Gallaf gymryd amser i fyfyrio a meddwl a mwynhau'r foment, gall gwerthfawrogi amser ar fy mhen fy hun roi cyfle i mi ymlacio.
Adnabod a Chydnabod
- Beth yw hyn: Meddwl am eich gwerthoedd, eich credoau, a'r hyn sy'n eich gwneud chi'n unigryw
- Pam mae hyn yn eich helpu: Yn magu hyder a’r gallu i dderbyn chi eich hun fel yr ydych
- Budd emosiynol: Yn annog balchder yn yr hyn ydych chi
- Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf dderbyn a bod yn hapus gyda mi fy hun.”
Datgysylltu Digidol
- Beth yw hyn: Cymryd seibiant o sgriniau a chyfryngau cymdeithasol.
- Pam mae hyn yn helpu: Llai o gymharu ag eraill a gorsymbylu.
- Budd emosiynol: Yn gwella cwsg ac eglurder meddyliol
- Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf gael fy nghefnogi i fyw'n iach.”
Pecyn Cymorth Ymlacio
- Beth yw hyn: Creu rhestr o bethau sy'n eich helpu i ymlacio fel darllen, tynnu lluniau, ymestyn
- Pam mae hyn yn helpu: Mae’n rhoi strategaethau defnyddiol i chi ddefnyddio pan fyddwch chi'n teimlo dan straen
- Budd emosiynol: Yn meithrin gwydnwch a diogelwch emosiynol
- Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf gymryd amser i fwynhau'r byd o'm cwmpas.”
