Amser siarad
Beth yw hyn: Sgwrsio gyda ffrind, oedolyn dibynadwy, neu fentor
Pam mae’n helpu: Hybu ymddiriedaeth, yn helpu rhywun i deimlo eu bod yn cael eu clywed, ac yn cryfhau perthnasoedd
Budd emosiynol: Yn lleihau gorbryder ac yn hybu hunanbarch
Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf rannu fy meddyliau a chael gwrandawiad.”
Ymuno â Chlwb neu Grŵp
Beth yw hyn: Clybiau ieuenctid, grwpiau hobïau, neu gymunedau ar-lein
Pam mae’n helpu: Yn eich cysylltu chi â phobl sy'n rhannu’r un diddordebau
Budd emosiynol: Yn annog cyfeillgarwch ac ymdeimlad o berthyn
Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf gael fy nghefnogi i wneud pethau sy'n bwysig i mi.”
Her Garedigrwydd
Beth yw hyn: Gwneud rhywbeth caredig i rywun, canmol rhywun, helpu rhywun, neu ddiolch iddyn nhw
Pam mae'n helpu: Yn cryfhau perthnasoedd ac yn lledaenu positifrwydd
Budd emosiynol: Yn hybu hwyliau a hunanwerth
Cyswllt â’r Siarter: “Byddwn yn fodelau rôl a byddwn yn ymdrechu i'ch ysbrydoli.”
Gemau Gyda'n Gilydd
Beth yw hyn: Chwarae gemau cyfrifiadurol aml-chwaraewr gyda ffrindiau
Pam mae'n helpu: Yn meithrin gwaith tîm, cyfathrebu, a nodau cyffredin
Budd emosiynol: Yn cryfhau cyfeillgarwch ac yn lleihau straen
Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf gymryd amser i fwynhau'r byd o'm cwmpas.”
Cadw'n Ddiogel Ar-lein
Er y gall cysylltu ag eraill ar-lein fod yn hwyl a chynnig cefnogaeth, mae'n bwysig cadw'n ddiogel. Byddwch yn ymwybodol bob amser o'r hyn rydych chi'n ei rannu, gyda phwy rydych chi'n siarad, a sut rydych chi'n rhyngweithio ar y cyfryngau cymdeithasol, gemau, neu fforymau.
Os nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn, siaradwch ag oedolyn neu weithiwr ieuenctid dibynadwy.
Am gyngor a chymorth, ewch i dudalen diogelwch ar-lein Hwb:
https://hwb.gov.wales/cadwn-ddiogel-ar-lein/cyngor-i-blant-a-phobl-ifanc-problemau-a-phryderon-ar-lein/
