Mentora a Chymorth Cyfoedion

Beth yw hyn: Cefnogi myfyrwyr iau neu gyfoedion trwy wrando, cynnig cyngor neu arweiniad
Pam mae hyn yn helpu: Hybu empathi, arweinyddiaeth ac ymddiriedaeth
Budd emosiynol: Magu hyder a lleihau unigrwydd
Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf eich ysbrydoli trwy rannu fy syniadau i wneud pethau’n well.”

Gwirfoddoli'n Lleol

Beth yw hyn: Helpu mewn banc bwyd, siop elusen, neu ddigwyddiad cymunedol
Pam mae hyn yn helpu: Mae’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac yn eich cysylltu ag eraill
Budd emosiynol: Yn hybu hunanwerth a phwrpas
Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf gael fy nghefnogi i wneud pethau sy'n bwysig i mi.”

Defnyddio eich llais er gwell

Beth yw hyn: Ymgyrchu dros achos, ymuno â chyngor ieuenctid, neu godi ymwybyddiaeth ar-lein
Pam mae hyn yn helpu: Yn eich grymuso i greu newid ac i godi eich llais
Budd emosiynol: Yn magu hyder ac ymdeimlad o berchnogaeth
Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf rannu fy meddyliau a chael fy nghlywed.”

Caredigrwydd ar hap

Beth yw hyn: Ysgrifennu nodyn caredig, helpu ffrind, neu ganmol rhywun
Pam mae hyn yn helpu: Lledaenu positifrwydd ac yn cryfhau perthnasoedd
Budd emosiynol: Codi eich hwyliau chi a hwyliau eraill
Cyswllt â’r Siarter: “Byddwn yn fodelau rôl ac ymdrechu i’ch ysbrydoli”

Rhoi’n Ôl Trwy Greadigrwydd

Beth yw hyn: Creu celf, cerddoriaeth, neu ysgrifennu i gefnogi achos neu godi calon eraill
Pam mae hyn yn helpu: Yn fynegiant o emosiynau ac yn cysylltu pobl â’i gilydd
Budd emosiynol: Creu balchder ac yn rhyddhad emosiynol
Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf gael fy nghefnogi i deimlo’n dawel ac yn ddiogel.”

Adobe Stock 481413546

Cyfleoedd Lleol i Roi yng Ngogledd Cymru

Pobl Ifanc