Dyddiadur Bod yn Garedig
Anogwch eich plentyn i gofnodi gweithredoedd o roi mae e’ wedi'u gwneud neu wedi bod yn dyst iddynt. Myfyriwch yn wythnosol ar sut roedd yn teimlo i roi neu dderbyn caredigrwydd.
Prosiect Rhoi Cymunedol
Dewiswch achos neu fater lleol (e.e. banc bwyd, ailgylchu, cartref gofal) ac ewch ati i greu posteri, gwneud casgliadau neu ysgrifennu negeseuon i'w gefnogi. [Gwirfoddoli Cymru – Cyfleoedd Ieuenctid](https://volunteering-wales.net/cy)
Addysgu Talent
Gofynnwch i'ch plentyn rannu rhywbeth mae’n dda am wneud â brawd neu chwaer neu ffrind – sut i ddarlunio, jyglo, neu godio. Mae addysgu yn magu hyder a chysylltiad.
Amser Gwrando
Ewch ati i ymarfer rhoi sylw llawn yn ystod y sgwrs. Chwarae gemau fel 'ailadroddwch yr hyn rydw i newydd ei ddweud' i adeiladu empathi ac amynedd.
Pot Diolchgarwch
Ychwanegwch nodyn bob dydd am rywun neu rywbeth maen nhw'n ddiolchgar amdano. Darllenwch y nodiadau gyda'ch gilydd ar ddiwedd yr wythnos.
