Gallaf deimlo'n falch ac yn llawn cyffro pan fyddaf yn dysgu pethau newydd ac yn gwneud fy ngorau.
Rhiant a Phlentyn yn Dysgu gyda'i Gilydd
Noson Ddarganfod Wythnosol
Dewiswch un noson bob wythnos i ddysgu rhywbeth gyda'ch gilydd – o wneud llysnafedd i wylio rhaglen ddogfen ar fywyd gwyllt. Gadewch i blant arwain y pwnc.
Coginio a Chyfrif
Coginiwch gyda'ch gilydd wrth ymarfer darllen (cyfarwyddiadau ryseitiau), mathemateg (mesur cynhwysion) a gwyddoniaeth (newidiadau gwres). Anogwch ragfynegiadau a chwestiynau.
Helfa Trysorau’r Llyfrgell
Ewch i'r llyfrgell leol a chreu heriau thematig (e.e. dod o hyd i lyfr am anifeiliaid, cerdd ddoniol, llyfr gyda mapiau). Ymunwch â chynlluniau darllen fel Dechrau Da.
Jar Ddysgu
Ysgrifennwch gwestiynau neu heriau ar bapur (e.e. 'Darganfyddwch pa mor hen yw'r goeden hynaf', ‘Darluniwch fap o'ch stryd') a dewiswch un bob dydd.
Pasbort Dysgu fel Teulu
Creu 'pasbort dysgu' i olrhain pethau newydd y mae eich teulu yn rhoi cynnig arnynt gyda'i gilydd. Ewch ati i gynnwys stamp neu sticer ar gyfer pob pwnc, sgil, llyfr neu antur rydych chi'n ei archwilio. Adolygwch ef yn fisol i ddathlu chwilfrydedd a dyfalbarhad.
Gwylio, Darllen, Siarad
Gwyliwch glipiau neu fideos newyddion byr sy'n addas i blant, yna gofynnwch: Beth ddysgon ni? Beth wnaeth ein synnu? Beth ydyn ni eisiau gwybod mwy amdano? [First News – News for Kids](https://www.firstnews.co.uk/)
Dolenni Defnyddiol a Chymorth Dysgu
- Cwricwlwm i Gymru – Iechyd a Lles: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/iechyd-a-lles/
- Llywodraeth Cymru – Dysgu Blynyddoedd Cynnar: https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/cynllunio-eich-cwricwlwm/galluogi-dysgu
- BIPBC – Adnoddau Datblygiad Plant: https://bipbc.gig.cymru/cyngor-iechyd/dechrau-gorau/
- NHS UK – Learning and Development (0–11): https://www.nhs.uk/conditions/baby/development/
- [Book Trust Cymru](https://www.booktrust.org.uk/resources/find-resources/great-books-guide-for-families/)