan fydd yn ceisio sefyll neu gerdded. Crëwch gwrs rhwystrau bach â chlustogau a theganau i annog symud. Gall hyn sicrhau bod dysgu cerdded yn brofiad difyr a chyffrous i'ch babi. Anogwch eich babi i droedio ei gamau cyntaf. Activities to support your baby's movement
Chwarae Rhyngweithiol: Chwaraewch gemau sy'n cynnwys rhannu a chymryd troeon, er enghraifft, pentyrru blociau. Defnyddiwch deganau sy'n gwneud synau neu'n goleuo i gynnal diddordeb eich babi. Gall hyn helpu i ddatblygu ei sgiliau gwybyddol a chymdeithasol. Rhowch gyfle i'ch babi ddysgu trwy chwarae rhyngweithiol. Baby and toddler play ideas - NHS