Dyluniwch Eich Cylched Ffitrwydd Eich Hun
Ewch ati i greu gorsafoedd o amgylch eich cartref neu'ch gardd – neidiau sêr, cyrcydiadau, cerdded fel cranc – ac amserwch eich gilydd. Mae’n annog creadigrwydd a chryfder.
Cerdded a Chlonc
Ewch am dro rheolaidd gyda'ch plentyn. Gadewch iddo osod y cyflymder a siarad am ei ddiwrnod. Mae cerdded yn cefnogi iechyd meddwl yn ogystal ag iechyd corfforol.
Ymunwch â Chlwb Cymunedol
Ewch ati i roi cynnig ar grefft ymladd, pêl-droed, dawns, neu nofio trwy grwpiau lleol. Gweler [Dod o hyd i glwb Chwaraeon Cymru](https://www.chwaraeon.cymru/search/) ar gyfer opsiynau.
Helfa Drysor Natur
Ewch ati i greu rhestr o bethau i'w gweld yn yr awyr agored – plu, mochyn coed, rhywbeth melyn – ac ewch i archwilio.
Her Beic neu Sgwter
Dewiswch lwybr diogel a thracio pellter, cyflymder neu amser. Mae’n magu hyder ac yn datblygu sgiliau diogelwch ar y ffyrdd.
Traciwr Symudiad Dyddiol
Ewch ati i greu traciwr symudiad wythnosol gyda'ch plentyn. Defnyddiwch sticeri neu ddotiau lliw i nodi bob dydd roeddech chi'n egnïol gyda'ch gilydd. Gosodwch nodau ysgafn fel 'symud bob dydd am 10 munud' neu 'rhowch gynnig ar weithgaredd newydd bob wythnos'. Dathlwch ymdrech dros berffeithrwydd!
