Rwy’n gallu adnabod fy emosiynau a chymryd amser i fyfyrio ar y rhain i ddysgu amdanaf i fy hun
Saib ym myd Natur
- Beth yw hyn:Treulio amser yn yr awyr agored yn cerdded, yn eistedd mewn parc, neu'n mwynhau byd natur
- Pam mae hyn yn helpu: Mae natur yn tawelu'ch meddwl ac yn rhoi hwb i'ch hwyliau
- Budd emosiynol: Lleihau straen ac yn cynyddu hapusrwydd
- Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf gael fy nghefnogi i deimlo'n dawel ac yn ddiogel.”
Cofnodi Myfyriol
- Beth yw hyn: Cofnodi meddyliau, teimladau, neu bethau rydych chi'n ddiolchgar amdanyn nhw
- Pam mae hyn yn helpu: Yn eich helpu i ddeall eich hun ac i brosesu emosiynau
- Budd emosiynol: Meithrin llythrennedd emosiynol a gwydnwch
- Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf rannu fy meddyliau a chael fy nghlywed.”
Cyfnodau i Fyfyrio
- Beth yw hyn: Gwrando ar gerddoriaeth, gwneud ymarferion anadlu neu feddwlgarwch dan arweiniad.
- Pam mae hyn yn helpu: Yn ffordd i ymlacio a rheoleiddio emosiynau
- Budd emosiynol: Yn eich helpu i deimlo eich bod yn gallu rheoli pethau ac i deimlo’n llai pryderus
- Cyswllt â’r Siarter: “Gallaf gael fy nghefnogi i deimlo'n dawel ac yn ddiogel.”
