Pam mae’n bwysig:
Rydych chi'n dod yn fwy annibynnol ac yn sgil hynny daw'r gallu i lunio eich lles eich hun. Mae bod yn actif yn eich helpu i reoli straen, cadw ffocws, a theimlo bod gennych fwy o reolaeth dros eich bywyd.
Syniadau am Weithgareddau a’u Manteision
Ymarferion yn y Cartref neu yn y Gampfa
- Beth yw hyn: Ymarferion pwysau corff, Hyfforddiant Cyfnodol Dwyster Uchel HIIT, neu heriau ffitrwydd
- Pam mae’n helpu: Magu cryfder, stamina, ac yn rhoi hwb i egni
- Budd emosiynol: Cynyddu cymhelliant a hunanddisgyblaeth
- Cyswllt â’r Siarter:“Gallaf gymryd camau i gadw'n iach.”
- Rhowch gynnig arni: Chwiliwch am eich clwb lleol yn eich ardal neu rhowch gynnig ar fideo YouTube am ddim gan Joe Wicks YouTube video gyda Joe Wicks
Gwirfoddoli yn yr Awyr Agored
- Beth yw hyn: Helpu mewn gerddi cymunedol lleol, glanhau ardaloedd mewn grwpiau, neu brosiectau cymunedol.
- Pam mae'n helpu: Yn eich cadw i symud ac yn rhoi ymdeimlad o bwrpas
- Budd emosiynol: Yn meithrin hunanwerth a chysylltiad â'ch cymuned
- Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf eich ysbrydoli trwy rannu fy syniadau i wneud pethau'n well.”
- Rhowch gynnig arni: Gwirfoddoli Cymru
Archwilio eich ardal
- Beth yw hyn: Cerdded / olwyno, heicio, neu feicio yn eich ardal leol
- Pam mae’n helpu: Yn gwella ffitrwydd, yn hybu creadigrwydd, ac yn eich cysylltu â natur
- Budd emosiynol: Yn eich helpu i deimlo tawelwch a chysylltiad â'ch amgylchedd
- Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf gymryd amser i fwynhau'r byd o'm cwmpas.”
- Rhowch gynnig arni: https://wellbeing.staging2.viewcreative.agency/cy/archwilior-tu-allan.
Symud Meddylgar
- Beth yw hyn: Ioga, Tai Chi neu ymarferion anadlu
- Pam mae’n helpu: Yn hybu rheoleiddio emosiynol a lleihau pryder
- Budd emosiynol: Yn eich helpu i deimlo'n dawel ac yn esmwyth
- Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf gael fy nghefnogi i deimlo'n dawel ac yn ddiogel.”
- Rhowch gynnig arni: Headspace
Dechrau Coginio
- Beth yw hyn: Paratoi prydau bwyd neu fyrbrydau sy'n rhoi maeth i’ch corff
- Pam mae’n helpu: Annog bwyta'n iach ac annibyniaeth
- Budd emosiynol: Gall coginio fod yn greadigol, yn ymlaciol, a gall godi hyder
- Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf ddysgu sut i ofalu amdanaf i fy hun.”
- Archwilio: Easy recipes for students - BBC Food
