Helpu Ffrind
Beth yw hyn: Gwrando, helpu gyda gwaith cartref, neu godi calon rhywun
Pam mae hyn yn helpu: Yn hybu ymddiriedaeth ac yn dangos bod yr unigolyn yn bwysig i chi
Budd emosiynol: Cryfhau cyfeillgarwch ac yn gwella'ch hwyliau
Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf rannu fy meddyliau a chael fy nghlywed.”
Rhoi Help Llaw yn y Cartref
Beth yw hyn: Helpu gyda’r gwaith tŷ, coginio, neu ofalu am frodyr a chwiorydd
Pam mae hyn yn helpu: mae’n dangos cyfrifoldeb ac yn helpu eich teulu
Budd emosiynol: Yn magu hyder a gwerthfawrogiad
Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf gael fy nghefnogi i wneud pethau sy'n bwysig i mi.”
Gwneud Rhywbeth dros Rywun
Beth yw hyn: Tynnu llun, anfon cerdyn, neu bobi rhywbeth neis
Pam mae hyn yn helpu: Mae’n dangos caredigrwydd a chreadigrwydd
Budd emosiynol: Hybu hunanbarch ac yn creu llawenydd
Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf eich ysbrydoli trwy rannu fy syniadau i wneud pethau'n well.”
Codi arian at achos da
Beth yw hyn: Trefnu arwerthiant cacennau, ras hwyl, neu ddigwyddiad elusennol
Pam mae hyn yn helpu: Codi ymwybyddiaeth ac yn cefnogi eraill
Budd emosiynol: Yn hybu gwaith tîm a’r ymdeimlad o bwrpas
Cyswllt â’r Siarter: “Byddwn yn fodelau rôl ac yn ymdrechu i'ch ysbrydoli.”
Dweud Rhywbeth Caredig
Beth yw hyn: Canmol, diolch, neu annog rhywun
Pam mae hyn yn helpu: Gwneud i eraill deimlo'n dda ac yn creu awyrgylch cadarnhaol
Budd emosiynol: Yn codi eich hwyliau chi a hwyliau eraill
Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf gymryd amser i fwynhau'r byd o'm cwmpas.”

Ffyrdd o Roi yn lleol yng Ngogledd Cymru
- Prosiectau Cyngor Ysgol – Helpu i wella eich ysgol a chefnogi eich cyd-ddisgyblion
- Clybiau Ieuenctid – Ymuno â phrosiectau cymunedol a digwyddiadau codi arian
- Grwpiau Gofalwyr Ifanc – Cefnogi eraill tra’n derbyn cefnogaeth i chi eich hun
- Timau Eco – Helpu'r amgylchedd a'ch cymuned