Dawnsio

  • Beth yw hyn: Dawnsio rhydd neu ddilyn cyfarwyddiadau ar-lein.
  • Pam mae’n helpu: Yn rhoi hwb i hwyliau, yn gwella cydlyniad, ac yn rhyddhau hormonau teimlo'n dda.
  • Budd emosiynol: Yn helpu i fynegi emosiynau a lleihau pryder.
  • Cyswllt â’r Siarter“Byddwn yn eich helpu a'ch cefnogi i fyw'n iach.”
  • Rhowch gynnig arni: Chwiliwch am syniadau ar gyfer dulliau dawnsio ar YouTube

Cerdded / Olwyno er lles

  • Beth yw hyn: Cerdded gyda ffrind, aelod o'r teulu, neu ar eich pen eich hun
  • Pam mae’n helpu: Mae’n clirio eich meddwl, yn gwella iechyd y galon, ac yn annog sgyrsiau agored
  • Budd emosiynol: Yn creu cysylltiadau ac yn lleihau teimladau o unigedd
  • Cyswllt â’r Siarter“Gallaf eich ysbrydoli chi trwy rannu fy syniadau i wneud pethau'n well.”
  • Rhowch gynnig arni: Archwilio'r tu allan

Rhoi cynnig ar rywbeth newydd

  • Beth yw hyn: Rhoi cynnig ar gamp neu weithgaredd newydd fel dringo, crefft ymladd, neu nofio
  • Pam mae’n helpu: Mae’n magu gwydnwch, hyder, a sgiliau datrys problemau
  • Budd emosiynol: Mae goresgyn heriau yn rhoi hwb i hunanbarch
  • Cyswllt â’r Siarter: “Byddwn yn fodelau rôl ac yn ymdrechu i’ch ysbrydoli.”
  • Archwilio: Gogledd Cymru Actif

Ymestyn

  • Beth yw hyn: Ioga, ymestyn, neu symud yn feddylgar
  • Pam mae’n helpu: Yn gwella hyblygrwydd, osgo, ac yn lleihau tensiwn yn y cyhyrau
  • Budd emosiynol: Yn tawelu'r system nerfol ac yn helpu i reoli straen
  • Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf gymryd camau i gadw'n iach.”
  • Rhowch gynnig arni:  Yoga gydag Adriene

Ymunwch â Thîm

  • Beth yw hyn: Chwarae pêl-droed, pêl-fasged, pêl-rwyd, neu unrhyw chwaraeon tîm
  • Pam mae’n helpu: Yn adeiladu gwaith tîm, disgyblaeth, a ffitrwydd corfforol
  • Budd emosiynol: Yn creu ymdeimlad o berthyn a nodau cyffredin
  • Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf gael cefnogaeth i wneud pethau sy'n bwysig i mi.”
  • Dewch o hyd i glybiau lleol: Gogledd Cymru Actif
Adobe Stock 877725651

Pobl Ifanc