Rwy’n gallu symud mewn ffyrdd sy'n gwneud i mi deimlo'n gryf, yn hyderus, ac yn hapus.

Rwy’n gallu cymryd camau i gadw'n iach.

Addewid Siarter y Plant

Adobe Stock 877725651

12–15 oed: Archwilio, Symud, a Chael Hwyl

More about 12–15 oed: Archwilio, Symud, a Chael Hwyl
Adobe Stock 114375390

16–18 oed: Cadw’n Actif, Cadw’n Gytbwys

More about 16–18 oed: Cadw’n Actif, Cadw’n Gytbwys

Pam Mae Bod yn Actif yn Bwysig

Mae bod yn actif yn fwy na dim ond ffitrwydd, mae hefyd yn golygu teimlo'n dda yn eich corff a'ch meddwl. P'un a ydych chi'n cerdded / olwyno, dawnsio, gwneud chwaraeon, neu ddim ond yn symud yn eich ffordd eich hun, gall gweithgarwch corfforol rheolaidd eich helpu i:

  • Canolbwyntio'n well mewn gwersi ac arholiadau
  • Adeiladu cyhyrau ac esgyrn cryf wrth i chi dyfu
  • Cynnal pwysau iach
  • Cysgu'n well
  • Teimlo'n hapusach ac o dan lai o straen

Faint Ddylwn i Fod yn Ei Wneud?

Anelwch at wneud o leiaf 60 munud o weithgarwch corfforol bob dydd. Gall hyn gynnwys:

  • Gweithgarwch aerobig cymedrol neu ddwys (fel cerdded, olwyno, rhedeg, beicio)
  • Cryfhau’r cyhyrau (fel dringo, dawnsio, neu ymarferion gwrthiant)
  • Cryfhau’r esgyrn (fel neidio, sgipio, neu chwaraeon)

Nid oes rhaid i chi wneud y cwbl ar unwaith, gallwch wneud ar adegau gwahanol drwy gydol y dydd. Mae hyd yn oed cyfnodau bach byr o symud yn cyfri!

Sut mae gwneud hyn bob dydd?

  • Gwnewch hi'n rhan o drefn eich diwrnod i gerdded / olwyno neu feicio i'r ysgol, ymunwch â chlybiau ar ôl ysgol ac Addysg Gorfforol, pan fyddwch yn adolygu cymerwch seibiannau i symud
  • Dewiswch beth bynnag rydych chi'n ei fwynhau – pêl-droed, dawns, crefft ymladd, neu sglefrfyrddio
  • Gosodwch her i chi'ch hun – rhedeg 5K, gwella eich cryfder, neu ddilyn cynllun
  • Rhowch gynnig ar rywbeth newydd – ymunwch â champfa, rhowch gynnig ar ddosbarth, neu dilynwch ymarferion am ddim ar YouTube

Beth Sy'n Cyfrif fel Gweithgarwch Cymedrol?

Os yw cyfradd eich calon yn codi a'ch bod chi'n dechrau teimlo'n gynnes, mae'n debyg eich bod chi'n gwneud gweithgarwch cymedrol. Eisiau profi hyn? Byddwch chi’n gallu siarad, ond ni fyddwch chi’n gallu canu geiriau cân.

Mae enghreifftiau'n cynnwys:

  • Cerdded / olwyno i'r ysgol
  • Reidio beic a sgwter
  • Nofio
  • Sglefrfyrddio neu llafnrolio
  • Cerdded / olwyno gyda'r ci
  • Beicio ar dir gwastad
  • Chwarae yn y maes chwarae neu'r parc
Adobe Stock 114375390

Manteision bod yn actif:

😊 Rhyddhau endorffinau, lleihau pryder

🧠 Gwella canolbwyntio a swyddogaeth yr ymennydd

💤 Yn helpu i reoleiddio patrymau cysgu

💪 Meithrin hunanbarch trwy gyflawni

🤝 Annog gwaith tîm a chyfathrebu

🧘 Helpu i reoli emosiynau a thawelu'r meddwl

Adnoddau defnyddiol eraill:

Adnoddau Lleol a Chenedlaethol i'ch Helpu i Fod yn Actif

Adnoddau yng Ngogledd Cymru

Gogledd Cymru Actif

  • Beth yw hyn: Partneriaeth ranbarthol sy'n anelu at gael mwy o bobl Gogledd Cymru yn actif.
  • Pam mae’n ddefnyddiol: Gallwch ddod o hyd i glybiau, gweithgareddau a chefnogaeth leol i gymryd rhan mewn chwaraeon neu i symud—p'un a ydych chi newydd gychwyn neu'n awyddus i roi cynnig ar rywbeth newydd.
  • Gwych ar gyfer: Dod o hyd i weithgareddau cynhwysol, cymunedol yn eich ardal.

Rhaglenni Cymru gyfan

Athletau Cymru- Plant a Phobl Ifanc

  • Beth yw hyn: Canolfan ar gyfer rhaglenni athletaidd fel Starting Blocs, Parkrun iau, QuadKids, a Sportshall.
  • Pam mae’n ddefnyddiol: Yn cynnig ffyrdd strwythuredig, hwyliog a chynhwysol o gymryd rhan mewn gweithgareddau rhedeg, neidio a thaflu.
  • Gwych ar gyfer: Pobl ifanc sy'n mwynhau gweithgareddau trac a maes neu sydd eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd.

Parkrun iau

parkrun | junior parkrun

  • Beth yw hyn: Rhedeg gyda phlant eraill 4-14 oed am 2k
  • Pam mae’n ddefnyddiol: Ffordd hwyliog, ddi-gystadleuol o fod yn actif gydag eraill yn eich cymuned
  • Gwych ar gyfer: Meithrin ffitrwydd, hyder a chyfeillgarwch

Milltir y Dydd

The Daily Mile | UK

  • Beth yw hyn: Cynllun o fewn yr ysgol lle mae disgyblion yn rhedeg, loncian, neu gerdded am 15 munud bob dydd
  • Pam mae’n ddefnyddiol: Yn helpu i sefydlu arfer dyddiol i symud ac yn cefnogi lles meddyliol
  • Mae’n wych ar gyfer: Ysgolion a grwpiau ieuenctid sy'n awyddus i hyrwyddo gweithgarwch bob dydd.

Archwilio Llwybrau Cerdded Arfordirol a Llwybrau Beicio

Pecynnau Cymorth ac Adnoddau Lles defnyddiol

 

Pobl Ifanc