Rhoi Cynnig ar Rywbeth Newydd

Beth yw hyn: Rhoi cynnig ar hobi, sgil, neu bwnc newydd
Pam mae hyn yn helpu: Magu hyder ac yn eich helpu i ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n ei fwynhau
Budd emosiynol: Hybu hunanbarch a chymhelliant
Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf gael fy nghefnogi i wneud pethau sy'n bwysig i mi.”

Dyfal donc

Beth yw hyn: Daliwch ati hyd yn oed pan fydd rhywbeth yn anodd
Pam mae hyn yn helpu: Magu gwydnwch a meddylfryd twf
Budd emosiynol: Yn cynyddu dyfalbarhad a hunan-gred
Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf gael fy nghefnogi i deimlo'n dawel ac yn ddiogel.”

Dysgu o Gamgymeriadau

Beth yw hyn: Deall ei bod hi’n iawn i wneud camgymeriadau
Pam mae hyn yn helpu: Annog rhywun i ystyried a dysgu wrth fynd ymlaen
Budd emosiynol: Yn lleihau ofn methu ac yn magu hyder
Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf eich ysbrydoli trwy rannu fy syniadau i wneud pethau'n well.”

Prosiectau Creadigol

Beth yw hyn: Gweithio ar rywbeth creadigol trwy gelf, cerddoriaeth, ysgrifennu, neu lunio eich gwaith creadigol eich hun
Pam mae hyn yn helpu: Hybu gwaith tîm a dychymyg
Budd emosiynol: Meithrin balchder a chysylltiad
Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf rannu fy meddyliau a chael fy nghlywed.”

Adobe Stock 487747048

Pobl Ifanc