Taith Gerdded yr Enfys
Ewch ati i ddod o hyd i rywbeth ar gyfer pob lliw o'r enfys wrth gerdded yn yr awyr agored. Mae’n gwella arsylwi ac ymgysylltu â'r amgylchedd.
Drych Emosiwn
Cymerwch eich tro yn tynnu wynebau yn y drych ac enwi'r emosiwn - 'hapus', 'blinderus', 'pryderus', 'wedi cyffroi'. Mae’n helpu i nodi a rheoli teimladau.
Gêm Synau Natur
Eisteddwch y tu allan, neu ger ffenestr, a gwrandewch ar yr adar, y gwynt, neu geir yn y pellter. Cyfrifwch faint o synau gwahanol y gallwch eu clywed mewn munud.
Her Synhwyrau
Enwch un peth y gallwch ei weld, ei glywed, ei arogl, ei gyffwrdd a’i flasu. Ewch ati i ymarfer hyn cyn amser gwely i dawelu'r corff a'r meddwl.
Jar Meddwl
Ewch ati i greu jar ymdawelu gyda llwch llachar a dŵr. Ysgwydwch, ac anadlu'n araf wrth wylio'r llwch llachar yn setlo.
