Tanio eich angerdd
Beth yw hyn: Dod o hyd i’r hyn rydych chi'n ei garu ac eisiau ei wneud yn y dyfodol
Pam mae hyn yn helpu: Cryfhau’ch hunaniaeth a’ch pwrpas
Budd emosiynol: Cynyddu cymhelliant a hunanwerth
Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf gael fy nghefnogi i wneud pethau sy’n bwysig i mi.”
Gosod nodau
Beth yw hyn: Gosod nodau personol neu nodau ar gyfer gwaith gan weithio tuag atynt
Pam mae hyn yn helpu: Hybu ffocws a chyfeiriad
Budd emosiynol: Magu hyder a theimlad o lwyddiant
Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf eich ysbrydoli trwy rannu fy syniadau i wneud pethau’n well.”
Gweithio Gyda’n Gilydd
Beth yw hyn: Cydweithio ag eraill tuag at yr un nod
Pam mae hyn yn helpu: Annog cyfathrebu a gwaith tîm
Budd emosiynol: Yn cryfhau perthnasoedd a hunanymwybyddiaeth
Cyswllt â’r Siarter: “Byddwn yn fodelau rôl ac yn ymdrechu i’ch ysbrydoli.”
Ail-gydio ynddi
Beth yw hyn: Dysgu sut i ddygymod â rhwystrau ac i gadw i fynd
Pam mae hyn yn helpu: Magu gwydnwch emosiynol
Budd emosiynol: Lleihau straen a chynyddu hunan-ymddiriedaeth
Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf gael fy nghefnogi i deimlo’n dawel ac yn ddiogel.”
